Facebook Pixel

Rheolwr dylunio

Mae rheolwyr dylunio yn cydlynu'r holl waith dylunio sydd eu hangen yn ystod prosiectau adeiladu. Maent yn rheoli'r gwaith o gynhyrchu lluniadau technegol a chynlluniau a ddefnyddir i adeiladu strwythur. Mae rheolwyr dylunio yn dod â phenseiri, peirianwyr strwythurol a gwasanaeth, dylunwyr arbenigol a thechnegwyr BIM ynghyd i greu dyluniadau cydlynol y gellir eu defnyddio yn ystod y gwaith adeiladu ac i helpu i gynnal a chadw’r strwythur ar ôl ei gwblhau.

Cyflog cyfartalog*

£25000

-

£90000

Sut i ddod yn rheolwr dylunio

Mae yna sawl llwybr i ddod yn rheolwr dylunio. Gallech ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch trwy gwblhau cwrs prifysgol neu goleg, neu gallech gychwyn ar eich llwybr gyrfa fel prentis. Dylech archwilio'r opsiynau i ddod o hyd i’r un sy'n iawn i chi.

Mae hon yn swydd sy'n gofyn am sgiliau technegol sylweddol. Mae modd gwneud y swydd hon heb unrhyw gymwysterau ffurfiol; fodd bynnag, mae’n fwy derbyniol ar y cyfan i wneud cwrs prifysgol neu goleg a meddu ar nifer o flynyddoedd o brofiad.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Y Brifysgol

Gallech astudio am radd israddedig neu Ddiploma Cenedlaethol Uwch (HND) mewn pwnc perthnasol megis pensaernïaeth, rheoli dylunio ac adeiladu, neu dechnoleg bensaernïol. Wedi hynny, efallai y gallwch ymuno â chynllun hyfforddeion graddedig cwmni.

Yn gyffredinol byddwch angen:

  • 1 - 2 o gymwysterau safon uwch, neu gyfwerth (HND)
  • 2 - 3 o gymwysterau safon uwch, neu gyfwerth (gradd gyntaf)

Dod o hyd i gwrs prifysgol

Cyngor ynghylch cyllid 

Coleg/ darparwr hyfforddiant

Gallech gwblhau cymhwyster BTEC mewn astudiaethau adeiladu, peirianneg adeiladu neu reoli adeiladu, neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) mewn rheoli adeiladu neu bensaernïaeth.

Yn gyffredinol, byddwch angen:

  • Hyd at 5 cymhwyster TGAU â graddau 9 - 4 (A* - C), neu gyfwerth (BTEC Lefel 3)
  • Hyd at 5 cymhwyster TGAU â graddau 9 - 4 (A* - C), neu gyfwerth (mewn Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth), ac o leiaf un cymhwyster safon uwch, neu gyfwerth, mewn pwnc sy'n gysylltiedig ag adeiladu (HNC).

Dod o hyd i gwrs cyfagos

Cyngor ynghylch cyllid

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gellid bod wedi ennill y profiad hwn yn yr ysgol, neu wrth weithio ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau i gwmni neu berthynas sy'n gweithio ym maes adeiladu. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o weld profiad gwaith wedi'i restru ar eich CV. 

Dysgwch ragor am brofiad gwaith


Beth mae rheolwr dylunio yn ei wneud?

Fel rheolwr dylunio, gallech fod yn gwneud y canlynol:

  • Cymell ac annog timau dylunio mewnol ac allanol
  • Sicrhau fod lluniadau a dyluniadau strwythurol yn cael eu cynhyrchu'n brydlon, i ansawdd uchel a'u bod yn hawdd i’w dehongli
  • Goruchwylio'r broses ddylunio gan ddefnyddio arbenigedd technegol
  • Cydweithio â chleientiaid i sicrhau bod eu disgwyliadau yn cael eu cyflawni
  • Adolygu dyluniadau gan ystyried iechyd a diogelwch
  • Osgoi camgymeriadau a lleihau risg ariannol yn ystod gwaith adeiladu
  • Sicrhau fod dyluniadau ar gael i'r bobl sydd eu hangen, ar yr adeg briodol
  • Cynnal dogfennaeth drylwyr ynghylch y broses dylunio
  • Ymgyfarwyddo â’r datblygiadau diweddaraf am newidiadau i ddeddfwriaeth adeiladu a chodau ymarfer sy'n ymwneud â dylunio
  • Gweithio mewn swyddfa ac ymweld â safleoedd yn achlysurol.

Cyflog

  • Gall rheolwyr dylunio sydd newydd eu hyfforddi ennill £25,000 - £30,000
  • Gall rheolwyr dylunio wedi'u hyfforddi sydd â rhywfaint o brofiad ennill £30,000 - £60,000
  • Gall rheolwyr dylunio uwch, siartredig neu rai sy'n feistr ar eu crefft ennill £70,000 - £90,000.*

Mae oriau a chyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y gallech ei weithio.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Chwiliwch am y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer rheolwyr dylunio:

Gwefannau allanol yw'r rhain, felly gall nifer y swyddi gwag sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu postio wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chynnydd

Fel dylunydd iau, dylunydd dan hyfforddiant, cynorthwyydd neu dechnegydd ag ychydig flynyddoedd o brofiad o brosiectau dylunio technegol, gallech weithio eich ffordd i fyny i fod yn gydlynydd BIM (Modelu Gwybodaeth Adeiladu), neu’n ddylunydd canolradd. 

Ar ôl cael rhagor o brofiad yn rheoli prosiectau, gallech symud ymlaen i rôl uwch fel rheolwr dylunio, rheolwr adeiladu neu reolwr BIM ac ennill cyflog uwch. 

Gallech ddod yn hunangyflogedig a gweithio ar eich liwt eich hun.

Fel rheolwr dylunio, gallech ennill statws siartredig a chymwysterau ychwanegol trwy'r Sefydliad Adeiladu Siartredig (CIOB) neu Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA) a symud i rôl cyfarwyddwr prosiect.


Dyluniwyd y wefan gan S8080