Facebook Pixel

Swyddog technegol traffig

Mae swyddogion technegol traffig yn arwain prosesau rheoli traffig a gwelliannau i ddiogelwch ar y ffyrdd. Fel swyddog technegol traffig, byddech yn gweithio fel rhan o’r tîm sy’n gyfrifol am sicrhau bod rhwydweithiau signalau traffig yn cael eu rheoli’n effeithiol ac yn effeithlon ledled y wlad.

Cyflog cyfartalog*

£20000

-

£30000

Oriau arferol yr wythnos

38-40

Sut i fod yn swyddog technegol traffig

Mae sawl ffordd o ddod yn swyddog technegol traffig. Gallech chi gwblhau cwrs coleg, prentisiaeth, cael hyfforddiant yn y gwaith, neu wneud cais uniongyrchol i gyflogwr.

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn swyddog technegol traffig i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Nid oes angen cymwysterau ffurfiol i fod yn swyddog technegol traffig; fodd bynnag, efallai y byddai’n syniad cwblhau TGAU mewn mathemateg a Saesneg.

Yn gyffredinol, bydd angen y canlynol arnoch:

  • Hyd at 2 TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) ar raddau 3 i 1 (D i G) (cwrs lefel 1)
  • 2 TGAU neu fwy (neu gymhwyster cyfatebol) ar raddau 9 i 3 (A* i D) (cwrs lefel 2 neu 3).

Ar gyfer rôl uwch swyddog technegol traffig, gallai hyfforddiant neu brofiad mewn rheoli traffig, iechyd a diogelwch neu logisteg fod yn ddefnyddiol.

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth yn ffordd dda i ymuno â’r diwydiant, naill ai gydag awdurdod lleol neu gwmni adeiladu sy’n arbenigo mewn seilwaith.

Bydd angen i chi gael hyd at 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol i fod yn brentis.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Gwaith

Os oes gennych chi rywfaint o brofiad sylfaenol, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i awdurdod lleol neu gwmni adeiladu i gael profiad fel swyddog technegol traffig. Gallech chi ddechrau arni fel cynorthwyydd i swyddog technegol traffig mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel swyddog technegol traffig. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel swyddog technegol traffig: 

  • Gwybodaeth am ddulliau, costau a manteision trafnidiaeth
  • Gallu meddwl yn ddadansoddol a datrys problemau
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar
  • Sylw da i fanylion
  • Hyblyg ac yn agored i newid
  • Gallu defnyddio eich crebwyll eich hun a gwneud penderfyniadau.

Beth mae swyddog technegol traffig yn ei wneud?

Fel swyddog technegol traffig, gallech fod yn:

  • Arwain traffig, prosesau rheoli a gwelliannau i ddiogelwch ar y ffyrdd
  • Monitro cydymffurfiad â’r ddeddfwriaeth/cyfarwyddebau perthnasol
  • Gweithio fel rhan o dîm integredig
  • Gweithio ar leoliad i asesu risgiau a phroblemau posibl
  • Arolygu lleoliadau a chofnodi canfyddiadau
  • Archwilio gwaith sydd wedi’i gwblhau i chwilio am wallau
  • Gweithio y tu allan i oriau gwaith pan fo angen
  • Goruchwylio gwaith gweithwyr traffig eraill
  • Trefnu logisteg.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel swyddog technegol traffig?

Mae’r cyflog disgwyliedig i swyddog technegol traffig yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall swyddogion technegol traffig sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £20,000 - £25,000
  • Gall swyddogion technegol traffig hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £25,000 - £30,000

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi gwag

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer swyddogion technegol traffig:

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel swyddog technegol traffig, gallech symud ymlaen yn eich gyrfa i fod yn swyddog rheoli a diogelwch traffig, neu’n beiriannydd priffyrdd.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Swyddog technegol traffig Arwain traffig, prosesau rheoli a gwelliannau i ddiogelwch ar y ffyrdd ledled y ...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Swyddog diogelwch a rheoli traffig Cymerwch gyfrifoldeb am gynllun a rheolaeth traffig ledled y DU. Dysgwch fwy am ...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080