Facebook Pixel

Rheolwr peiriannau

Mae rheolwyr peiriannau yn gyfrifol am yr holl beiriannau trwm a ddefnyddir ar safle adeiladu. Maent yn gyfrifol am baratoi adroddiadau a chadw cofnodion sy’n nodi’r holl weithrediadau ar y safle.

Cyflog cyfartalog*

£20000

-

£50000

Oriau arferol yr wythnos

41-43

Sut i fod yn rheolwr peiriannau

Mae sawl ffordd o ddod yn rheolwr peiriannau. Gallech gwblhau cwrs prifysgol neu goleg, prentisiaeth, neu wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr os oes gennych rywfaint o brofiad.  

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

I’ch helpu ar eich taith i ddod yn rheolwr peiriannau gallwch gwblhau gradd mewn pwnc perthnasol fel:

  • Rheoli adeiladu
  • Rheoli prosiectau adeiladu.

Fel arfer bydd angen 2 - 3 lefel A, neu gymhwyster cyfatebol, arnoch.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Gallech gwblhau cwrs hyfforddiant mewn coleg lleol i’ch helpu i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnoch i fod yn rheolwr peiriannau. Dyma rai pynciau perthnasol:

  • Gweithrediadau Contractio Adeiladu Lefel 4
  • Uwch Reolwyr Adeiladu Lefel 5. 

Bydd angen y canlynol arnoch: 

Prentisiaeth

Gallech chi gwblhau prentisiaeth i ddod yn weithredwr peiriannau neu’n fecanig peiriannau, ac yna symud ymlaen i fod yn rheolwr peiriannau wrth i chi gael mwy o brofiad. 

Efallai y bydd angen TGAU (gan gynnwys Saesneg a mathemateg) neu gymhwyster cyfatebol arnoch i ddilyn prentisiaeth, ond nid yw pob cyflogwr yn gofyn am gymwysterau ffurfiol.

I ddilyn prentisiaethau canolradd neu uwch brentisiaethau, efallai y bydd angen hyd at 5 TGAU arnoch (gan gynnwys Saesneg a mathemateg) ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Gwaith

Os oes gennych brofiad helaeth fel gweithredwr peiriannau a gwybodaeth dda am y diwydiant, gallech wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i gael profiad ar safle fel rheolwr peiriannau. Gallech chi ddechrau fel cynorthwyydd i reolwr peiriannau mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel rheolwr peiriannau. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel rheolwr peiriannau: 

  • Dealltwriaeth dda o fathemateg
  • Gallu i drefnu eich amser a’ch llwyth gwaith
  • Sgiliau arwain
  • Sgiliau rheoli busnes
  • Gallu i weithio ar eich liwt eich hun
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar.

Beth mae rheolwr peiriannau yn ei wneud?

  • Creu a dilyn cyllidebau a pharatoi rhagamcanion elw a cholled
  • Defnyddio meddalwedd cyfrifiadurol i greu adroddiadau a thaenlenni
  • Cadw cofnodion o’r holl beiriannau sy’n eiddo neu sy’n cael eu rhentu
  • Sicrhau bod peiriannau’n cael eu cynnal a chadw a’u gwasanaethu
  • Rheoli’r holl waith papur swyddogol ar gyfer y peiriannau
  • Delio â chwmnïau llogi
  • Trafod cytundebau rhent
  • Gweithio ar brosiectau ym mhob cwr o’r byd, goruchwylio’r gwaith pwysig o brynu, llogi neu gludo darnau o offer (mawr iawn yn aml) yn unol â rheolau a rheoliadau llym
  • Goruchwylio ac ysgogi staff. Mae ef/hi yn rhan o dîm rheoli’r prosiectau ac hefyd yn adrodd i’r brif swyddfa
  • Sicrhau bod yr holl beiriannau’n cael eu harchwilio yn unol â’r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch
  • Rhoi ar waith a therfynu ar ddechrau ac ar ddiwedd prosiect, rheoli’r storfa darnau sbâr, a recriwtio a hyfforddi cyflogeion

Faint o gyflog allech chi ei gael fel rheolwr peiriannau?

Mae’r cyflog disgwyliedig i reolwr peiriannau yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall rheolwyr peiriannau sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £20,000 - £30,000
  • Gall rheolwyr peiriannau gyda pheth brofiad ennill £30,000 - £40,000
  • Gall uwch reolwyr peiriannau ennill £40,000 - £50,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer rheolwyr peiriannau: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel rheolwr peiriannau, gallech symud ymlaen i fod yn uwch-reolwr ac ennill cyflog uwch. 

Neu, gyda’r sgiliau a’r cymwysterau cywir, gallech symud i rôl fel rheolwr safleoedd neu gyfleusterau.


Dyluniwyd y wefan gan S8080