Facebook Pixel

Pensaer tirlunio

Mae penseiri tirlunio yn creu lleoedd i bobl fyw, gweithio a chwarae, a lleoedd i blanhigion ac anifeiliaid ffynnu. Fel pensaer tirlunio, ni fydd yr un ddau ddiwrnod yr un fath; gallech fod allan yn arolygu safleoedd neu’n cynnal asesiadau o’r effaith amgylcheddol un diwrnod, ac wedyn y diwrnod nesaf gallech fod yn y swyddfa yn ysgrifennu adroddiadau ac yn llunio contractau.

Cyflog cyfartalog*

£20000

-

£40000

Oriau arferol yr wythnos

38-40

Sut i fod yn bensaer tirlunio

Mae sawl ffordd o ddod yn bensaer tirlunio. Gallech gwblhau cwrs prifysgol neu goleg, neu brentisiaeth.

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

Gallech gwblhau cwrs gradd wedi’i achredu gan y Sefydliad Tirwedd.

Os ydych chi’n dymuno gweithio tuag at statws siartredig, bydd angen i chi fod wedi cyrraedd lefel Meistr ar gwrs ôl-radd sydd wedi’i achredu gan y Sefydliad Tirwedd. Bydd arnoch angen gradd, neu gymhwyster cyfatebol, i wneud astudiaeth ôl-radd.

Os oes gennych ddiddordeb brwd mewn dylunio a’r amgylchedd, a bod gennych eisoes radd mewn pwnc cysylltiedig fel pensaernïaeth, garddwriaeth neu fotaneg, gallech ddilyn cwrs cyfnewid i raddedigion i fod yn bensaer tirlunio. Os nad yw eich gradd wedi'i hachredu, gallech ddilyn cwrs cyfnewid ôl-radd wedi'i achredu gan y Sefydliad Tirwedd. Fel arfer, mae'r cyrsiau hyn yn para rhwng 18 mis a dwy flynedd yn llawn amser, neu am gyfnod hirach os ydynt yn cael eu gwneud ar sail ran-amser.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

I ddechrau ar eich llwybr gyrfa tuag at fod yn bensaer tirlunio, gallech gwblhau Tystysgrif Lefel 3 neu Ddiploma mewn Adeiladu Tirwedd neu Arddwriaeth.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni pensaernïaeth tirwedd yn ffordd dda i ymuno â’r diwydiant.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel pensaer tirlunio. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel pensaer tirlunio:

  • Sgiliau dylunio
  • Gwybodaeth am fathemateg
  • Gweithio’n drylwyr a rhoi sylw i fanylion
  • Dealltwriaeth o adeiladu
  • Sgiliau gwasanaethau cwsmeriaid
  • Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun
  • Y gallu i ganfod ffyrdd newydd o wneud pethau
  • Gallu cyflawni tasgau sylfaenol ar gyfrifiadur neu ddyfais yn y llaw

Cymwysterau


Beth mae pensaer tirlunio yn ei wneud?

Fel pensaer tirlunio, byddwch yn gyfrifol am gynhyrchu dyluniadau ar gyfer amrywiaeth o wahanol brosiectau, a sicrhau bod y tir yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd ecogyfeillgar. Byddwch yn gweithio’n agos gydag eraill fel penseiri a pheirianwyr i sicrhau bod yr holl ffactorau’n cael eu hystyried.

Mae swydd pensaer tirlunio yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:

  • Dylunio cynlluniau parciau, gerddi, stadau tai neu ganol dinasoedd
  • Gwella'r tir y mae mwyngloddio neu adeiladu traffyrdd yn effeithio arno
  • Cyfarfod â chleientiaid i drafod eu dymuniadau, a chyflwyno syniadau iddynt
  • Paratoi dyluniadau (gan gynnwys rhai â chymorth cyfrifiadur)
  • Rheoli neu adfywio gwahanol fathau o fannau yn yr awyr agored yn y DU neu dramor
  • Arolygu safleoedd i ganfod pa blanhigion ac anifeiliaid sydd yno a chael barn trigolion lleol, busnesau a phobl eraill sy’n defnyddio’r safle
  • Cydlynu cynlluniau prosiectau gyda gweithwyr proffesiynol eraill fel penseiri, peirianwyr sifil a chynllunwyr trefi
  • Ysgrifennu adroddiadau
  • Cynnal asesiadau o’r effaith amgylcheddol
  • Monitro cynnydd i wneud yn siŵr bod y gwaith tirlunio’n mynd rhagddo’n iawn
  • Llunio contractau
  • Goruchwylio’r broses dendro ar gyfer contractwyr
  • Cynnal asesiadau o’r effaith weledol a thirwedd
  • Gwneud yn siŵr bod newidiadau i’r amgylchedd naturiol yn briodol, yn sensitif ac yn gynaliadwy
  • Rhoi tystiolaeth arbenigol i ymchwiliadau cyhoeddus neu wrandawiadau eraill ynghylch prosiectau mawr neu ddadleuol
  • Wedi’i leoli mewn practis preifat, ond yn gyffredinol yn gweithio mewn swyddfa ac ar safle.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel pensaer tirlunio?

Mae’r cyflog disgwyliedig i bensaer tirlunio yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall penseiri tirlunio sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £20,000 - £30,000
  • Gall penseiri tirlunio gyda pheth brofiad ennill £30,000 - £40,000
  • Gall penseiri tirlunio uwch neu siartredig ennill £40,000 - £100,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi gwag

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer penseiri tirlunio:

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Gallech wneud cais am statws siartredig drwy’r Pathway to Chartership (P2C). Bydd hyn yn gwella eich rhagolygon gwaith a gallech ennill cyflog uwch.

Mae rhai penseiri tirlunio yn gweithio fel ymgynghorwyr neu is-gontractwyr hunangyflogedig.


Dyluniwyd y wefan gan S8080