Dim ots am ba hyd y parodd eich seibiant gyrfa, neu’r rhesymau y tu ôl iddo, gall mynd yn ôl i weithio eto deimlo ychydig yn frawychus. Bwriad yr erthygl hon yw eich helpu i fod yn glir am eich dyfodol newydd, i ddiweddaru eich sgiliau, ac i ddod o hyd i swydd newydd gyffrous. 

Byddwch yn glir am eich nodau eich gyrfa ym maes adeiladu

Cyn i chi ruthro i chwilio am swyddi sydd ar gael, treuliwch rywfaint o amser yn meddwl am y darlun ehangach. Sut fath o yrfa hoffech chi ei chael ymhen pum mlynedd neu hyd yn oed ddeng mlynedd? Gall hyn fod yn frawychus, ond does dim rhaid i chi fod yn hollol fanwl am bob manylyn lleiaf.  Hoffech chi fod yn rheoli tîm? Gweithio ar brosiectau mwy eco-gyfeillgar neu rai gyda’r dechnoleg ddiweddaraf? Ar ôl dechrau dychmygu’r dyfodol, gallwch fod yn gliriach am eich nodau tymor hir a dewis rolau a fydd yn gweithredu fel cerrig camu i’ch helpu chi i gyrraedd. 

Mae’n bosib bod eich seibiant gyrfa wedi rhoi rhywfaint o amser i chi gynllunio neu ddychmygu sut gallai’r dyfodol fod – felly defnyddiwch y syniadau hynny’n effeithiol i gynllunio nodau eich gyrfa adeiladu’n ofalus. 

Gloywi'ch sgiliau a'ch gwybodaeth

Edrychwch ar eich sgiliau a’ch profiad blaenorol. Ydyn nhw’n cyd-fynd â’r rolau rydych chi am eu cael nawr ac yn y dyfodol? Oes angen eu gloywi? Mae’n iawn os oes angen i chi ddiweddaru cymhwyster neu ddau. Gallwch ddilyn cyrsiau byr, cwblhau prentisiaeth, neu gofrestru ar gyfer cwrs gloywi ar sgiliau sydd gennych yn barod. Ewch i’n tudalen cymwysterau defnyddiol i gael rhagor o wybodaeth. 

Mae’r diwydiant adeiladu yn newid o hyd, sy’n ei wneud yn gyffrous gweithio ynddo. Mae sgiliau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg yn helpu pobl i wthio ffiniau a gweithio mewn rolau ystyrlon, ac mae cyfle i chi fod yn rhan ohonynt, nawr eich bod chi’n dychwelyd i’r gwaith. Edrychwch ar y cymwysterau a’r sgiliau newydd sy’n bosibl, i weld sut gallwch chi ddatblygu’r rhai sydd gennych ar hyn o bryd. 

Byddwch yn benodol wrth chwilio am swydd

Chwiliwch am rolau sydd mor agos â phosib at eich sgiliau presennol (ar ôl i chi eu diweddaru ar gyfer y rolau rydych chi eu heisiau). Os ydych chi’n rhy gyffredinol, efallai y byddwch yn dod o hyd i rolau nad ydynt yn gweddu orau i chi. Yn yr un modd, peidiwch â digalonni os nad yw swydd eich breuddwydion ar y rhestr – mae rhai’n dadlau nad yw’n bodoli! Dewch o hyd i set graidd o rolau ym maes adeiladu y gwyddoch y gallwch ragori ynddynt ac sy’n gweddu eich galluoedd (a glynu wrthynt pan fyddwch yn chwilio). 

Tarwch olwg ar ein rhestr o swyddi adeiladu yn nhrefn yr wyddor a beth yw’r dyletswyddau. 

Tyfu a defnyddio eich rhwydwaith

Peidiwch â chwilio am waith ar-lein yn unig. Defnyddiwch wahanol ddulliau fel holi ar lafar, cadw cysylltiad â hen gydweithwyr a rheolwyr, a chysylltu â sefydliadau lle mae eich sgiliau a’ch cefndir yn berthnasol.  

Hyd yn oed os nad oedd eich gyrfa flaenorol yn y diwydiant adeiladu, mae’n debygol bod gennych rwydwaith proffesiynol o hyd. Bydd gennych ffrindiau sy’n gweithio, ac mae eu rhwydweithiau proffesiynol yn gronfa arall o swyddi neu wybodaeth bosib. Cysylltwch â phobl sy’n eich ysbrydoli neu sydd hefyd wedi cymryd seibiant gyrfa, a gofynnwch am gyngor.  

Mae hefyd yn syniad da cofrestru ar gyfer cylchlythyrau am y datblygiadau diweddaraf yn y diwydiant neu ar gyfer cwmnïau yr hoffech chi weithio iddynt ryw ddydd. 

Hogwch eich CV

Efallai eich bod yn meddwl y bydd bwlch ar eich CV yn difetha eich gyrfa neu’n codi problemau mewn cyfweliad. Ceisiwch ei weld fel rhywbeth cadarnhaol sy’n gwneud i chi sefyll allan o flaen yr ymgeiswyr eraill. Os nad ydych chi wedi bod yn gweithio ers amser hir, peidiwch â cheisio cuddio hynny na theimlo bod yn rhaid i chi ei esgusodi. Efallai bod seibiant wedi caniatáu i chi ddysgu sgiliau eraill neu ail-werthuso eich llwybr gyrfa. 

