Facebook Pixel

Saer weldio

A elwir hefyd yn -

Weldiwr, weldiwr pibellau, weldiwr MIG, weldiwr TIG, weldiwr arcau, gwneuthurwr boeleri

Mae seiri weldio yn torri, yn uno ac yn siapio metel a deunyddiau eraill, gan ddefnyddio gwres ac amrywiaeth o offer. Mae eu hangen ar brosiectau adeiladu o bob maint, er mwyn gwneud unrhyw beth o drwsio peiriannau i godi pontydd. Gall weldwyr helpu i adeiladu’r fframiau dur ar gyfer adeiladau, cefnogi prosiectau diwydiannol, neu hyd yn oed weithio o dan y dŵr ar rigiau olew.

Cyflog cyfartalog*

£20000

-

£50000

Oriau arferol yr wythnos

44-46

Sut i fod yn saer weldio?

Mae sawl ffordd o ddod yn saer weldio. Gallech chi ddilyn cwrs coleg, prentisiaeth, neu hyfforddiant arbenigol yn y gwaith.

Dylech chi ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn saer weldio, i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Efallai y bydd eich coleg neu’ch darparwr hyfforddiant lleol yn cynnig cyrsiau, fel Dyfarniad Lefel 2 mewn Sgiliau Weldio, Tystysgrif Lefel 2 mewn Saernïo ac Ymarfer Weldio neu Ddiploma Lefel 3 mewn Peirianneg Weldio.

Bydd angen y canlynol arnoch chi:

Prentisiaeth

Gallech chi gwblhau prentisiaeth ganolradd neu uwch i fod yn saer weldio, mewn weldio, adeiladu peirianneg neu weithgynhyrchu peirianneg.

Bydd angen y canlynol arnoch chi:

  • Hyd at 5 TGAU, gan gynnwys Saesneg a mathemateg, neu gymhwyster cyfatebol (prentisiaeth ganolradd)
  • 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol, gan gynnwys Saesneg a mathemateg (prentisiaeth lefel uwch)

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu’n ffordd dda i ymuno â’r diwydiant.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Gwaith

Os oes gennych chi rywfaint o brofiad sylfaenol, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i gael profiad ar safle fel saer weldio. Gallech chi ddechrau fel cynorthwyydd a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.

Efallai y bydd eich cyflogwr yn eich helpu i ennill cymhwyster weldio, a fyddai’n rhoi llawer o’r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer y swydd. Mae’r Bwrdd Hyfforddi Adeiladu Peirianneg (ECITB), Enginicity a’r Sefydliad Weldio (TWI) i gyd yn darparu rhagor o wybodaeth am hyfforddiant a chymwysterau.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel saer weldio Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel saer weldio:

  • Sylw i fanylion
  • Gwybodaeth am beirianneg a thechnoleg
  • Y gallu i weithio gyda’ch dwylo.
  • Sgiliau dylunio a mathemateg sylfaenol.

Beth mae saer weldio yn ei wneud?

Fel saer weldio, byddwch yn gyfrifol am uno metel gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau, yn aml i ffurfio strwythurau newydd. Gall y dyletswyddau gynnwys torri a weldio deunyddiau yn unol â chynlluniau technegol a grëwyd gan weithwyr adeiladu proffesiynol eraill.

  • Gwneud gwaith weldio arc metel nwy (GMAW), i gynhyrchu eitemau a chydrannau
  • Torri deunyddiau i’r siapiau sydd angen, gan wirio dimensiynau a thrwch
  • Weldio neu uno metel a deunyddiau eraill i greu amrywiaeth eang o strwythurau
  • Dilyn cynlluniau, lluniadau a chyfarwyddiadau peirianyddol
  • Defnyddio rhaglenni cyfrifiadurol i ddylunio strwythurau
  • Defnyddio offer a pheiriannau a chyfarpar weldio
  • Archwilio a phrofi gwaith weldio gydag offer mesur trachywir
  • Datgymalu strwythurau metel
  • Glanhau offer, cyfarpar ac ardaloedd gwaith
  • Gwisgo dillad diogelwch a defnyddio cyfarpar diogelu
  • Gweithio ar safle adeiladu neu mewn gweithdy.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel saer weldio?

Mae’r cyflog disgwyliedig i saer weldio yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall seiri weldio sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £20,000 - £25,000
  • Gall seiri weldio hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £25,000 - £30,000*
  • Gall uwch seiri weldio ennill £30,000 - £50,000*
  • Seiri weldio hunangyflogedig sy’n gosod eu cyfraddau cyflog eu hunain.

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi gwag

Edrychwch ar y swyddi diweddaraf ar gyfer seiri weldio:

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel saer weldio, gallech chi symud ymlaen i fod yn beiriannydd weldio neu’n uwch saer weldio.

Gallech hefyd sefydlu eich busnes eich hun a dod yn hunangyflogedig.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Saer weldio Creu strwythurau drwy uno metalau a deunyddiau eraill i’w defnyddio drwy gydol p...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Peiriannydd weldio Dylunio a datblygu amrywiaeth eang o systemau a chyfarpar weldio ar gyfer prosie...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080