Facebook Pixel

Rheolwr masnachol

A elwir hefyd yn -

Rheolwr prosiectau busnes, arweinydd masnachol, rheolwr prosiect

Mae rheolwyr masnachol yn gyfrifol am y gyllideb ac yn cadw llygad ar yr holl gostau sy’n gysylltiedig â phrosiectau adeiladu mawr. Maent yn dod o hyd i’r gwasanaethau a’r adnoddau sydd eu hangen, ac yn trafod costau gyda chyflenwyr eraill. Maent yn goruchwylio prosiectau ac yn monitro cynlluniau i sicrhau y cedwir at derfynau amser, bod prosiectau’n aros o fewn y gyllideb a bod y gwaith yn cyrraedd y safon.

Cyflog cyfartalog*

£22000

-

£70000

Oriau arferol yr wythnos

37-39

Sut i fod yn rheolwr masnachol

Mae sawl ffordd o ddod yn rheolwr masnachol. Gallech gwblhau cwrs prifysgol neu goleg, prentisiaeth neu wneud cais am waith yn uniongyrchol i gyflogwr.

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn rheolwr masnachol i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

Y llwybr mwyaf cyffredin i ddod yn rheolwr masnachol yw astudio ar gyfer gradd gwasanaeth mesur meintiau. Mae'r pynciau perthnasol eraill yn cynnwys astudiaethau adeiladu, peirianneg adeiladu, rheoli peirianneg adeiladu a thechnoleg adeiladu. Efallai eich bod wedi cael digon o brofiad mewn maes gwaith arall fel gweinyddu, rheoli neu gyfrifyddu. 

Bydd angen 2 - 3 lefel A neu gymhwyster cyfatebol arnoch i astudio gradd.

Ar ôl i chi orffen astudio, gallech ddechrau eich gyrfa drwy gynllun hyfforddai i raddedigion, lle byddwch fel arfer yn dechrau fel rheolwr prosiect iau.

> Eglurhad o'r gofynion mynediad cyfatebol

> Dod o hyd i gwrs prifysgol

> Cyngor am gyllid

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu’n ffordd dda i ymuno â’r diwydiant. 

Gallech ddilyn uwch-brentisiaeth neu radd brentisiaeth mewn rheoli prosiectau, sy'n para tua phedair blynedd. 

Bydd angen i chi gael 4 - 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C) a lefelau A, neu gymhwyster cyfatebol, ar gyfer uwch-brentisiaeth neu radd brentisiaeth.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

> Dod o hyd i brentisiaeth yn eich ardal chi

> Canllawiau i brentisiaethau

Gwaith

Os oes gennych chi rai blynyddoedd o brofiad mewn cymorth prosiectau neu rôl weinyddol, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i gael profiad ar safle fel rheolwr masnachol. Efallai y bydd eich cyflogwr yn cynnig hyfforddiant i'ch helpu i symud ymlaen.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel rheolwr masnachol. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

> Dysgwch fwy am brofiad gwaith

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel rheolwr masnachol: 

  • Sgiliau dadansoddeg cryf
  • Sgiliau cyfathrebu da
  • Sgiliau rheoli amser rhagorol
  • Sgiliau masnachol busnes da.

Beth mae rheolwr masnachol yn ei wneud?

Fel rheolwr masnachol, byddwch yn gyfrifol am ofalu am brosiectau a rheoli tîm.

Mae swydd rheolwr masnachol yn cynnwys y dyletswyddau canlynol: 

  • Bod yn gyfrifol am reoli prosiectau yn ariannol
  • Adnabod cyfleoedd busnes
  • Rhoi bidiau at ei gilydd i ennill busnes newydd
  • Trafod a chytuno ar gontractau
  • Ehangu, diogelu neu wella gweithdrefnau, safonau neu bolisïau’r cwmni yn strategol
  • Cydymffurfio â chanllawiau rheoleiddio.


Faint o gyflog allech chi ei gael fel rheolwr masnachol?

Mae’r cyflog disgwyliedig i reolwr masnachol yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall rheolwyr masnachol sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £27,000 - £30,000
  • Gall rheolwyr masnachol hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £30,000 - £45,000
  • Gall rheolwyr masnachol uwch, siartredig neu feistr ennill £45,000 - £70,000*
  • Rheolwyr masnachol hunangyflogedig sy’n gosod eu cyfraddau cyflog eu hunain.

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud. Mae cyflogau ac opsiynau gyrfa yn gwella os bydd gennych statws siartredig. 

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer rheolwyr masnachol: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Er mwyn eich helpu i symud ymlaen i swyddi rheoli uwch, gallech astudio ar gyfer cymwysterau proffesiynol drwy’r Gymdeithas Rheoli Prosiectau (APM), y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI) a’r Sefydliad Rheoli Prosiectau (PMI).

Fel arall, gallech sefydlu eich busnes eich hun a gweithio fel ymgynghorydd llawrydd.


Dyluniwyd y wefan gan S8080