Ysgrifennwch yr holl sgiliau newydd rydych chi wedi’u datblygu yn ystod eich seibiant, a defnyddiwch eich CV a’ch llythyr eglurhaol i ddangos sut maen nhw’n berthnasol i’r swydd rydych chi’n gwneud cais amdani. Wnaethoch chi ddilyn cwrs yn arbenigo mewn technoleg newydd? Wnaethoch chi wneud gwaith gwirfoddol a datblygu eich sgiliau arwain, a fydd yn eich helpu i arwain tîm yn fwy effeithiol? Neu efallai eich bod wedi mynd i deithio ac wedi dysgu mwy am seilwaith gwlad arall? Hogwch eich CV fel ei fod yn adlewyrchu eich amser yn y gwaith a’r tu allan iddo gystal â phosibl. 

Paratoi ar gyfer cyfweliadau

Os nad ydych chi wedi bod mewn cyfweliad am swydd ers tro, mae’n debygol y byddwch chi’n teimlo’n fwy annifyr nag o’r blaen, ond peidiwch â phoeni. Gallwch ymarfer ymlaen llaw gyda ffrindiau a theulu, ar-lein neu drwy wneud cwis eich hun gartref.  

Cofiwch mai sgwrs yw cyfweliadau – efallai y bydd y bobl sy’n gofyn y cwestiynau yn eich asesu ar gyfer swydd, ond gallwch chi ofyn cwestiynau hefyd i weld a yw’r rôl a’r cwmni yn addas i chi hefyd. Mae’n debyg y bydd y cwestiynau’n gymysgedd o asesu eich sgiliau a chanfod profiadau blaenorol a allai eich helpu chi yn y rôl. Byddant hefyd yn edrych ar eich cymwysterau, a dyna pam fod eich CV mor bwysig.  

Mae llawer o fideos ar gael ar y pwnc hwn ar YouTube, gan gynnwys dadansoddiad Indeed o gyfweliad cyfan o’r dechrau i’r diwedd. Ceisiwch fod mor barod â phosibl ar gyfer pob cyfweliad y byddwch yn mynd iddo. 

Pethau na ddylech chi eu gwneud wrth ddychwelyd i’r diwydiant adeiladu

Mae ambell beth i'w osgoi pan fyddwch chi’n gwneud cynlluniau i ddychwelyd i'r gwaith ar ôl seibiant... 

Peidiwch â rhuthro

Peidiwch â mynd yn syth i gyfweliadau os nad ydych chi’n sicr beth yn union rydych chi eisiau ei wneud yn y diwydiant adeiladu. Mae angen amser arnoch i asesu’r diwydiant a’r rolau nad oedd efallai’n bosibl pan oeddech chi’n chwilio am waith y tro diwethaf. Gwnewch eich gwaith ymchwil yn gyntaf, cysylltwch â’ch rhwydwaith, wedyn dechreuwch feddwl am y swyddi rydych chi eisiau gwneud cais amdanynt. 

Peidiwch â thanbrisio eich hun

P’un a ydych chi wedi bod i ffwrdd o’r gwaith am 12 mis neu 2 flynedd, gall mynd yn ôl i’r farchnad waith fod yn ddychrynllyd. Fodd bynnag, dylech ddal i fod yn hyderus. Mae gennych chi sgiliau unigryw i’w cynnig i swydd, ac os ydych chi’n hyderus, byddwch yn edrych yn fwy deniadol i gwmnïau sy’n cyflogi. Peidiwch â thanbrisio eich gwaith blaenorol na’r pethau a wnaethoch chi yn ystod eich seibiant – gall y cyfan gyfrannu at yrfa lwyddiannus.  

Ysgrifennwch eich sgiliau a’ch cryfderau ar ddarn o bapur a dal i gyfeirio’n ôl at hyn wrth chwilio am waith, er mwyn rhoi hwb i’ch hun. Gofynnwch i ffrindiau a theulu rannu eu hadborth ar eich cryfderau hefyd, oherwydd bydd ganddyn nhw bersbectif gwahanol. 

Peidiwch â thanbrisio eich cryfderau

Does dim ots sut wnaethoch chi dreulio eich seibiant, mi wnaethoch chi ddatblygu sgiliau. Os wnaethoch chi aros gartref i fagu plant, gallent fod yn sgiliau datrys problemau’n greadigol, gwneud sawl tasg ar unwaith a sgiliau rheoli amser. Os wnaethoch chi ddilyn cyrsiau a chwblhau hyfforddiant, efallai eich bod wedi dysgu am dechnoleg newydd neu sut i reoli prosiect a oedd yn cynnwys offer neu gyfarpar yn ddiogel. Peidiwch â thanbrisio'r cryfderau y gallwch eu cyfrannu at eich gwaith. 

Peidiwch â rhoi’r ffidil yn y to

Credwch ynoch eich hun a pheidiwch â rhoi’r ffidil yn y to os nad ydych yn cael gwaith yn syth neu’n methu gweld swyddi rydych eisiau eu gwneud. Gall hyn gymryd amser, ond bydd yn werth yr aros pan fyddwch yn llwyddo, ac yn paratoi ar gyfer eich diwrnod cyntaf yn ôl yn y gwaith. 

Cysylltu â ni

Os ydych chi’n chwilio am swydd newydd, os oes angen gyrfa newydd arnoch, neu os ydych chi eisiau gwybod mwy am unrhyw hyfforddiant y gallwn ei gynnig, cysylltwch â ni ar ein cyfryngau cymdeithasol: 

Instagram - @goconstructuk 

Facebook - @GoConstructUK 

Twitter - @GoConstructUK 

Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer Cynllun Cadw Talent Cyngor Arwain y Diwydiant Adeiladu i hyrwyddo eich proffil a’ch CV i sefydliadau sydd â diddordeb.