James Gunn
Mae James Gunn yn dechnegydd cynnal a chadw priffyrdd yn VolkerHighways, sy'n rhan o VolkerWessels UK. Mae'r cwmni'n arbenigo mewn cynnal a chadw priffyrdd, peirianneg sifil, tirlunio caled a meddal a goleuadau stryd.
Roeddwn wedi bod yn awyddus i weithio yn y diwydiant adeiladu erioed. Pan oeddwn yn iau, rhoddodd y Ganolfan Byd Gwaith fi mewn cysylltiad â'r Prince's Trust a chefais fy ngherdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) drwyddynt.
Hefyd, cefais gyfle i fynd i ddiwrnod agored ar gyfer prentisiaid ym maes cynnal a chadw priffyrdd yn VolkerHighways. Roedd y diwrnod agored yn cynnwys gweithgareddau a chyfweliad anffurfiol. Roeddwn yn un o wyth o bobl a ddewiswyd allan o grŵp o tua ugain i ddechrau ar brentisiaeth. Wedyn, dechreuais fy nghwrs Lefel 2 NVQ mewn Cynnal a Chadw Priffyrdd yng Ngholeg Adeiladu Cenedlaethol CITB.
Beth rydych yn ei fwynhau am eich rôl?
Rwyf wrth fy modd yn gweithio yn yr awyr agored ac yn gwneud rhywbeth newydd bob dydd. Mae gan bob diwrnod rywbeth gwahanol ar fy nghyfer. Un diwrnod, gallaf fod yn gosod palmentydd, a thrannoeth gallaf fod yn concridio. Rwy'n cael llawer o foddhad o fod yn rhan o brosiect o'r dechrau i'r diwedd.
Rwy'n gweithio yn fy ardal leol ar hyn o bryd, a phan af heibio i brosiect priffyrdd rwyf wedi gweithio arno, gallaf ddweud ‘gweithiais ar y prosiect hwnnw!’.
Disgrifiwch eich diwrnod gwaith.
Rwy'n cyrraedd y gwaith yn gynnar ac yn cydweithio â pheiriannydd priffyrdd profiadol i amlinellu'r lefelau. Mae hyn yn golygu darllen y lluniadau ar gyfer y prosiect ac ychwanegu marcwyr er mwyn i weithwyr adeiladu wybod ble yn union y mae angen gosod palmentydd, ochrau palmentydd neu systemau draenio newydd. Byddwn hefyd yn gwneud hyn ar gyfer dodrefn stryd, er enghraifft ar gyfer gosod meinciau newydd.
Rhan arall o fy swydd yw tirfesur. Mae hyn yn cynnwys gwirio lefelau er mwyn sicrhau eu bod yn gywir a bod popeth wedi'i gynllunio'n gywir ac yn ffitio i'w gilydd. Er enghraifft, gall fod angen i ni sicrhau bod palmentydd yn cael eu gosod mewn ffordd sy'n caniatáu i ddŵr glaw lifo tuag at y systemau draenio er mwyn osgoi llifogydd.
Pa sgiliau sydd eu hangen yn eich swydd?
Mae angen i chi fod yn wyliadwrus iawn ac yn gwbl ymwybodol o'r hyn sydd o'ch cwmpas, oherwydd yn aml bydd llawer o beiriannau'n symud o gwmpas. Mae sgiliau cyfathrebu a gwrando da hefyd yn ddefnyddiol iawn. Os bydd eich goruchwyliwr yn gofyn i chi osod rhwystrau o gwmpas eich ardal waith i gadw'r cyhoedd allan, bydd angen i chi wneud y dasg gan ddilyn y cyfarwyddiadau i'r dim er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd a gweithwyr eraill.
Yn aml ar brosiect priffyrdd, bydd aelodau o'r cyhoedd yn gofyn cwestiynau i chi. Mae angen i chi allu rhoi gwybodaeth ddefnyddiol iddynt, neu wybod i ble i'w cyfeirio os nad ydych yn gwybod.
Sgil dda arall yw gallu canfod problem cyn iddi ddigwydd. Er enghraifft, pan fyddwch yn gosod palmant, os gallwch weld ei fod yn cael ei osod yn wastad a bod angen ei osod ar ogwydd, gorau po gynharaf y gallwch weld hyn er mwyn i chi osgoi gorfod ei godi a'i ailosod, gan arbed amser ac arian.
Beth rydych yn fwyaf balch ohono yn eich gyrfa?
Rwy'n datblygu yn fy rôl ac yn ennyn mwy a mwy o barch gan fy nghydweithwyr a'm rheolwyr. Drwy ddangos eich bod yn frwdfrydig ac yn awyddus i ddatblygu, cewch fwy o gyfleoedd.
Ar y prosiect rwy'n gweithio arno ar hyn o bryd, rwyf wedi cael ychydig o gyfrifoldebau ychwanegol, fel cynnal cyfarfodydd briffio diogelwch â'r staff a llenwi nodiadau cyflenwi, sy'n ffordd wych o fagu profiad.
I ba gyfeiriad yr hoffech i'ch gyrfa fynd â chi?
Mae llawer o rolau y gallwn symud ymlaen iddynt, fel peiriannydd priffyrdd, goruchwyliwr neu reolwr contractau. Gallwn hyd yn oed symud ymlaen i ddilyn cwrs addysg uwch. Ar hyn o bryd, nid wyf yn siŵr beth fydd yn digwydd yn y dyfodol, ond gwn fy mod am ddringo'r ysgol yrfa.
Ar bob prosiect y gweithiaf arno, rwy'n gwneud ymdrech i gyd-dynnu'n dda â'r rheolwr contractau ac yn gofyn llawer o gwestiynau iddo er mwyn cael mwy o wybodaeth a phrofiad. Credaf y bydd hyn yn fy helpu i symud ymlaen yn fy ngyrfa.
Gair o gyngor i unrhyw un sy'n ystyried gyrfa yn y diwydiant adeiladu?
Mae'n waith caled, a byddwch yn aml yn dechrau gweithio'n gynnar yn y bore ac weithiau'n gweithio mewn tywydd gwael, ond byddwch yn dysgu rhywbeth newydd bob dydd ac mae'n bwysig gwneud yn siŵr bod pob diwrnod yn cyfrif. Rhaid i chi feddwl am bob diwrnod fel cyfle i ddysgu mwy a magu mwy o brofiad er mwyn eich helpu i ddatblygu eich gyrfa.