Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae rigwyr rhwydi diogelwch yn cydosod, yn gosod, yn cynnal ac yn sicrhau rhwydi diogelwch ar gyfer amryw o brosiectau adeiladu. Mae’r systemau rhwydi diogelwch maen nhw’n eu darparu yn cynnig amddiffyniad rhag cwympo i weithwyr adeiladu sy’n gweithio mewn mannau uchel. Maen nhw’n sicrhau diogelwch cyffredinol ar y safle a rhaglenni adeiladu effeithlon drwy osod rhwydi diogelwch i’r safon gywir.
£20000
-£35000
38-40
Mae sawl ffordd o fod yn rigiwr rhwydi diogelwch. Gallwch ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch drwy ddilyn cwrs arbenigol, prentisiaeth, neu drwy wneud cais am waith yn uniongyrchol i gyflogwr.
Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn rigiwr rhwydi diogelwch i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu. Efallai y bydd angen trwydded yrru ddilys y DU arnoch hefyd.
Does dim gofynion mynediad ffurfiol i fod yn rigiwr rhwydi diogelwch, ond mae meistrolaeth dda ar fathemateg a Saesneg yn ddefnyddiol. Bydd angen i chi gael eich tystysgrif Hyfforddiant ar Gyfer Stopio Cwympiau (FASET) gan ganolfan awdurdodedig. Unwaith y byddwch wedi cael digon o brofiad, gallwch symud ymlaen i gwblhau NVQ neu SVQ mewn Rigio Rhwydi Diogelwch. Bydd angen i chi hefyd gael cerdyn rigiwr rhwydi diogelwch fel tystiolaeth o’ch gallu proffesiynol. Mae hwn ar gael o statws hyfforddai hyd at statws profiadol.
> Dod o hyd i gwrs yn eich ardal chi
Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu’n ffordd dda i ymuno â’r diwydiant.
Gallech wneud cais am brentisiaeth sgaffaldiwr canolradd gyda chwmni adeiladu neu gwmni sgaffaldiau arbenigol, a fydd yn cymryd 18 mis i’w gwblhau, cyn symud i rôl fel rigiwr rhwydi diogelwch.
Bydd angen 2 - 3 TGAU arnoch, sydd fel arfer yn cynnwys Saesneg a mathemateg, neu gymwysterau cyfatebol, ar gyfer prentisiaeth ganolradd.
Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.
> Dod o hyd i brentisiaeth yn eich ardal chi
Os oes gennych chi rywfaint o brofiad sylfaenol, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu neu gwmni sgaffaldiau arbenigol i gael profiad ar safle fel rigiwr rhwydi diogelwch. Bydd angen i chi gael cymwysterau arbenigol i weithio yn y rôl hon. Gallech chi ddechrau arni fel cynorthwyydd i rigiwr rhwydi diogelwch mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella, ac ar ôl i chi gwblhau’r hyfforddiant.
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel rigiwr rhwydi diogelwch. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.
> Dysgwch fwy am brofiad gwaith
Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel rigiwr rhwydi diogelwch:
Fel gosodwr rhwydi diogelwch, byddwch yn gyfrifol am ddefnyddio peiriannau’n ddiogel i helpu i baratoi a datgymalu llwyfannau er mwyn gallu gweithio’n uwch.
Mae swydd rigiwr rhwydi diogelwch yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:
Mae’r cyflog disgwyliedig i rigiwr rhwydi diogelwch yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant
Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer rigwyr rhwydi diogelwch:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Wrth i chi ennill profiad a sgiliau yn eich gyrfa fel rigiwr rhwydi diogelwch, gallech chi gael eich dyrchafu i fod yn oruchwyliwr neu’n rheolwr.
Gyda rhagor o hyfforddiant a chymwysterau, gallech chi symud ymlaen i yrfa fel cynghorydd diogelwch, iechyd, yr amgylchedd ac ansawdd.
Gallech fod yn gontractwr hunangyflogedig a gosod eich cyflog eich hun.
Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod