Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae prynwr tir yn gyfrifol am helpu busnesau ac unigolion i brynu tir sy’n addas ar gyfer adeiladu. Fel prynwr tir, byddwch yn dod o hyd i safleoedd addas ar gyfer prosiectau adeiladu, yn penderfynu a oes angen caniatâd cynllunio ac yn canfod a fydd unrhyw gyfyngiadau o ran yr hyn y gellir ei adeiladu.
£20000
-£50000
38-40
Mae sawl ffordd o ddod yn brynwr tir. Gallech gwblhau gradd prifysgol, prentisiaeth, neu wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr.
Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.
Mewn rhai achosion, bydd gofyn i chi feddu ar radd mewn pwnc perthnasol i fod yn brynwr tir. Dyma rai o’r pynciau perthnasol:
Neu, os oes gennych radd mewn pwnc llai penodol ar gyfer y gwaith, fel economeg, y gyfraith neu fathemateg, gallech ddilyn cymhwyster ôl-radd achrededig mewn syrfeo.
I astudio gradd israddedig, bydd angen 2 - 3 lefel A, neu gymhwyster cyfatebol arnoch fel arfer.
> Eglurhad o’r gofynion mynediad cyfatebol
Efallai y bydd eich coleg neu'ch darparwr hyfforddiant lleol yn cynnig cyrsiau mewn TG, busnes neu weinyddu cyfreithiol, a fyddai'n eich helpu i ddechrau ar eich llwybr gyrfa tuag at fod yn brynwr tir.
Bydd angen o leiaf 3 TGAU arnoch, gan gynnwys mathemateg a Saesneg.
> Eglurhad o’r gofynion mynediad cyfatebol
> Dod o hyd i gwrs yn eich ardal chi
Gallech chi gwblhau prentisiaeth i ddod yn beiriannydd draenio. Gallech hyfforddi mewn TG neu weinyddiaeth gyda chwmni adeiladu neu gofrestru ar brentisiaeth peirianneg sifil i ennill sgiliau a fyddai’n eich galluogi i ddod yn brynwr tir dan hyfforddiant ar ôl i chi gwblhau eich astudiaethau.
Bydd angen i chi gael o leiaf 4 - 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol.
Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.
> Dod o hyd i brentisiaeth yn eich ardal chi
Os oes gennych chi brofiad yn y sector eiddo, fel gwerthwr tai, neu negodwr gwerthu a gosod, gallech wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i gael profiad ar y safle fel prynwr tir. Gallech chi ddechrau arni fel cynorthwyydd i brynwr tir mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel prynwr tir. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.
> Dysgwch fwy am brofiad gwaith
Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel prynwr tir:
Fel prynwr tir, byddwch chi’n gyfrifol am nodi a phenderfynu pa dir sy’n briodol ar gyfer prosiectau adeiladu eich cleientiaid. Gallech chi fod yn ymwneud â phrosiectau sy’n cynnwys safleoedd preswyl newydd, adeiladau swyddfeydd, ysbytai neu barciau manwerthu.
Mae swydd prynwr tir yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:
Mae’r cyflog disgwyliedig i brynwr tir yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant ac wedi’u diweddaru ers 2019
Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer prynwyr tir:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Fel prynwr tir, gallech symud i faes cysylltiedig, fel syrfëwr neu syrfëwr adeiladau. Gallech chi hefyd symud i fyny yn y rôl a dod yn arweinydd tîm, neu'n negodwr tir.
Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod