Happy graduates outside a university after or before a degree ceremony

Os ydych chi wir eisiau symud ymlaen yn eich gyrfa, gallai prentisiaeth gradd fod yn ddewis iawn i chi. Bydd angen i chi feddu ar y cymwysterau cywir, a gall cyrsiau gymryd hyd at chwe blynedd. Ond bydd gennych chi'r gorau o ddau fyd - swydd gyflogedig, profiad gwaith hynod berthnasol a'r cyfle i astudio ar gyfer cymhwyster lefel gradd.

Mae gwahaniaethau yn y ffordd y mae prentisiaethau gradd yn cael eu cynnig yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Beth yw prentisiaeth gradd?

Mae prentisiaethau gradd yn gymwysterau a ddatblygwyd gan gyflogwyr ar y cyd â phrifysgolion a cholegau. Maent wedi'u cynllunio i lenwi bylchau sgiliau yn y gweithlu ac maent yn ddewis amgen i raglenni gradd traddodiadol. Prif fantais prentisiaeth gradd yw ei bod yn rhoi cyfle i bobl ennill gradd wrth weithio ar yr un pryd. Nid ydych yn talu ffioedd dysgu, yn lle hynny byddwch yn ennill cyflog! Rydych chi'n treulio'r rhan fwyaf o'ch amser yn gweithio i gyflogwr, ac yn astudio'n rhan-amser mewn prifysgol.

Prentisiaethau gradd yn Lloegr

Cymhwysedd a gofynion mynediad

I wneud cais am brentisiaeth gradd yn Lloegr, mae angen i chi feddu ar gymwysterau Lefel 3, a allai fod yn brentisiaeth uwch, BTEC, NVQ neu gymwysterau Lefel A mewn dau neu dri phwnc, a gallai rhai ohonynt fod yn berthnasol i'ch prentisiaeth. Dylech fod dros 18 oed, yn byw yn Lloegr, a bod gennych yr hawl i fyw a gweithio yn Lloegr.

Ariannu

Nid oes rhaid i chi hunan-ariannu prentisiaeth gradd. Byddwch yn cael cyflog gan y cyflogwr am y swydd yr ydych yn ei gwneud ochr yn ochr â'r brentisiaeth gradd, a bydd eich cyflogwr hefyd yn talu eich ffioedd dysgu.

Pa mor hir yw prentisiaeth gradd?

Gall cymryd tair i chwe blynedd i gwblhau prentisiaethau gradd yn Lloegr.

Lefi prentisiaethau a chyfranogiad cyflogwyr

Telir y lefi prentisiaethau gan gyflogwyr os yw eu bil cyflog blynyddol yn fwy na £3 miliwn. Mae'n cyfateb i 0.5% o gyfanswm eu bil cyflog. Gall cyflogwyr ddefnyddio eu cronfeydd lefi i dalu ffioedd dysgu eu prentisiaid gradd. Os nad yw cyflogwyr yn talu’r lefi prentisiaeth, mae’r llywodraeth yn talu 90% o ffioedd dysgu’r prentis, a’r cyflogwr yn talu’r 10% sy’n weddill.

Sut mae prentisiaethau gradd yn gweithio yn yr Alban?

Mae prentisiaethau i raddedigion Albanaidd yn cyfateb i brentisiaethau gradd yng Nghymru a Lloegr. Dyma'r lefel uchaf o brentisiaeth yn yr Alban. Mae prentisiaethau i raddedigion wedi'u cynllunio i roi profiad o fyd gwaith i fyfyrwyr israddedig, ar yr un pryd â dilyn gradd.

Mae cyfleoedd prentisiaeth i raddedigion mewn nifer cynyddol o brifysgolion a cholegau yn yr Alban.

Mae meysydd pwnc yn cwmpasu sectorau fel Adeiladu a Busnes, Peirianneg Sifil a Seiberddiogelwch.

Mae cyflogwyr yr Alban yn gweld prentisiaethau i raddedigion yn gyfleoedd delfrydol i ddatblygu eu staff.

