Facebook Pixel

Rheolwr adeiladu

A elwir hefyd yn -

Rheolwr safle

Mae rheolwyr adeiladu yn gyfrifol am reoli a chynllunio pob cam o brosiect adeiladu yn ymarferol. Maent yn sicrhau bod prosiectau adeiladu’n cael eu cwblhau’n ddiogel, o fewn y gyllideb ac yn brydlon. Fel rheolwr adeiladu, byddech chi’n goruchwylio amserlenni gwaith ac yn dirprwyo tasgau i’ch tîm i sicrhau bod pob cam o’r gwaith adeiladu yn mynd yn unol â’r cynllun.

Cyflog cyfartalog*

£25000

-

£60000

Oriau arferol yr wythnos

41-43

Sut i fod yn rheolwr adeiladu

Mae sawl ffordd o ddod yn rheolwr adeiladu. Gallwch ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch i ddechrau ar eich llwybr gyrfa drwy ddilyn cwrs coleg neu brentisiaeth. 

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn rheolwr adeiladu i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu. 

Prifysgol

Gallech wneud gradd sylfaen, Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) neu radd israddedig sydd wedi'i hachredu gan y Sefydliad Siartredig Adeiladu (CIOB). Mae'r pynciau perthnasol yn cynnwys astudiaethau adeiladu, arolygu, amcangyfrif, peirianneg adeiladu neu sifil, neu reoli safle adeiladu.

Yn gyffredinol bydd angen y canlynol arnoch: 

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu’n ffordd dda i ymuno â’r diwydiant.  

Gallech ddilyn uwch-brentisiaeth neu radd brentisiaeth mewn rheoli adeiladu, neu reoli dylunio ac adeiladu. Ar gyfer hyn, fel arfer bydd angen i chi gael 4 - 5 TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) ar raddau 9 i 4 (A* i C) a lefelau A (neu gymhwyster cyfatebol).

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant. 

Gwaith

Os ydych chi eisoes wedi gweithio fel amcangyfrifwr, technegydd adeiladu, syrfëwr neu oruchwyliwr safle am rai blynyddoedd a bod gennych brofiad neu gymwysterau rheoli amlwg, efallai y gallwch wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr am rôl fel rheolwr adeiladu.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel rheolwr adeiladu. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel rheolwr adeiladu: 

  • Dealltwriaeth o adeiladu
  • Rhinweddau arwain
  • Sgiliau rheoli amser
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar
  • Y gallu i ddatrys problemau a gweithio ar eich liwt eich hun.

Beth mae rheolwr adeiladu yn ei wneud?

Fel rheolwr adeiladu, byddwch yn gyfrifol am oruchwylio logisteg prosiect adeiladu. Gall y dyletswyddau gynnwys creu amserlenni gwaith ar gyfer eich tîm, a dyrannu cyfrifoldebau. Efallai y bydd gofyn i chi hefyd ymweld â’r safle ac adrodd i uwch-reolwyr ynghylch cynnydd y prosiect.

Mae rôl rheolwr adeiladu’n cynnwys y dyletswyddau canlynol: 

  • Goruchwylio gofynion logistaidd prosiect
  • Dirprwyo gwaith i gydweithwyr yn eich tîm
  • Cyfarfod yn rheolaidd gyda chleientiaid, trydydd partïon a rheolwyr eraill i adrodd ar gynnydd
  • Gosod targedau, amcanion a chyfrifoldebau ar gyfer yr holl staff sy’n cael eu goruchwylio
  • Adolygu amseroedd, cyllideb, llafur, risg a chynlluniau prosiect yn rheolaidd i sicrhau bod y gwaith yn aros ar y trywydd iawn
  • Gosod a chytuno ar gyllidebau
  • Cynnal ymweliadau safle i archwilio gwaith, gwirio deunyddiau a sicrhau bod staff yn dilyn canllawiau iechyd a diogelwch
  • Delio â chontractau a lliniaru effaith unrhyw broblemau
  • Sicrhau bod gwaith o ansawdd yn cael ei gyflawni o fewn amserlenni contractau
  • Gweithio mewn swyddfa ac ar safle adeiladu.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel rheolwr adeiladu?

Mae’r cyflog disgwyliedig i reolwr adeiladu yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall rheolwyr adeiladu sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £25,000 - £35,000
  • Gall rheolwyr adeiladu hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £35,000 - £48,000
  • Gall rheolwyr adeiladu uwch, siartredig neu feistr ennill £48,000 - £60,000*
  • Rheolwyr adeiladu hunangyflogedig sy’n gosod eu cyfraddau cyflog eu hunain.

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer rheolwyr adeiladu: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel rheolwr adeiladu, gallech symud ymlaen i fod yn uwch reolwr neu’n rheolwr prosiect, neu'n gyfarwyddwr adeiladu.

Gallech arbenigo a goruchwylio maes adeiladu penodol, fel contractau neu gynllunio. Fel arall, gallech sefydlu fel ymgynghorydd hunangyflogedig.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Rheolwr adeiladu Mae gofyn i reolwyr adeiladu ddelio â’r ochr ymarferol o reoli a chynllunio’r br...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr contractau Yn ystod prosiect adeiladu, mae’r rheolwr contractau yn goruchwylio’r broses con...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr prosiect Rheolwr prosiect sy'n gyfrifol am wneud yn siŵr bod unrhyw fath o waith adeiladu...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080