Facebook Pixel

Rheolwr datblygu busnes

Mae rheolwyr datblygu busnes yn gyfrifol am sbarduno twf busnes o fewn cwmni. Maent yn datblygu rhwydwaith o gysylltiadau i ddenu cleientiaid newydd, yn ymchwilio i gyfleoedd newydd yn y farchnad ac yn goruchwylio prosiectau twf, yn rhagamcanu gwerthiant ac yn rhagweld refeniw, yn unol â’r incwm a ragwelir.

Cyflog cyfartalog*

£28000

-

£70000

Oriau arferol yr wythnos

38-40

Sut i fod yn rheolwr datblygu busnes

Er nad oes angen cymwysterau ffurfiol i fod yn rheolwr datblygu busnes, mae sawl llwybr y gallech ei ddilyn i'ch helpu yn yr yrfa hon. Gallech gwblhau cwrs prifysgol neu goleg, prentisiaeth neu wneud cais am waith yn uniongyrchol i gyflogwr.

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn rheolwr datblygu busnes i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

Gallech gwblhau gradd israddedig mewn datblygu busnes, rheoli busnes, economeg neu gyfrifyddiaeth, er mwyn datblygu eich gwybodaeth a bod yn gymwys ar gyfer gyrfa fel rheolwr datblygu busnes.

Bydd angen 2 - 3 lefel A, neu gymhwyster cyfatebol, arnoch i astudio gradd.

Mae rhai cwmnïau adeiladu yn rhedeg cynlluniau i raddedigion i’ch helpu i gael y profiad gwaith angenrheidiol i ddod yn rheolwr datblygu busnes ar ôl eich astudiaethau.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Er nad oes angen cymwysterau ffurfiol i fod yn rheolwr datblygu busnes, byddai TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) mewn mathemateg a Saesneg ar radd 4 neu uwch o fudd i unrhyw un sy’n ei ystyried fel gyrfa, gan fod y rôl yn gofyn am safon dda o rifedd a llythrennedd.

Gallech hefyd ddilyn cwrs coleg mewn gwerthu neu fusnes i’ch paratoi ar gyfer dod yn rheolwr datblygu busnes.

Os ydych chi eisoes yn gweithio mewn swydd rheoli busnes is, gallech wella eich gwybodaeth drwy gwblhau dyfarniad Lefel 2 neu Lefel 3 mewn gwerthu neu ddatblygu busnes.

Bydd angen y canlynol arnoch:

Prentisiaeth

Gallech gwblhau gradd-brentisiaeth mewn gwerthu neu ddatblygu busnes i’ch helpu i ddod yn rheolwr datblygu busnes. 

Bydd angen i chi gael 4 - 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C) a lefel A, neu gymhwyster cyfatebol, ar gyfer gradd-brentisiaeth.

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu’n ffordd dda i ymuno â’r diwydiant. Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Gwaith

Os ydych chi'n ystyried swydd fel rheolwr datblygu busnes, gallech wneud cais i ddechrau eich gyrfa fel cynorthwyydd neu hyfforddai mewn cwmni adeiladu. Wrth i chi gael mwy o brofiad, efallai y bydd eich cyflogwr yn cynnig hyfforddiant i'ch helpu i symud ymlaen yn y rôl.

Os oes gennych chi eisoes gymwysterau TGAU neu lefel A (neu gymhwyster cyfatebol), neu radd, a phrofiad ym maes gwerthu neu reoli busnes, efallai y gallwch wneud cais i gyflogwr yn uniongyrchol am rôl fel rheolwr datblygu busnes.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel rheolwr datblygu busnes. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Mae'r sgiliau dymunol a fydd yn ddefnyddiol i unrhyw un sy’n awyddus i fod yn rheolwr datblygu busnes yn cynnwys: 

  • Awydd i chwilio am fusnes newydd
  • Sgiliau ffôn rhagorol
  • Sgiliau cyfathrebu cryf ar lafar ac ar bapur
  • Sgiliau TG da
  • Blaengarwch a sgiliau gwneud penderfyniadau da
  • Sgiliau rheoli prosiectau
  • Sgiliau trefnu cryf
  • Sgiliau strategol a meddwl yn ddadansoddol
  • Gallu ysgrifennu adroddiadau.

Beth mae rheolwr datblygu busnes yn ei wneud?

Mae rheolwyr datblygu busnes yn bennaf gyfrifol am sbarduno twf busnes, ac mae’r dyletswyddau’n amrywio o ddydd i ddydd. Mae’r cyfrifoldebau arferol yn cynnwys: 

  • Creu cynlluniau datblygu a rhagweld targedau gwerthiant a rhagamcanion twf
  • Canfod cyfleoedd yn y farchnad drwy gyfarfodydd, rhwydweithio a sianeli eraill
  • Cwrdd â chleientiaid presennol a darpar gleientiaid a meithrin cysylltiadau cadarnhaol
  • Cysylltu â chydweithwyr i ddatblygu strategaethau gwerthu a marchnata
  • Paratoi rhagamcanion ariannol a thargedau gwerthu
  • Mynychu digwyddiadau fel arddangosfeydd a chynadleddau
  • Paratoi cyflwyniadau gwerthu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd gwerthu
  • Paratoi adroddiadau ar gyfer rheolwyr
  • Hyfforddi datblygwyr busnes a chydweithwyr gwerthu
  • Gweithio mewn busnes cleient neu mewn swyddfa.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel rheolwr datblygu busnes?

Mae’r cyflog disgwyliedig i reolwr datblygu busnes yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall rheolwyr datblygu busnes sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £28,000 - £30,000
  • Gall rheolwyr datblygu busnes hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £30,000 - £45,000
  • Gall rheolwyr datblygu busnes uwch, siartredig neu feistr ennill £45,000 - £70,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer rheolwyr datblygu busnes: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel rheolwr datblygu busnes yn y diwydiant adeiladu, gallech symud ymlaen i rôl fel ysgrifennwr bidiau, a chymryd cyfrifoldeb dros baratoi ac ysgrifennu dogfennau masnachol sydd eu hangen ar gwmnïau i ennill contractau newydd.

Wrth i’ch profiad a’ch sgiliau dyfu, gallech symud i rôl uwch reolwr fel cyfarwyddwr adeiladu a monitro’r holl waith sy’n cael ei wneud ar brosiectau adeiladu.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Rheolwr bidio Mae'r disgrifiad swydd Rheolwr Bidio Am Adeiladu hwn yn sôn am bopeth y mae ange...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr datblygu busnes Mae gan Reolwyr Datblygu Busnes Adeiladu ystod o ddyletswyddau. O ddatblygu cont...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr contractau Yn ystod prosiect adeiladu, mae’r rheolwr contractau yn goruchwylio’r broses con...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080