Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae peiriannydd adran dwnelu yn ymwneud â’r gwaith o gynllunio a dylunio prosiectau twnelu. Gall hyn gynnwys dylunio strwythurau twnnel a chaffael y deunyddiau sydd eu hangen i’w hadeiladu.
£25000
-£45000
42-45
Mae sawl ffordd o ddod yn beiriannydd adran dwnelu. Gallech gwblhau gradd prifysgol neu gwrs coleg, prentisiaeth, neu wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr.
Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu arnoch i weithio ar safle adeiladu.
Fel arfer, i fod yn beiriannydd adran dwnelu, bydd angen i chi gael gradd mewn pwnc perthnasol, fel:
Fel arfer bydd angen 2 - 3 lefel A, neu gymhwyster cyfatebol, arnoch.
> Eglurhad o’r gofynion mynediad cyfatebol
Gallech astudio mewn coleg i'ch helpu i ddod yn beiriannydd adran dwnelu. Mae cyrsiau coleg perthnasol yn cynnwys:
Fel arfer, bydd angen 1 - 2 lefel A, neu gymhwyster cyfatebol, arnoch i astudio am HNC neu HND.
> Eglurhad o’r gofynion mynediad cyfatebol
> Dod o hyd i gwrs yn eich ardal chi
Gallech chi gwblhau gradd-brentisiaeth fel peiriannydd sifil ac wedyn arbenigo mewn bod yn beiriannydd adran dwnelu.
Bydd angen y canlynol arnoch chi:
Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.
> Dod o hyd i brentisiaeth yn eich ardal chi
Os oes gennych chi rywfaint o brofiad mewn rôl beirianyddol, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni i gael profiad ar safle fel peiriannydd adran dwnelu. Gallech chi ddechrau fel cynorthwyydd i beiriannydd adran dwnelu mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel peiriannydd adran dwnelu. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.
> Dysgwch fwy am brofiad gwaith
Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel peiriannydd adran dwnelu:
Fel peiriannydd adran dwnelu, byddwch yn gyfrifol am ddylunio, cynllunio a rhaglennu prosiectau twnelu.
Gall swydd peiriannydd adran dwnelu gynnwys y dyletswyddau canlynol:
Mae’r cyflog disgwyliedig i beiriannydd adran dwnelu yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant
Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf i beirianwyr adran dwnelu:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Fel peiriannydd adran dwnelu, gallech chi drosglwyddo eich sgiliau i rôl debyg fel peiriannwr sifil neu beiriannydd strwythurol.
Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod