Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae töwr plwm yn gyfrifol am weithio ar amrywiaeth o adeiladau – o dai i strwythurau rhestredig, eglwysi a chadeirlannau. Gall hyn olygu archwilio, tynnu neu drwsio dalennau plwm presennol neu osod dalennau newydd.
£17000
-£40000
Mae sawl ffordd o ddod yn döwr plwm. Gallech chi gwblhau cwrs coleg, prentisiaeth, neu hyfforddiant yn y gwaith, neu wneud cais uniongyrchol i gyflogwr.
Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.
Gallech astudio cwrs toi gyda choleg neu ddarparwr hyfforddiant lleol, fel Diploma Lefel 2 mewn Galwedigaethau Toi ac yna arbenigo mewn gwaith plwm.
Yn gyffredinol, bydd angen y canlynol arnoch:
> Eglurhad o’r gofynion mynediad cyfatebol
> Dod o hyd i gwrs yn eich ardal chi
Gallech gwblhau prentisiaeth ganolradd mewn toi ac yna arbenigo fel töwr plwm.
Bydd angen i chi gael 2 - 3 TGAU ar raddau 9 i 3 (A* i D), neu gymhwyster cyfatebol i fod yn brentis canolradd.
Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.
> Dod o hyd i brentisiaeth yn eich ardal chi
Os oes gennych chi rywfaint o brofiad sylfaenol, neu brofiad perthnasol o doi, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i gael profiad ar y safle fel töwr plwm. Gallech chi ddechrau fel cynorthwyydd i döwr plwm mwy profiadol a datblygu wrth i’ch galluoedd wella.
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel töwr plwm. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.
> Dysgwch fwy am brofiad gwaith
Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel töwr plwm:
Mae’r cyflog disgwyliedig i döwr plwm yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant ac wedi’u diweddaru ers 2019
Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer towyr plwm:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Fel töwr plwm, gallech chi symud ymlaen i fod yn rheolwr tîm neu’n reolwr safle ac ennill cyflog uwch.
Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod