Facebook Pixel

Saer Mainc

A elwir hefyd yn -

Saer, aseidydd

Mae saer mainc yn gweithio oddi ar y safle, gan dorri pren a choed i’r hyd sydd angen ar gyfer prosiectau adeiladu. Gallen nhw weithio i fasnachwr adeiladwyr neu mewn gweithdy, gan greu strwythurau i’w cydosod ar y safle fel ffitiadau drysau neu ffenestri, adeiladau ffrâm bren a mwy.

Cyflog cyfartalog*

£17000

-

£40000

Oriau arferol yr wythnos

40-45

Sut i fod yn saer mainc

Mae sawl ffordd o fod yn saer mainc. Gallech chi gwblhau cwrs coleg, prentisiaeth, neu hyfforddiant yn y gwaith, neu wneud cais uniongyrchol i gyflogwr. 

Dylech chi ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn saer mainc, i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod rhai gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau. 

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu arnoch i weithio ar safle adeiladu.  

Coleg/darparwyr hyfforddiant 

Gallech gwblhau cwrs hyfforddi i’ch helpu i fod yn saer mainc, fel Diploma Lefel 2 neu 3 mewn Saernïaeth Mainc, Gwaith Saer ac Asiedydd, neu Drin Pren â Pheiriannau.  

Bydd angen y canlynol arnoch: 

Prentisiaeth 

Gallech chi hyfforddi fel prentis gwaith saer ac aseidydd, neu brentis gweithgynhyrchu â choed i weithio tuag at fod yn saer mainc. Yn dibynnu ar eich profiad blaenorol, gallech gofrestru ar gyfer prentisiaeth uwch neu ganolradd. 

Bydd angen y canlynol arnoch: 

  • 2 neu 3 TGAU, fel arfer yn cynnwys Saesneg a mathemateg, neu gymhwyster cyfatebol (prentisiaeth ganolradd) 
  • 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol, gan gynnwys Saesneg a mathemateg (prentisiaeth lefel uwch) 

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant. 

Gwaith 

Os oes gennych chi rywfaint o brofiad blaenorol mewn gwaith coed, gallech wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu neu fasnachwr adeiladu i ennill profiad fel saer mainc. Gallech chi ddechrau fel cynorthwyydd i saer mainc mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella. 

Profiad gwaith 

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel saer mainc. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV. 

Sgiliau  

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel saer mainc:  

  • Dealltwriaeth o adeiladu 
  • Sgiliau cydlynu da 
  • Sylw rhagorol i fanylion 
  • Gallu dehongli cynlluniau a diagramau 
  • Sgiliau mathemateg da
  • Gallu defnyddio, atgyweirio a chynnal a chadw peiriannau ac offer yn hyderus.

Beth mae saer mainc yn ei wneud?

Fel saer mainc, byddwch yn torri pren i’r siapiau a’r hyd sydd angen. Byddwch wedi’ch lleoli mewn gweithdy a gallech ddefnyddio pren i gydosod strwythurau sy’n cael eu cludo i safle i’w gosod mewn adeiladau newydd, fel fframiau ffenestri neu drawstiau. 

Dyma rai o gyfrifoldebau dyddiol posibl saer mainc: 

  • Gweithio yn unol ag amserlenni cynhyrchu  
  • Dehongli diagramau a chynlluniau technegol  
  • Amcangyfrif faint o ddeunyddiau sydd eu hangen ar gyfer tasg a llunio rhestrau torri  
  • Dewis pren sy’n addas ar gyfer tasg benodol 
  • Mesur pren a’i farcio cyn ei dorri 
  • Torri pren yn ôl y dimensiynau sydd angen  
  • Rhaglennu offer torri cyfrifiadurol 
  • Defnyddio offer llaw ac offer pŵer yn ddiogel ac yn effeithlon  
  • Cydosod strwythurau pren mewn gweithdy, fel fframiau ffenestri a drysau
  • Cynnal gwiriadau ansawdd ac adrodd i staff uwch. 

Faint o gyflog allech chi ei gael fel saer mainc?

Mae’r cyflog disgwyliedig i saer mainc yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad. 

  • Gall seiri mainc sydd newydd gael eu hyfforddi ennill oddeutu £17,000 
  • Gall seiri mainc profiadol ennill hyd at £40,000* 
  • Seiri mainc hunangyflogedig sy’n gosod eu cyfraddau cyflog eu hunain. 

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer seiri mainc:  

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd swyddi newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi. 

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel saer mainc, gallech chi symud ymlaen i swydd uwch fel arweinydd tîm neu reolwr. 

Gallech chi fynd yn hunangyflogedig neu arbenigo mewn maes penodol o waith saer mainc, fel adeiladu fframiau pren neu ôl-osod.


Dyluniwyd y wefan gan S8080