Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae rheolwyr prosiectau trydanol yn goruchwylio’r gwaith o osod systemau trydanol a chyflenwi trydan i gartrefi, busnesau a seilwaith, fel ffyrdd neu orsafoedd pŵer.
£40000
-£75000
40-45
Mae sawl ffordd o ddod yn rheolwr prosiectau trydanol. Gallech gwblhau cwrs prifysgol neu goleg, neu brentisiaeth.
Dylech chi ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn rheolwr prosiectau trydanol i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod rhai gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.
Gallech gwblhau gradd mewn peirianneg drydanol i’ch helpu i ddod yn rheolwr prosiectau trydanol.
Bydd angen 2 - 3 lefel A (neu gymhwyster cyfatebol) arnoch i wneud gradd. Ar ôl hynny, efallai y byddwch yn gallu ymuno â chynllun hyfforddi graddedigion y cwmni, neu gwblhau hyfforddiant rheoli prosiectau arbenigol gyda chyflogwr.
> Eglurhad o'r gofynion mynediad cyfatebol
Gallech ennill cymwysterau drwy goleg arbenigol neu ddarparwr hyfforddiant i’ch helpu i ddod yn rheolwr prosiectau trydanol.
Gallech astudio Diploma Cenedlaethol Uwch Lefel 4 neu 5 (HND) mewn Peirianneg Electronig a Thrydanol i’ch helpu i ymuno â’r diwydiant. Gallech gael rhagor o hyfforddiant a phrofiad i symud ymlaen i rôl rheolwr prosiect.
Bydd arnoch angen 1 - 2 lefel A, neu gymhwyster cyfatebol, ar gyfer cwrs lefel 4 neu 5.
> Eglurhad o'r gofynion mynediad cyfatebol
> Dod o hyd i gwrs yn eich ardal chi
Gallech gwblhau prentisiaeth uwch mewn peirianneg drydanol i’ch helpu i ddod yn rheolwr prosiectau trydanol.
Bydd angen i chi gael 4 - 5 TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) ar raddau 9 i 4 (A* i C).
Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.
> Dod o hyd i brentisiaeth yn eich ardal chi
Os oes gennych chi eisoes brofiad mewn peirianneg drydanol a dealltwriaeth o reoli prosiectau, efallai y gallwch wneud cais i gyflogwr yn uniongyrchol am waith fel rheolwr prosiectau trydanol. Efallai y bydd eich cyflogwr yn cynnig hyfforddiant i gael rhagor o sgiliau yn y gwaith.
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel rheolwr prosiectau trydanol. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.
> Dysgwch fwy am brofiad gwaith
Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel rheolwr prosiectau trydanol:
Fel rheolwr prosiectau trydanol, chi fyddai’n gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o ddylunio, gosod a chyflenwi systemau trydanol. O ddydd i ddydd, byddech yn llunio amserlenni, yn dyrannu amser, adnoddau a chyllidebau, ac yn rheoli staff i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau’n brydlon, i safon uchel.
Gallech fod yn cyflenwi ynni i stadau tai, busnesau a seilwaith trefol, neu’n gweithio ar brosiectau ynni adnewyddadwy fel ffermydd solar, gwynt neu donnau, neu weithfeydd nwy.
Gallai swydd rheolwr prosiectau trydanol gynnwys:
Mae’r cyflog disgwyliedig i reolwr prosiectau trydanol yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant ac wedi’u diweddaru ers 2019
Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer rheolwyr prosiectau trydanol:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd swyddi newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Fel rheolwr prosiectau trydanol, gallech weithio mewn amrywiaeth o ddiwydiannau, o adeiladu i drafnidiaeth, gwasanaethau adeiladu i systemau trafnidiaeth neu ynni adnewyddadwy.
Gallech weithio i’r Grid Cenedlaethol neu i gwmni ynni ac yn ddiweddarach symud ymlaen i fod yn uwch reolwr neu’n gyfarwyddwr prosiectau.