Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae gan dechnegydd peirianneg strwythurol ran allweddol yn y gwaith o ddylunio, cynllunio ac adeiladu prosiectau adeiladu, gan helpu i asesu a yw’r cynlluniau adeiladau a’r deunyddiau’n addas. Maen nhw’n gweithio’n agos gyda thimau dylunio a phenseiri i sicrhau bod strwythur yn ddiogel.
£17000
-£35000
Mae sawl ffordd o fod yn dechnegydd peirianneg strwythurol. Gallech gwblhau gradd prifysgol, cwrs coleg, prentisiaeth, neu wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr.
Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.
I fod yn dechnegydd peirianneg strwythurol, gallech chi astudio ar gyfer gradd israddedig neu radd ôl-raddedig mewn pwnc fel
Bydd angen i’ch gradd fod wedi ei hachredu gan Sefydliad y Peirianwyr Strwythurol.
Fel arfer, bydd angen y canlynol arnoch:
> Eglurhad o’r gofynion mynediad cyfatebol
Gallech astudio mewn coleg i'ch helpu i ddod yn beiriannydd peirianneg strwythurol. Mae cyrsiau coleg perthnasol yn cynnwys:
I astudio’r cyrsiau hyn, fel arfer bydd angen y canlynol arnoch:
> Eglurhad o’r gofynion mynediad cyfatebol
> Dod o hyd i gwrs yn eich ardal chi
Gallech chi gwblhau gradd-brentisiaeth fel peiriannydd sifil ac wedyn arbenigo mewn bod yn dechnegydd peirianneg strwythurol.
Fel rheol, bydd angen i chi gael 4 - 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C) a lefel A (neu gymhwyster cyfatebol) i ddechrau gradd-brentisiaeth.
Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.
> Dod o hyd i brentisiaeth yn eich ardal chi
Os oes gennych brofiad perthnasol mewn rôl debyg, fel peirianneg sifil, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni i gael profiad ar safle fel technegydd peirianneg strwythurol. Gallech chi ddechrau fel cynorthwyydd i dechnegydd peirianneg strwythurol mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel technegydd peirianneg strwythurol. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.
> Dysgwch fwy am brofiad gwaith
Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel technegydd peirianneg strwythurol:
Fel technegydd peirianneg strwythurol, byddwch chi’n helpu gyda’r gwaith o ddylunio a chodi adeiladau a strwythurau, gan sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn strwythurol gadarn.
Gall swydd technegydd peirianneg strwythurol gynnwys y dyletswyddau canlynol:
Mae’r cyflog disgwyliedig i dechnegydd peirianneg strwythurol yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant
Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer technegwyr peirianneg strwythurol:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Fel technegydd peirianneg strwythurol, gallech symud ymlaen i fod yn beiriannydd strwythurol, yn uwch beiriannydd strwythurol, neu’n rheolwr prosiect.
Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod