Facebook Pixel

Technegydd peirianneg sifil

Mae technegwyr peirianneg sifil yn rhoi cymorth technegol i beirianwyr ar brosiectau adeiladu. Maent yn tueddu i arbenigo mewn un maes o beirianneg sifil, fel dylunio, cynllunio neu logisteg a gallant fod yn ymwneud â phrosiectau sy’n amrywio o adeiladu pontydd, i ledu ffyrdd, neu greu seilwaith newydd.

Cyflog cyfartalog*

£17000

-

£37000

Oriau arferol yr wythnos

45-47

Sut i fod yn dechnegydd peirianneg sifil

Mae sawl ffordd o fod yn dechnegydd peirianneg sifil. Gallech gwblhau cwrs prifysgol neu goleg, neu brentisiaeth.

Dylech chi ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn dechnegydd peirianneg sifil, i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

I fod yn dechnegydd peirianneg sifil, gallech gwblhau gradd sylfaen neu ddiploma cenedlaethol uwch (HND) mewn peirianneg sifil.

Ar gyfer y naill lwybr neu’r llall, bydd angen y canlynol arnoch:

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Gallech gwblhau cwrs coleg i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddod yn dechnegydd peirianneg sifil, fel Tystysgrif Lefel 2 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig, Diploma Lefel 3 mewn Peirianneg Sifil neu lefel T mewn Dylunio, Tirfesur a Chynllunio.

Byddai’n ddefnyddiol dewis cwrs sy’n cynnig modiwlau mewn dylunio gyda chymorth cyfrifiadur (CAD), neu AutoCAD, PDS neu Civil 3D.

Bydd angen y canlynol arnoch:

Prentisiaeth

Gallwch gwblhau uwch-brentisiaeth technegydd peirianneg sifil gyda chwmni adeiladu.

Bydd angen i chi gael 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol, gan gynnwys Saesneg a mathemateg, i wneud hyn.

Mae uwch-brentisiaethau technegydd peirianneg sifil yn para am dair blynedd a byddant yn rhoi’r cymwysterau angenrheidiol i chi weithio yn y maes hwn.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Gwaith

Llwybr posibl arall i yrfa fel technegydd peirianneg sifil yw drwy ddechrau fel technegydd dan hyfforddiant ar ôl gorffen yn yr ysgol. Yma gallwch ddysgu’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i fod yn dechnegydd peirianneg sifil a gweithio mewn swydd amser llawn tra byddwch yn cwblhau’r cymwysterau angenrheidiol. 

Er mwyn cael swydd fel technegydd dan hyfforddiant, bydd y rhan fwyaf o gyflogwyr yn gofyn am TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C) mewn Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel technegydd peirianneg sifil. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Mae’r sgiliau a’r wybodaeth ychwanegol y bydd eu hangen arnoch i fod yn dechnegydd peirianneg sifil yn cynnwys: 

  • Dealltwriaeth o adeiladu
  • Sgiliau mathemateg, dylunio a TG cryf
  • Dealltwriaeth o wyddoniaeth a thechnoleg peirianneg
  • Sylw i fanylion
  • Y gallu i gyfathrebu’n glir. 

Beth mae technegydd peirianneg sifil yn ei wneud?

Yn dibynnu ar y math o brosiect, gall cyfrifoldebau technegydd peirianneg sifil amrywio. 

Gall dyletswyddau technegydd peirianneg sifil gynnwys: 

  • Darparu cymorth i beirianwyr sifil gyda’r gwaith o ddylunio, adeiladu a rheoli amrywiaeth o brosiectau
  • Paratoi cynlluniau adeiladu manwl
  • Arolygu safleoedd a threfnu i samplau o bridd a chreigiau gael eu dadansoddi
  • Sicrhau bod y prosiect yn cyfateb i ofynion y cleient
  • Cyfrifo’r swm a'r math o ddeunyddiau sydd eu hangen
  • Sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn unol â’r terfynau amser
  • Lleihau effaith y prosiect ar yr amgylchedd     
  • Gweithio ar y safle ac mewn swyddfa.


Faint o gyflog allech chi ei gael fel technegydd peirianneg sifil?

Mae’r cyflog disgwyliedig i dechnegydd peirianneg sifil yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall technegwyr sydd newydd gymhwyso ennill £17,000 - £19,000
  • Gall technegwyr cymwys gyda pheth brofiad ennill £25,000 - £35,000
  • Gall uwch dechnegwyr ennill mwy na £37,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer technegwyr peirianneg sifil:  

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Gyda phrofiad a hyfforddiant pellach, gallech fod yn beiriannydd sifil neu strwythurol.


Dyluniwyd y wefan gan S8080