Facebook Pixel

Prisiwr tir ac eiddo

A elwir hefyd yn -

Asiant eiddo

Mae priswyr tir ac eiddo yn rhoi cyngor proffesiynol i unigolion a busnesau sy’n prynu, gwerthu a rhentu tir ac eiddo. Maent yn amcangyfrif gwerth tir, adeiladau ac eiddo tirol ar y farchnad, er mwyn helpu eu cleientiaid i wneud yr elw mwyaf o gytundeb gwerthu neu rentu.

Cyflog cyfartalog*

£20000

-

£45000

Oriau arferol yr wythnos

38-40

Sut i fod yn brisiwr tir ac eiddo

Mae sawl ffordd o ddod yn brisiwr tir ac eiddo. Gallech chi ddilyn cwrs prifysgol neu goleg, prentisiaeth neu hyfforddiant yn y gwaith. 

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn brisiwr tir ac eiddo i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod rhai gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau. 

Prifysgol

Gallech gwblhau gradd i ddod yn brisiwr tir ac eiddo, megis: 

  • Datblygu a phrisio eiddo 
  • Rheoli eiddo tirol 
  • Gwasanaeth mesur meintiau neu adeiladau 
  • Rheolaeth fasnachol. 

Neu, gallech gwblhau cymhwyster uwch arbenigol a gymeradwyir gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig, neu gwrs dysgu o bell gyda'r University College of Estate Management

Os oes gennych chi radd israddedig heb ei hachredu mewn pwnc perthnasol, fel y gyfraith, economeg neu fathemateg, gallech gwblhau cymhwyster ôl-radd achrededig mewn arolygu i’ch helpu i ddod yn brisiwr tir ac eiddo. 

Mae rhai cyflogwyr yn hysbysebu cynlluniau hyfforddi graddedigion ar gyfer priswyr tir ac eiddo lefel mynediad a fyddai'n eich helpu i ddatblygu eich sgiliau yn y gweithle. 

Bydd angen y canlynol arnoch: 

Coleg/darparwyr hyfforddiant 

Gallech gwblhau cwrs coleg sy'n cynnig cyflwyniad i arolygu i’ch helpu ar eich llwybr gyrfa i ddod yn brisiwr tir ac eiddo, fel diploma lefel 3 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig neu Lefel T mewn Dylunio, Arolygu a Chynllunio Adeiladu.  

Bydd angen y canlynol arnoch: 

  • 3 TGAU, neu gymhwyster cyfatebol, ar radd 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg a mathemateg (cwrs lefel 3) 
  • O leiaf 5 TGAU, neu gymhwyster cyfatebol, ar radd 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg a mathemateg (lefel T). 

Neu, gallech hyfforddi yn y gyfraith neu drawsgludo i ddysgu gwybodaeth ddefnyddiol am yrfa ym maes prisio tir ac eiddo. 

Gallech gwblhau cymhwyster proffesiynol drwy Gyngor y Trawsgludwyr Trwyddedig (CLC) fel Diploma Lefel 4 mewn Cyfraith ac Ymarfer Trawsgludo neu Ddiploma Lefel 6 mewn Cyfraith ac Ymarfer Trawsgludo. 

Os byddai’n well gennych ganolbwyntio ar y gyfraith, gallech gwblhau Diploma Proffesiynol Lefel 3 mewn Cyfraith ac Ymarfer neu Ddiploma Uwch Proffesiynol Lefel 6 mewn Cyfraith ac Ymarfer. 

Bydd angen y canlynol arnoch: 

Prentisiaeth

Gallech chi gwblhau gradd-brentisiaeth syrfëwr siartredig i’ch helpu i gael swydd fel prisiwr tir ac eiddo. 

Bydd angen i chi gael 4 - 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C) a lefel A (neu gymhwyster cyfatebol) ar gyfer gradd-brentisiaeth. 

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a mynd i’r coleg neu at ddarparwr hyfforddiant. 

Gwaith

Os oes gennych brofiad blaenorol o weithio i asiant eiddo neu asiant tir, neu gymwysterau sy’n eich galluogi i weithio fel technegydd arolygu, mae'n bosib y gallwch ennill rhagor o gymwysterau wrth weithio er mwyn dod yn brisiwr tir ac eiddo. 

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel prisiwr tir ac eiddo. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV. 

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel prisiwr tir ac eiddo:  

  • Dealltwriaeth o adeiladu
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol 
  • Sgiliau meddwl yn ddadansoddol a mathemateg da 
  • Gallu i roi sylw trylwyr i fanylion. 

Beth mae prisiwr tir ac eiddo yn ei wneud?

Fel prisiwr tir ac eiddo, byddech yn cynghori cleientiaid ynghylch gwerth eu tir, adeiladau neu eiddo masnachol. Gallech weithio i asiant eiddo, neu awdurdod lleol, gan helpu i osod cyfraddau’r dreth gyngor.  

Mae swydd prisiwr tir ac eiddo yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:  

  • Amcangyfrif gwerth tir, adeiladau ac eiddo masnachol (eiddo tirol) ar y farchnad 
  • Helpu cleientiaid i wneud yr elw mwyaf wrth werthu neu rentu eu heiddo 
  • Cynnal ymchwil i asedau cleientiaid 
  • Ysgrifennu adroddiadau manwl 
  • Trefnu arwerthiannau, marchnata eiddo i ddarpar gynigwyr a rheoli gwerthiant 
  • Ymgymryd â gwaith prisio busnes ac yswiriant 
  • Cwblhau asesiadau iawndal 
  • Cynnig arfarniadau buddsoddi a chyngor 
  • Datrys anghydfodau sy'n ymwneud â gwerthu tir ac eiddo 
  • Cael y newyddion diweddaraf am y farchnad eiddo. 

Faint o gyflog allech chi ei gael fel prisiwr tir ac eiddo?

Mae’r cyflog disgwyliedig i brisiwr tir ac eiddo yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad. 

  • Gall priswyr tir ac eiddo sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £20,000
  • Gall priswyr tir ac eiddo profiadol ennill hyd at £45,000*. 

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud. 

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer priswyr tir ac eiddo:  

 Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi. 

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel prisiwr tir ac eiddo, gallech symud ymlaen i swydd uwch fel rheolwr prosiect neu gyfarwyddwr. 

Gallech ddefnyddio eich sgiliau i symud i rôl fel prynwr tir neu gynghorydd gwerthu eiddo. 

Neu, gallech sefydlu eich hun fel ymgynghorydd hunan-gyflogedig. 


Dyluniwyd y wefan gan S8080