Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae rheolwyr tirlunio yn cynllunio, datblygu ac yn gofalu am fannau awyr agored, er mwyn sicrhau fod pobl yn gallu eu defnyddio a’u mwynhau, nawr ac yn y dyfodol. Maent yn defnyddio’u gwybodaeth am ecosystemau ac ymddygiad pobl i gynghori ar brosiectau adeiladu.
£20000
-£40000
I ddod yn rheolwr tirlunio, mae sawl llwybr ar gael. Gallech wneud cwrs yn y brifysgol neu'r coleg, gwneud prentisiaeth neu wneud cais am swydd yn uniongyrchol i gyflogwr.
Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i ddod yn rheolwr tirlunio i weld pa un yw'r un iawn i chi. Er bod angen cymwysterau penodol i ddilyn rhai o'r llwybrau hyn, mae’n well gan lawer o gyflogwyr fod unigolion yn frwdfrydig, yn fodlon dysgu ac yn gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Gall fod angen cerdyn y Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu arnoch i weithio ar safle adeiladu.
Gallech ddod yn rheolwr tirlun wrth gwblhau gradd mewn pensaernïaeth tirlun neu reolaeth tirlunio, wedi’i achredu gan y Sefydliad Tirlunio.
Os oes gradd gyntaf gennych yn barod, gallech gwblhau cwrs ôl-raddedig mewn pwnc perthnasol.
Bydd angen y canlynol arnoch:
> Gofynion mynediad cyfatebol wedi’u hesbonio
Gallech gwblhau cwrs coleg i ddod yn rheolwr tirlunio, megis Tystysgrif Lefel 2 mewn Garddwriaeth Ymarferol, neu Dystysgrif Lefel 3 neu Ddiploma mewn Garddwriaeth neu Arddwriaeth Amwynder.
Bydd angen y canlynol arnoch:
> Gofynion mynediad cyfatebol wedi’u hesbonio
> Dod o hyd i gwrs yn agos atoch chi
Gallech ddod yn rheolwr tirlunio trwy gwblhau prentisiaeth ganolradd fel gweithiwr garddwriaeth neu weithiwr tirlunio, yna datblygu i brentisiaeth uwch i hyfforddi fel rheolwr tirlunio neu oruchwyliwr.
Mae gwneud prentisiaeth gyda chwmni tirlunio yn ffordd dda o ymuno â’r diwydiant.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Gall unrhyw un dros 16 oed wneud prentisiaeth. Fel prentis, byddwch wedi’ch cyflogi'n llawn gan y cwmni rydych yn gweithio iddo a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng y gweithle a’r coleg neu'r darparwr hyfforddiant.
> Dod o hyd i brentisiaeth yn agos atoch chi
Os oes gennych rywfaint o brofiad sylfaenol, gallech wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i gael profiad ar safle adeiladu o weithio fel rheolwr tirlunio. I ddechrau, efallai y byddwch yn gweithio fel cynorthwyydd ac yn camu ymlaen wrth i’ch gallu ddatblygu.
Mae profiad gwaith yn hanfodol i sicrhau swydd yn y diwydiant adeiladu. Gallech gael profiad gwaith yn yr ysgol neu drwy weithio dros benwythnosau a gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy'n gweithio fel rheolwr tirlunio. Bydd darpar-gyflogwyr bob amser yn falch o weld profiad gwaith ar eich CV.
> Rhagor o wybodaeth am brofiad gwaith
Mae sgiliau ychwanegol a all fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel rheolwr tirlunio yn cynnwys:
Fel rheolwr tirlunio, byddech yn gyfrifol am warchod mannau awyr agored a’r bywyd tu mewn iddynt. Gall dyletswyddau gynnwys gwneud arolygon bywyd gwyllt a chreu adroddiadau ar gyfer cwsmeriaid a busnesau yn manylu ar eich arsylwadau a’ch argymhellion cynaliadwyedd. Gallech fod yn goruchwylio ardaloedd cadwraeth naturiol, gerddi hanesyddol, coedwigoedd, parciau, ymylon ffordd neu stadau tai.
Mae dyletswyddau rheolwr tirlunio fel a ganlyn:
Mae’r cyflog disgwyliedig yn amrywio wrth i chi ddod yn fwy profiadol.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y gallwch ei weithio.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant ac wedi’u diweddaru ers 2019
Edrychwch ar y swyddi Rheolwr Tirlunio sy’n wag ar hyn o bryd:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, gall nifer y cyfleoedd sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Fel rheolwr tirlunio, gallech ddatblygu i swydd uwch neu ddod yn ymgynghorydd hunangyflogedig.