Rôl Fframwaith Credydau a Chymwysterau yr Alban (SCQF)

Y SCQF yw'r fframwaith cymwysterau cenedlaethol ar gyfer yr Alban ac mae'n helpu pobl o bob oed ac amgylchiadau i gael mynediad i addysg a hyfforddiant. Mae'r SCQF yn rhoi cymorth ac arweiniad i'r rhai sy'n ceisio hyfforddiant, i gyflogwyr, addysgwyr a chynghorwyr. Gall helpu pobl i gynllunio eu dysgu a datblygu llwybrau dilyniant i'w dilyn.

Cymhwysedd

Mae'r gofynion mynediad ar gyfer prentisiaeth raddedig yn debyg i'r rhai ar gyfer gradd israddedig a byddant yn amrywio fesul cwrs a sefydliad. Fodd bynnag, bydd angen i chi fod yn byw yn yr Alban a bod â'r hawl i weithio yn yr Alban er mwyn bod yn gymwys.

Gallwch wneud cais am brentisiaeth i raddedigion os ydych yn 16 oed ac nid oes terfyn uchaf. Gall rhai cyrsiau gael eu cyfyngu i ymgeiswyr dros 18 oed oherwydd gofynion iechyd a diogelwch.

Ariannu

Mae cyllid ar gyfer prentisiaethau i raddedigion ar gael gan Student Awards Agency Scotland.

Hyd

Fel yn Lloegr, mae prentisiaethau gradd yn yr Alban yn cymryd tair i chwe blynedd i'w cwblhau.

Prentisiaethau gradd yng Nghymru

Mae prentisiaeth gradd yng Nghymru’r un peth â phrentisiaeth lefel gradd yn Lloegr, ac yn debyg i brentisiaeth i raddedigion yn yr Alban, ac yn arwain at gymhwyster Lefel 6/7.

Mae prentisiaethau gradd yng Nghymru wedi cael eu cynnig i ddechrau mewn nifer cyfyngedig o feysydd, megis Digidol, Peirianneg a Gweithgynhyrchu Uwch.

Pwy sy’n gymwys ar gyfer prentisiaeth gradd?

Y gofynion mynediad arferol ar gyfer mynediad i brentisiaethau gradd yng Nghymru yw pump TGAU graddau 9-4 a chymwysterau Lefel 3 megis Lefel A, NVQ neu BTEC Cenedlaethol. Mae’n bosibl y bydd rhai darparwyr prentisiaethau’n mynnu bod eich graddau Lefel A mewn pynciau penodol ac ystodau graddau penodol.

Bydd y rhan fwyaf o ymgeiswyr dros 18 oed gan fod prentisiaethau gradd yng Nghymru yn gofyn am gymwysterau Lefel 3. Rhaid i chi fyw yng Nghymru, bod â'r hawl i fyw a gweithio yn y DU a heb fod mewn addysg amser llawn yn barod.

Hys prentisiaethau gradd yng Nghymru

Gall cymryd un i chwe blynedd i gwblhau prentisiaeth gradd yng Nghymru.

Canfod mwy am brentisiaethau adeiladu

Pa lefel bynnag o brentisiaeth adeiladu rydych chi am ei gwneud, o lefel ganolradd i lefel uwch i lefel gradd, bydd cyfle yn agos at ble rydych chi'n byw. Yn Am Adeiladu mae gennym wybodaeth am tua 170 o swyddi gwahanol ym maes adeiladu, o benseiri i weldwyr yn ogystal ag astudiaethau achos a straeon bywyd go iawn o bobl sy'n gweithio yn y diwydiant adeiladu.

Chwiliwch am brentisiaeth yn eich ardal chi

I chwilio am brentisiaethau gallwch ddefnyddio gwefannau fel Talentview, gwneud cais yn uniongyrchol i gyflogwyr neu gysylltu â cholegau lleol. Yn aml, eich cyfle gorau i sicrhau prentisiaeth gradd yw gweithio i gwmni sy'n cymryd rhan weithredol yn y rhaglen prentisiaeth gradd.