O warchod ein harfordiroedd i greu cartrefi gwell ac adfywio dinasoedd, mae cynllunwyr yn helpu i greu lleoedd gwell.

Y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI) yw prif gorff cynllunio’r DU ar gyfer cynllunio gofodol, cynaliadwy a chynhwysol. A ni hefyd yw sefydliad cynllunio mwyaf Ewrop, gyda dros 23,000 o aelodau. 

Taro’r nod 

Mae ymchwil diweddar wedi dangos mai maes Cynllunio yw’r pedwerydd cwrs prifysgol gorau i’w ymgymryd ag o, a chael swydd ar ôl graddio. Yn yr RTPI, rydyn ni’n hyrwyddo safonau proffesiynol uchel, drwy achredu graddau ar draws y DU, Iwerddon ac yn rhyngwladol, gan sicrhau cyflenwad cryf o gynllunwyr. Rydyn ni’n deall pwysigrwydd ennyn diddordeb pobl ifanc yn y maes pwnc hwn, a thrwy ein hymgyrch ‘Future Planners’, mae gwirfoddolwyr sy’n aelodau yn mynd ati i ymgysylltu â phobl ifanc mewn ysgolion i ddweud mwy wrthynt am gynllunio. Ond mae wedi dod yn fwyfwy amlwg bod rhai cyflogwyr yn ei chael yn anodd llenwi rhai swyddi.

Felly beth ydyn ni’n mynd i’w wneud ynglŷn â hyn? Rydym eisoes wedi rhoi rhai cynlluniau ar waith i fynd i’r afael â hyn ac i gefnogi gyrfaoedd proffesiynol. Mae’r brentisiaeth dechnegol yn llwybr mynediad newydd, gyda’r bwriad o ehangu mynediad i’r proffesiwn cynllunio. Rydyn ni hefyd yn ystyried llwybr prentisiaeth gradd i agor cyfleoedd i rai myfyrwyr cynllunio ennill cyflog wrth ddysgu ac ennill cymhwyster cydnabyddedig. Eleni, lansiwyd bwrsari newydd lefel Meistr yr RTPI i ddenu graddedigion o ddisgyblaethau eraill ar draws 23 o brifysgolion, a chyhoeddwyd adnodd ‘Become a Planner’ ar y we. 

Ein partneriaeth gydag Am Adeiladu

Sefydlom gynllun Cynllunwyr y Dyfodol yr RTPI fel rhaglen gyffrous gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth a meithrin diddordeb mewn cynllunio gyda myfyrwyr ysgol, yn y grwpiau oedran 11-18 yn bennaf.  Mae’r prosiect yn cynnwys llysgenhadon RTPI gwirfoddol, cynnal ymweliadau ag ysgolion i roi cyflwyniadau ac ymgysylltu â myfyrwyr ynghylch pwysigrwydd cynllunio ar gyfer trafodaethau, a hefyd drwy’r gyfres o adnoddau rydyn ni wedi’u creu.

Roeddem yn awyddus i greu partneriaeth ag Am Adeiladu a chynnal rhywfaint o’n hadnoddau dysgu ar y safle, gan ein bod yn teimlo’n gryf y byddai hyn yn ein helpu i ymestyn ein cyrhaeddiad nid yn unig i bobl ifanc, ond hefyd i gynghorwyr gyrfa a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes cynllunio. Mae wedi bod yn wych gweld yr ymateb i’n hadnoddau sy’n cael eu cynnal ar Am Adeiladu, gan ein bod, mewn un mis yn unig, wedi gweld yr adnoddau hyn yn cael eu defnyddio sawl gwaith.

Nawr, yn dilyn y llwyddiant hwn, rydyn ni’n edrych ymlaen at gynllunio a chreu mwy o adnoddau dysgu am gynllunio ar gyfer ysgolion yn 2016. Bydd y rhain hefyd yn cael eu cynnal ar Am Adeiladu, er mwyn sicrhau eu bod yn cael gymaint o sylw â phosibl. 

Ydy hyn yn addas i mi?

Os ydych chi’n ystyried gyrfa ym maes adeiladu, mae’n bwysig ystyried pa fathau o brosiectau yr hoffech chi weithio arnynt. Mae cynllunwyr yn dylunio pethau bob dydd fel datblygiadau tai newydd a llwybrau trafnidiaeth (er y gall y rhain fod yn brosiectau diddorol iawn i weithio arnynt), ac rydym yn gweithio ar brosiectau seilwaith cenedlaethol mawr fel Gemau Olympaidd Llundain 2012, HS2 a Crossrail. Mae rôl cynllunio yn rhan o’r teulu o yrfaoedd ym maes yr amgylchedd adeiledig, ac mae gyrfa ym maes cynllunio’n rhoi cyfle i chi wneud gwahaniaeth go iawn i’r byd o’ch cwmpas.

Felly, dim ots pa fath o berson ydych chi, mae rôl ym maes cynllunio sy’n addas i chi. 

I gael rhagor o wybodaeth am RTPI, ewch i http://www.rtpi.org.uk/, ac i fewngofnodi i weld eu hadnoddau, ewch i’n hadran adnoddau Am Adeiladu.