Facebook Pixel

Rheolwr dysgu a datblygu

A elwir hefyd yn -

Rheolwr hyfforddiant

Mae rheolwyr dysgu a datblygu yn ymdrin â hyfforddiant a datblygiad proffesiynol gweithwyr y cwmni. Maen nhw’n manteisio i’r eithaf ar dalentau pobl ac yn eu helpu i ddatblygu i’w llawn botensial. Maen nhw’n canolbwyntio’n bendant ar yr hyn y mae’r dysgwr ei eisiau a’i angen, a hefyd ar anghenion y sefydliad.

Cyflog cyfartalog*

£25000

-

£65000

Oriau arferol yr wythnos

38-40

Sut i fod yn rheolwr dysgu a datblygu

Er nad oes angen cymwysterau ffurfiol i fod yn rheolwr dysgu a datblygu, mae sawl llwybr y gallech ei ddilyn i'ch helpu yn yr yrfa hon. Gallech gwblhau cwrs prifysgol neu goleg, prentisiaeth neu wneud cais am waith yn uniongyrchol i gyflogwr.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

Gallech gwblhau gradd israddedig mewn pynciau sy’n ymwneud â busnes fel datblygu busnes, rheoli busnes, economeg neu adnoddau dynol, er mwyn datblygu eich gwybodaeth a bod yn gymwys ar gyfer gyrfa fel rheolwr dysgu a datblygu.

Bydd angen 2 - 3 lefel A, neu gymhwyster cyfatebol, arnoch i astudio gradd.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Gallech astudio ar gyfer Dyfarniad Rhagarweiniol Lefel 3 mewn Addysg a Hyfforddiant neu Dystysgrif Lefel 4 mewn Addysg a Hyfforddiant i’ch helpu i ddod yn rheolwr dysgu a datblygu.

Bydd angen i chi gael o leiaf 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol i astudio cwrs coleg perthnasol.

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu’n ffordd dda i ymuno â’r diwydiant. 

Gallech gwblhau prentisiaeth uwch fel ymarferydd datblygu dysgu i’ch helpu i ddod yn rheolwr dysgu a datblygu

Bydd angen i chi gael 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Gwaith

Os ydych chi'n ystyried swydd fel rheolwr dysgu a datblygu, gallech wneud cais i ddechrau eich gyrfa fel cynorthwyydd neu hyfforddai mewn adran adnoddau dynol cwmni adeiladu. Wrth i chi gael mwy o brofiad, efallai y bydd eich cyflogwr yn cynnig hyfforddiant i'ch helpu i symud ymlaen yn y rôl.

Os gallwch chi brofi bod gennych eisoes brofiad o ddysgu a datblygu, efallai y gallwch wneud cais i gyflogwr yn uniongyrchol.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel rheolwr dysgu a datblygu. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel rheolwr dysgu a datblygu: 

  • Profiad o reoli prosiectau a chyllidebu
  • Yn gyfarwydd â llwyfannau ac arferion e-ddysgu
  • Sgiliau cyfathrebu a negodi ardderchog
  • Gallu meithrin perthynas â gweithwyr a chyflenwyr allanol.

Beth mae rheolwr dysgu a datblygu’n ei wneud?

Fel rheolwr dysgu a datblygu, byddwch yn gyfrifol am nodi anghenion hyfforddi a datblygu o fewn sefydliad. Byddwch yn gweithio’n agos gyda rheolwyr busnes ac adrannau adnoddau dynol i gynllunio a gweithredu rhaglenni hyfforddi a datblygu. 

Fel rheolwr dysgu a datblygu, gallech fod yn: 

  • Rheoli cyllidebau
  • Datblygu rhaglenni cynefino effeithiol
  • Cynnal gwerthusiadau
  • Llunio cynlluniau dysgu gweithwyr
  • Cynhyrchu deunyddiau hyfforddi
  • Monitro ac adolygu cynnydd hyfforddeion
  • Gwerthuso hyfforddiant a datblygiad staff newydd
  • Helpu rheolwyr llinell a hyfforddwyr i ddatrys problemau hyfforddi penodol
  • Sicrhau bod yr wybodaeth yn eich hyfforddiant yn gyfoes
  • Deall gwahanol dechnegau dysgu
  • Chwilio am ffyrdd o dyfu a chadw talent.


Faint o gyflog allech chi ei gael fel rheolwr dysgu a datblygu?

Mae’r cyflog disgwyliedig i reolwr dysgu a datblygu yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall rheolwyr dysgu a datblygu sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £20,000 - £25,000
  • Gall rheolwyr dysgu a datblygu hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £25,000 - £40,000
  • Gall rheolwyr dysgu a datblygu uwch, siartredig neu feistr ennill £40,000 - £65,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer rheolwyr dysgu a datblygu: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Bydd gan y rheini sydd â chymhwyster a gydnabyddir gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) well siawns o symud ymlaen yn eu gyrfa fel rheolwr dysgu a datblygu. 

Wrth i’ch profiad a’ch sgiliau gynyddu, gallech symud i rôl uwch reolwr fel cyfarwyddwr dysgu a datblygu, a monitro’r holl waith hyfforddi a datblygu sy’n cael ei wneud ar brosiectau adeiladu.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Rheolwr dysgu a datblygu Byddwch yn goruchwylio’r gwaith o hyfforddi a datblygu’r holl weithwyr yn eich c...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr datblygu busnes Mae gan Reolwyr Datblygu Busnes Adeiladu ystod o ddyletswyddau. O ddatblygu cont...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080