Facebook Pixel

Technegydd adeiladu

A elwir hefyd yn -

Rheolwr safle cynorthwyol, technegydd safle

Mae technegwyr adeiladu yn helpu gyda thasgau hanfodol sy’n ymwneud â phrosiectau a gwaith adeiladu. Fel technegydd adeiladu, gallech fod yn goruchwylio amrywiaeth o dasgau, o fonitro cynnydd y gwaith adeiladu, i drafod gyda chyflenwyr, paratoi cynlluniau safle ac amcangyfrif costau.

Cyflog cyfartalog*

£20000

-

£30000

Oriau arferol yr wythnos

45-47

Sut i fod yn dechnegydd adeiladu

Mae sawl ffordd o fod yn dechnegydd adeiladu. Gallech gwblhau cwrs prifysgol neu goleg, prentisiaeth neu wneud cais am waith yn uniongyrchol i gyflogwr.

Dylech chi ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn dechnegydd adeiladu, i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

Gallech gwblhau gradd sylfaen neu Ddiploma Cenedlaethol Uwch (HND) mewn pwnc perthnasol, fel adeiladu a’r amgylchedd adeiledig, arolygu neu beirianneg sifil.

Bydd arnoch angen 1 - 2 lefel A, neu gymhwyster cyfatebol, ar gyfer gradd sylfaen neu HND.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Gallech gwblhau cwrs coleg i’ch helpu i ddod yn dechnegydd dan hyfforddiant, fel Diploma Lefel 3 mewn Peirianneg Sifil, Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig neu lefel T mewn Dylunio, Arolygu a Chynllunio.

Bydd angen y canlynol arnoch:

Prentisiaeth

Gallech gwblhau uwch brentisiaeth i’ch helpu i ddod yn dechnegydd adeiladu, ym maes adeiladu, arolygu neu ddylunio gwasanaethau adeiladu.

Gallech hefyd ddod yn dechnegydd peirianneg adeiladu dan hyfforddiant. Neu, gallech gwblhau prentisiaeth uwch technegydd dylunio ac adeiladu.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol, gan gynnwys Saesneg a mathemateg (prentisiaeth lefel uwch)
  • 4 - 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C) a lefel A, neu gymhwyster cyfatebol (prentisiaeth uwch).

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu’n ffordd dda i ymuno â’r diwydiant. Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Gwaith

Bydd rhai technegwyr adeiladu yn ennill profiad o’r diwydiant mewn meysydd eraill cyn hyfforddi fel technegydd adeiladu.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel technegydd adeiladu. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Mae sgiliau delfrydol ar gyfer technegydd adeiladu yn cynnwys: 

  • Dealltwriaeth o adeiladu
  • Y gallu i weithio’n drylwyr a rhoi sylw i fanylion
  • Sgiliau meddwl a rhesymu
  • Gallu i feddwl yn ddadansoddol
  • Gwybodaeth am fathemateg
  • Sgiliau cyfrifiadurol a’r gallu i ddefnyddio’r prif becynnau meddalwedd.

Beth mae technegydd adeiladu yn ei wneud?

Prif gyfrifoldeb technegydd adeiladu yw helpu gyda thasgau adeiladu hanfodol, fel amcangyfrif, contractau neu gynllunio safle.

Fel technegydd adeiladu, gallai eich dyletswyddau gynnwys: 

  • Amcangyfrif costau prosiectau cyn bidio am gontractau newydd
  • Trafod gyda chyflenwyr ynghylch cost deunyddiau, offer a llafur
  • Gwirio ansawdd cyflenwyr
  • Helpu i gynllunio pob cam adeiladu
  • Drafftio cynlluniau a glasbrintiau gan ddefnyddio meddalwedd cynllunio gyda chymorth cyfrifiadur (CAD)
  • Monitro cynnydd y gwaith adeiladu
  • Paratoi safleoedd cyn i’r gwaith adeiladu ddechrau
  • Goruchwylio timau contractwyr
  • Gweithio ar safle adeiladu neu mewn swyddfa.


Faint o gyflog allech chi ei gael fel technegydd adeiladu?

Mae’r cyflog disgwyliedig i dechnegydd adeiladu yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall technegwyr adeiladu sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £17,000 - £20,000
  • Gall technegwyr adeiladu hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £20,000 - £30,000
  • Gall technegwyr adeiladu uwch, siartredig neu feistr ennill £30,000 - £40,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer technegwyr adeiladu: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel technegydd adeiladu, mae sawl llwybr er mwyn camu ymlaen yn eich gyrfa. Wrth i’ch gwybodaeth wella, gallech chi symud ymlaen i swydd amcangyfrifwr neu brynwr. 

Wrth i chi gael mwy o brofiad, gallech chi symud ymlaen i rôl fel uwch reolwr neu reolwr contractau, neu gael swydd fel peiriannydd safle.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Rheolwr bidio Mae'r disgrifiad swydd Rheolwr Bidio Am Adeiladu hwn yn sôn am bopeth y mae ange...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr datblygu busnes Mae gan Reolwyr Datblygu Busnes Adeiladu ystod o ddyletswyddau. O ddatblygu cont...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr contractau Yn ystod prosiect adeiladu, mae’r rheolwr contractau yn goruchwylio’r broses con...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080