Facebook Pixel

Swyddog diogelwch a rheoli traffig

Mae swyddog diogelwch a rheoli traffig yn gwneud penderfyniadau pwysig ynghylch y ffordd orau o reoli traffig. Gallai hyn gynnwys sefyllfaoedd fel digwyddiadau traffig, gwaith ffordd wedi’i gynllunio, digwyddiadau mawr neu ddatblygiadau newydd.

Cyflog cyfartalog*

£25000

-

£40000

Sut i fod yn swyddog diogelwch a rheoli traffig

Nid oes angen cymwysterau penodol fel arfer i fod yn swyddog diogelwch a rheoli traffig, ond gallech ddatblygu sgiliau defnyddiol drwy gwblhau cwrs coleg, prentisiaeth neu hyfforddiant yn y gwaith.

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Gallech chi fynd i goleg neu at ddarparwr hyfforddiant arbenigol a dechrau drwy astudio peirianneg sifil i'ch helpu ar eich taith i fod yn swyddog diogelwch a rheoli traffig.

Mae cyrsiau coleg perthnasol yn cynnwys:

  • Diploma Lefel 3 mewn Peirianneg Sifil
  • Lefel T mewn Dylunio, Arolygu a Chynllunio
  • Tystysgrif Lefel 4 mewn Peirianneg Sifil
  • Diploma Lefel 5 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig 

Bydd angen y canlynol arnoch chi: 

  • 4 - 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol (cwrs lefel 3)
  • 4 - 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol, gan gynnwys Saesneg a mathemateg (lefel T)
  • 1 - 2 lefel A (neu gymhwyster cyfwerth) ar gyfer y cyrsiau hyn, gan gynnwys mathemateg (cyrsiau lefel 4 neu 5). 

Ar ôl i chi gymhwyso, gallech chi arbenigo mewn diogelwch a rheoli traffig i’ch helpu i symud i’r maes hwn. 

Prentisiaeth

Gallech chi hyfforddi fel prentis peirianneg sifil i'ch helpu ar eich taith i fod yn swyddog diogelwch a rheoli traffig. Neu, gallech gwblhau prentisiaeth cynllunio trefi gydag awdurdod lleol, ac yna symud ymlaen i reoli traffig.

Bydd angen i chi gael hyd at 5 TGAU (gan gynnwys Saesneg a mathemateg) ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol.

Gwaith

Os oes gennych chi rywfaint o brofiad sylfaenol, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i gael profiad a hyfforddiant ar y safle fel swyddog diogelwch a rheoli traffig. Gallech chi ddechrau fel cynorthwyydd i swyddog diogelwch a rheoli traffig mwy profiadol a datblygu wrth i’ch galluoedd wella.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel swyddog diogelwch a rheoli traffig. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau 

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel swyddog diogelwch a rheoli traffig: 

  • Gwybodaeth am ddulliau, costau a manteision trafnidiaeth
  • Gallu meddwl yn ddadansoddol a datrys problemau
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar
  • Sylw da i fanylion
  • Hyblyg ac yn agored i newid
  • Gallu defnyddio eich crebwyll eich hun a gwneud penderfyniadau.

Beth mae swyddog diogelwch a rheoli traffig yn ei wneud?

Fel swyddog diogelwch a rheoli traffig, byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod traffig yn symud yn llyfn ac yn ddiogel o amgylch digwyddiadau ar y ffordd, gwaith ffordd wedi’i gynllunio, digwyddiadau mawr neu brosiectau adeiladu.

Efallai y bydd swydd swyddogion diogelwch a rheoli traffig yn cynnwys y dyletswyddau canlynol: 

  • Gwneud penderfyniadau pwysig ynghylch y ffordd orau o ddylunio cynllun a rheoli systemau traffig
  • Rhagfynegi llif traffig a phroblemau posibl ar lwybrau arfaethedig
  • Ymdrin â digwyddiadau, fel gwrthdrawiadau traffig ar y ffordd, a threfnu bod malurion a risgiau eraill yn cael eu symud yn gyflym
  • Darparu presenoldeb gweladwy iawn mewn digwyddiadau traffig ar y ffordd
  • Cadw llif y traffig mor llyfn â phosibl heb beryglu diogelwch y cyhoedd
  • Llunio adroddiadau manwl gywir
  • Ymgymryd â gwelliant parhaus drwy fonitro profiadau defnyddwyr a gwneud newidiadau yn unol â hynny
  • Cynllunio’r llwybrau mwyaf diogel, y cyflymaf a’r mwyaf effeithlon.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel swyddog diogelwch a rheoli traffig?

Mae’r cyflog disgwyliedig i swyddog diogelwch a rheoli traffig yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall swyddogion diogelwch a rheoli traffig sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £25,000 - £30,000
  • Gall swyddogion diogelwch a rheoli traffig hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £30,000 - £40,000

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer swyddogion diogelwch a rheoli traffig: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel swyddog diogelwch a rheoli traffig, gallech chi symud ymlaen i fod yn swyddog traffig technegol, neu ddatblygu eich sgiliau drwy astudio tuag at radd a dod yn beiriannydd priffyrdd. 

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Swyddog diogelwch a rheoli traffig Cymerwch gyfrifoldeb am gynllun a rheolaeth traffig ledled y DU. Dysgwch fwy am ...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Swyddog technegol traffig Arwain traffig, prosesau rheoli a gwelliannau i ddiogelwch ar y ffyrdd ledled y ...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080