Facebook Pixel

Rheolwr ynni

A elwir hefyd yn -

Cynghorydd ynni, ymgynghorydd ynni

Mae rheolwyr ynni yn sicrhau bod sefydliadau yn diwallu eu cyfrifoldebau lleihau ynni, carbon a dŵr.

Cyflog cyfartalog*

£22000

-

£60000

Oriau arferol yr wythnos

38-41

Sut i fod yn rheolwr ynni

Mae sawl ffordd o ddod yn rheolwr ynni. Gallech gwblhau cwrs prifysgol neu goleg, prentisiaeth, neu wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr. 

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn rheolwr ynni i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod rhai gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau. 

Bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

I fod yn rheolwr ynni, gallech chi gwblhau cwrs prifysgol israddedig neu ôl-raddedig mewn pwnc perthnasol, fel:  

  • Pensaernïaeth  
  • Adeiladu ac adeiladwaith 
  • Technoleg adeiladu 
  • Astudiaethau busnes  
  • Rheoli ynni 
  • Peirianneg amgylcheddol neu ynni 
  • Gwyddor yr amgylchedd 
  • Ynni adnewyddadwy neu gynaliadwy  
  • Datblygu cynaliadwy 
  • Tirfesur. 

Bydd angen y canlynol arnoch: 

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Gallech chi gwblhau cwrs coleg mewn gwyddor yr amgylchedd, peirianneg ynni, neu astudiaethau busnes i’ch helpu i ddechrau ar eich taith i fod yn rheolwr ynni. 

Neu, gallech ddechrau drwy astudio ar gyfer Lefel T mewn Dylunio, Arolygu a Chynllunio. 

Bydd angen i chi gael 4 - 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), gan gynnwys Saesneg a mathemateg, neu gymhwyster cyfatebol. 

Prentisiaeth

Gallech chi hyfforddi i fod yn rheolwr ynni drwy gwblhau prentisiaeth sy’n ymwneud â’r canlynol:  

  • Pensaernïaeth  
  • Astudiaethau busnes 
  • Adeiladu ac adeiladwaith 
  • Rheoli ynni 
  • Peirianneg,  
  • Gwyddor yr amgylchedd,  
  • Tirfesur. 

Bydd angen i chi gael 4 - 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C) a lefel A, neu gymhwyster cyfatebol ar gyfer prentisiaeth uwch neu radd-brentisiaeth. 

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant. 

Gwaith

Os oes gennych chi brofiad o weithio mewn diwydiant cysylltiedig fel pensaernïaeth, tirfesur neu beirianneg, efallai y gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr am swydd fel rheolwr ynni. 

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel rheolwr ynni. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV. 

Sgiliau  

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel rheolwr ynni:  

  • Gallu dylanwadu ar eraill a negodi  
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol 
  • Synnwyr da o sut i weithio ar eich liwt eich hun  
  • Gwybodaeth am reoli ynni ac ynni adnewyddadwy 
  • Rhinweddau arwain
  • Sgiliau rheoli prosiectau.

Beth mae rheolwr ynni yn ei wneud?

Fel rheolwr ynni, byddwch chi’n galluogi sefydliadau i leihau eu defnydd o ynni drwy eu helpu i weithredu systemau ynni, carbon a dŵr mwy cynaliadwy. 

Mae swydd rheolwr ynni yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:  

  • Meincnodi’r defnydd o ynni yn erbyn canllawiau arferion gorau  
  • Cynnal archwiliadau safle a chwblhau arolygon ynni 
  • Casglu data monitro ynni a chadw cofnodion cywir 
  • Creu polisïau a systemau ynni 
  • Delio â thrafodaethau ar gontractau ynni 
  • Datblygu a goruchwylio strategaethau i leihau’r ynni a ddefnyddir 
  • Annog defnyddio adnoddau ynni adnewyddadwy a chynaliadwy 
  • Cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth ynni 
  • Negodi gyda chontractwyr a rhanddeiliaid allanol 
  • Goruchwylio’r gwaith o reoli carbon 
  • Codi proffil yr angen i arbed ynni
  • Rhannu cyngor a darparu hyfforddiant ar effeithlonrwydd ynni. 

Faint o gyflog allech chi ei gael fel rheolwr ynni?

Mae’r cyflog disgwyliedig i reolwr ynni yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad. 

  • Gall rheolwyr ynni sydd newydd eu hyfforddi ennill hyd at £23,000 
  • Gall rheolwyr ynni sydd â mwy o brofiad ennill hyd at £45,000 
  • Gall uwch reolwyr ynni ennill hyd at £60,000.* 
  • Rheolwyr ynni hunangyflogedig sy’n gosod eu cyfraddau cyflog eu hunain. 

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud. 

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer rheolwyr ynni  

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt ddod ar gael

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Gyda hyfforddiant pellach, gallech fynd yn eich blaen i fod yn rheolwr ynni siartredig. Fel arall, gallech chi symud ymlaen i beirianneg amgylcheddol, diogelu’r amgylchedd, neu reoli cyfleusterau. 

Gallech chi fod yn hunangyflogedig a gweithio fel ymgynghorydd ynni.


Dyluniwyd y wefan gan S8080