Facebook Pixel

Rheolwr cyfleusterau

Mae rheolwyr cyfleusterau yn goruchwylio gweithrediadau a chynnal a chadw adeiladau a thiroedd trwy ymateb i anghenion defnyddwyr. Fel rheolwr cyfleusterau, gallech fod yn gyfrifol am wasanaethau gan gynnwys adeiladau, glanhau, arlwyo, lletygarwch, diogelwch neu barcio. Bydd angen sicrhau fod y mannau rydych yn eu rheoli yn bodloni safonau iechyd a diogelwch ac yn gweithredu yn ôl y bwriad.

Cyflog cyfartalog*

£20000

-

£60000

Oriau arferol yr wythnos

38-40

Sut i ddod yn rheolwr cyfleusterau

Gallwch ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch trwy wneud cwrs prifysgol neu goleg, neu brentisiaeth. Os oes gennych rywfaint o brofiad perthnasol yn barod, efallai y gallwch chi anfon cais yn uniongyrchol at gyflogwr neu gwblhau hyfforddiant yn y gwaith. 

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu. 

Prifysgol

Gallech gwblhau gradd sylfaen neu radd israddedig. Byddai hynny'n eich helpu i ddatblygu i swyddi uwch. 

Mae pynciau perthnasol yn cynnwys rheoli cyfleusterau, rheoli eiddo neu ystadau neu reoli gwasanaethau adeiladu, ond nid oes angen gradd benodol o reidrwydd i ddod yn rheolwr cyfleusterau. Efallai y byddech wedi ennill digon o brofiad mewn maes gwaith arall megis gweinyddu, rheoli neu letygarwch.

Bydd angen o leiaf 1 cymhwyster Safon Uwch (neu gyfwerth) arnoch i astudio am radd sylfaen neu 2 - 3 o gymwysterau Safon Uwch (neu gyfwerth) i astudio am radd gyntaf.

Coleg/darparwr hyfforddiant

Mae rhai colegau neu ddarparwyr hyfforddiant yn cynnig NVQ Lefel 3 mewn rheoli cyfleusterau. 

Nid oes angen unrhyw gymwysterau arnoch i wneud hyn, ond byddai'n ddefnyddiol cael cymwysterau TGAU (neu gyfwerth) â graddau 9 - 4 (A * - C), gan gynnwys Saesneg a mathemateg. 

Mae Sefydliad Rheoli Gweithleoedd a Chyfleusterau (IWFM) a Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) hefyd yn dyfarnu cymwysterau perthnasol.

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu yn ffordd dda o ddechrau gweithio yn y diwydiant. 

Mae prentisiaethau yn agored i bawb dros 16 oed. Fel prentis, byddwch yn cael eich cyflogi'n llawn gan eich cwmni a disgwylir i chi weithio isafswm o 30 awr yr wythnos. Bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng profiad yn y gwaith a choleg neu ddarparwr hyfforddiant.

Gallech gwblhau uwch-brentisiaeth i ddod yn oruchwyliwr cyfleusterau neu uwch-brentisiaeth i ddod yn rheolwr cyfleusterau. Byddech yn treulio hyd at ddwy flynedd yn hyfforddi yn y gwaith, gydag amser mewn coleg neu ddarparwr hyfforddiant.

Byddwch angen: 

  • 5 cymhwyster TGAU (neu gyfwerth) â graddau 9 - 4 (A* - C), yn cynnwys Saesneg a mathemateg (prentisiaeth uwch).
  • 4 - 5 o gymwysterau TGAU (neu gyfwerth) â graddau 9 - 4 (A* - C) a chymwysterau safon uwch (neu gyfwerth) (uwch-brentisiaeth neu brentisiaeth gradd). 

  • Canllaw ynghylch prentisiaethau

Gwaith

Os oes gennych gymwysterau neu brofiad perthnasol mewn maes cysylltiedig megis gwasanaethau adeiladu, gweinyddu, rheoli neu iechyd a diogelwch, efallai y gallwch anfon cais yn uniongyrchol at gyflogwr.

Wrth weithio, gallech astudio cymhwyster yn rhan-amser gyda’r Sefydliad Rheoli Gweithleoedd a Chyfleusterau (IWFM) neu’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM).  Mae graddau meistr ym maes rheoli cyfleusterau hefyd ar gael.

Os ydych yn dechrau ar eich llwybr gyrfa,  gallech ymgeisio am swydd fel gofalwr adeilad neu reolwr cyfleusterau dan hyfforddiant neu gynorthwyol. Yna,  gallech wneud hyfforddiant yn y gwaith (megis Diploma Lefel 3 mewn Rheoli Cyfleusterau) i weithio’ch ffordd i fyny. 

Profiad gwaith

Er mwyn eich helpu i benderfynu a yw'r swydd hon yn addas ar eich cyfer, er mwyn datblygu eich sgiliau a gwneud argraff ar gyflogwyr, gallech ennill rhywfaint o brofiad gwaith. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o weld profiad gwaith wedi'i restru ar eich CV.  


Beth mae rheolwr cyfleusterau yn ei wneud?

Fel rheolwr cyfleusterau, gallech fod yn gwneud y canlynol: 

  • Goruchwylio gwasanaethau cynnal a chadw adeiladau a gwasanaethau cymorth megis glanhau, arlwyo, lletygarwch, diogelwch neu barcio
  • Sicrhau fod adeiladau'n gweithredu'n ddidrafferth trwy gydol eu hoes weithredol
  • Cynnig mewnbwn yn ystod camau dylunio prosiect a nodi materion cynnal a chadw yn y dyfodol
  • Cysylltu â chleientiaid a chontractwyr
  • Creu system reoli strategol, er budd seilwaith a phobl sefydliad
  • Cydlynu gwaith ailwampio ac adnewyddu
  • Sicrhau fod adeiladau'n bodloni safonau iechyd a diogelwch ac effeithlonrwydd ynni
  • Rheoli cyllidebau a chyfrifon
  • Gweithio i sefydliad mawr yn y sector preifat neu'r sector cyhoeddus.


Faint allech ei ennill fel rheolwr cyfleusterau?

  • Gall rheolwyr cyfleusterau sydd newydd eu hyfforddi ennill £20,000 - £25,000
  • Gall rheolwyr cyfleusterau wedi'u hyfforddi sydd â rhywfaint o brofiad ennill £25,000 - £40,000
  • Gall rheolwyr cyfleusterau uwch, siartredig neu rai sy'n feistr ar eu crefft ennill £40,000- £60,000.*

Mae oriau a chyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y gallech ei weithio. Mae cyflogau a dewisiadau gyrfa hefyd yn gwella â statws siartredig.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Chwiliwch am y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer rheolwyr cyfleusterau: 

Gwefannau allanol yw'r rhain, felly gall nifer y swyddi gwag sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu postio wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chynnydd

Ar ôl cael profiad, gallech ddod yn uwch reolwr neu’n rheolwr rhanbarthol ac ennill cyflog uwch. 

Gallech arbenigo mewn un maes rheoli cyfleusterau, megis parcio, diogelwch neu lanhau.


Dyluniwyd y wefan gan S8080