Facebook Pixel

Tiwtor Addysg Bellach

A elwir hefyd yn -

Darlithydd Addysg Bellach, Hyfforddwr Addysg Bellach

Mae tiwtoriaid Addysg Bellach yn dysgu myfyrwyr a phrentisiaid dros 16 oed. Maen nhw’n datblygu dealltwriaeth ymarferol a damcaniaethol myfyrwyr o amrywiaeth eang o gyrsiau ac yn eu hyfforddi ar gyfer gyrfaoedd ym maes adeiladu neu beirianneg.

Cyflog cyfartalog*

£19000

-

£50000

Oriau arferol yr wythnos

35-37

Sut i fod yn diwtor Addysg Bellach

Mae sawl ffordd o ddod yn diwtor Addysg Bellach. Gallech chi ddilyn cwrs prifysgol neu goleg, prentisiaeth neu wneud cais am waith yn uniongyrchol i gyflogwr.

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn diwtor Addysg Bellach, i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

I addysgu cymwysterau academaidd fel Safon Uwch (neu gymhwyster cyfatebol), efallai y bydd angen gradd arnoch mewn pwnc perthnasol.

Gallwch chi ennill cymwysterau i ddod yn diwtor Addysg Bellach drwy astudio yn y brifysgol. Gallech chi gwblhau Tystysgrif Addysg, neu ddiploma ôl-radd neu Dystysgrif Addysg neu ddysgu gydol oes. 

Yn ogystal â chymhwyster addysgu, bydd angen profiad a chymwysterau technegol arnoch i fod yn diwtor ar gwrs sy’n gysylltiedig â gwaith neu gynllun prentisiaeth. 

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

I ddod yn diwtor AB ac i addysgu pynciau galwedigaethol sy’n gysylltiedig ag adeiladu, bydd angen i chi fod â phrofiad blaenorol o weithio yn y diwydiant. Ar ôl i chi gael profiad ymarferol, gallech wneud cais i goleg neu ddarparwr hyfforddiant i fod yn diwtor AB. Bydd eich cyflogwr yn gofyn i chi gwblhau Tystysgrif Addysg (neu gymhwyster cyfatebol) ar gyfer y swydd, o fewn cyfnod penodol ar ôl i chi ddechrau addysgu.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Gallech chi gwblhau prentisiaeth uwch gyda choleg neu ddarparwr hyfforddiant i fod yn diwtor Addysg Bellach. Bydd angen i chi fod â phrofiad diweddar o weithio yn y diwydiant adeiladu a hyfforddiant neu gymwysterau blaenorol yn y pwnc rydych chi’n bwriadu ei ddysgu.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os oes gennych sawl blwyddyn o brofiad a chymhwyster mewn maes adeiladu, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr, neu gwblhau cymwysterau addysgu yn y gwaith.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu a mynd ymlaen i fod yn diwtor Addysg Bellach. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio yn y diwydiant adeiladu. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel tiwtor Addysg Bellach: 

  • Profiad blaenorol mewn maes adeiladu, h.y. gwaith aseidydd, plymio neu osod trydanol
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar
  • Gwybodaeth am addysgu
  • Sensitifrwydd a dealltwriaeth
  • Gweithio’n dda gydag eraill.

Cymwysterau


Beth mae tiwtor Addysg Bellach yn ei wneud?

  • Maent wedi’u lleoli mewn colegau, canolfannau cymunedol, canolfannau dysgu seiliedig ar waith, y lluoedd arfog neu garchardai.
  • Cynllunio a pharatoi gwersi, darlithoedd a seminarau
  • Cyflawni tasgau gweinyddol fel monitro ac asesu myfyrwyr.
  • Gallan nhw fod yn dysgu cyrsiau amser llawn, rhan-amser (yn ystod y dydd neu gyda’r nos) neu gyrsiau gyda diwrnod astudio. 
  • Gosod a marcio asesiadau
  • Datblygu cyrsiau a deunyddiau addysgu newydd
  • Cadw cofnodion a thasgau gweinyddol eraill
  • Mynd i gyfarfodydd, cyrsiau datblygiad proffesiynol a gweithdai
  • Cyfweld darpar fyfyrwyr
  • Bod yn diwtor personol - cefnogi myfyrwyr a’u helpu gyda phroblemau
  • Goruchwylio aelodau staff llai profiadol
  • Cymryd rhan ymarferol mewn arolygon rheoleiddio ac asesiadau allanol


Faint o gyflog allech chi ei gael fel tiwtor Addysg Bellach?

Mae’r cyflog disgwyliedig i diwtor Addysg Bellach, yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall tiwtoriaid Addysg Bellach sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £19,000 - £25,000
  • Gall tiwtoriaid Addysg Bellach hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £25,000 - £30,000
  • Gall uwch diwtoriaid Addysg Bellach ennill £30,000 - £50,000.*    

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer tiwtoriaid Addysg Bellach:  

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel tiwtor Addysg Bellach, gallech chi weithio mewn colegau addysg bellach neu golegau chweched dosbarth, canolfannau addysg i oedolion neu ganolfannau hyfforddi annibynnol.

Gyda phrofiad fel hyfforddwr, gallech chi symud ymlaen i rôl fel uwch ddarlithydd, pennaeth adran, neu symud i fod yn uwch reolwr.

Gallech chi fod yn asesydd neu’n arholwr, neu ddatblygu gwerslyfrau ac adnoddau addysgol ar-lein.v


Dyluniwyd y wefan gan S8080