Mae gweithwyr adeiladu o bob lliw a llun – mae’n sector eithriadol o amrywiol. Mae hyn yn golygu bod digon o gyfleoedd gyrfa ar gael, ac nid oes angen gradd na llawer o gymwysterau ar bob un ohonynt. Gallwch ddechrau prentisiaeth neu gwblhau profiad gwaith i’ch helpu i ddechrau ar eich swydd adeiladu ddelfrydol. 

Yn yr erthygl hon byddwn yn trafod y gwahanol gategorïau o swyddi adeiladu, o swyddi ariannol i swyddi rheoli a phopeth yn y canol. Gallai hyn eich helpu i ddod o hyd i swydd ym maes adeiladu nad oeddech efallai’n gwybod amdani, neu’n cadarnhau eich brwdfrydedd am fath penodol o swydd adeiladu. 

Gyrfaoedd gwaith swyddfa yn y diwydiant adeiladu

Bydd tîm o staff swyddfa y tu cefn i bob prosiect adeiladu. Dyma ble mae dogfennau pwysig yn cael eu creu, ac mae staff yn gwneud yn siŵr bod y prosiect yn rhedeg yn esmwyth ac yn dilyn canllawiau cyfreithiol. Yma, byddwn yn amlinellu rhai o’r rolau mwyaf cyffredin, ond mae llawer mwy ar gael.

Gweinyddwr

Mae gweinyddwyr yn cefnogi'r gwaith o redeg swyddfeydd yn hwylus. Maen nhw’n gwneud pethau fel llunio contractau, prosesu gwybodaeth ar gyfrifiaduron, darparu gwasanaeth i gwsmeriaid a threfnu cyfarfodydd. Mae’r rôl ar gael mewn amrywiaeth eang o leoliadau, ac mae digon o gyfleoedd i symud ymlaen. Dysgwch sut mae dod yn weinyddwr

Gweithredwr Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur  

Mae gweithredwyr dylunio â chymorth cyfrifiadur (CAD) yn defnyddio meddalwedd cyfrifiadurol i gynhyrchu lluniadau 2D a 3D ar gyfer prosiectau adeiladu a gweithgynhyrchu. Maen nhw’n dylunio popeth o beiriannau i adeiladau cyfan, gan gynhyrchu diagramau technegol o adeiladau ar gyfer penseiri, peirianwyr a gweithwyr adeiladu eraill. Dysgwch fwy am fod yn weithredwr Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur. 

Rheolwr dogfennau

Mae rheolwyr dogfennau yn rheoli’r wybodaeth bwysig sydd ei hangen i redeg prosiect adeiladu ar ffurf dogfennau technegol fel glasbrintiau ac adroddiadau. Maen nhw’n gweithio’n agos gyda dylunwyr, syrfewyr a phenseiri. Dysgwch sut mae dod yn rheolydd dogfennau

Pam mae swyddi mewn swyddfa yn bwysig

Mae’r swyddi hyn yn hanfodol i brosiect adeiladu gan eu bod yn cofnodi popeth sy’n digwydd ar, ac oddi ar, y safle. O ddeddfwriaeth amgylcheddol a dyluniadau, bydd staff swyddfa yn goruchwylio’r prosiect i wneud yn siŵr bod popeth yn mynd fel y cynlluniwyd. Heb y rolau hyn, ni fyddai cofnod cywir o’r cynlluniau a’r prosesau sy’n cael eu defnyddio ar gyfer prosiect adeiladu.  

Rolau ariannol ym maes adeiladu

Mae angen gwybodaeth am gyllid a gwybodaeth am dueddiadau economaidd o nifer o ffynonellau ar y diwydiant adeiladu, a fydd yn cael eu rheoli gan y rolau isod. O gyllidebau i gael gafael ar gyllid, dyma sy’n cadw prosiect adeiladu i fynd rhagddo. Dyma rai o’r rolau ariannol sydd ar gael ym maes adeiladu. 

Cyfrifydd  

Mae staff cyfrifeg a chyllid yn cadw golwg ar yr arian sy’n mynd i fusnes adeiladu a faint o elw mae’n ei wneud. Gallwch naill ai arbenigo mewn cyfrifyddiaeth ar gyfer sector penodol, neu weithio'n fwy cyffredinol ar draws sawl math o sector, sy'n golygu bod cwmpas mawr i’r swydd hon. Dod yn gyfrifydd ym maes adeiladu. 

Rheolwr asedau  

Gallai’r asedau sydd gan gwmni gynnwys stociau, cyfranddaliadau a bondiau, yn ogystal ag arian neu eiddo. Mae rheolwr asedau yn gweithio i sicrhau bod cyflogwr yn cael cymaint o elw â phosibl o fuddsoddiadau, yn ogystal â sicrhau bod y prosiectau adeiladu sy’n cael eu rhedeg gan fusnes yn hyfyw yn ariannol. Yma cewch wybod sut gallwch chi ddod yn rheolwr asedau

Economegydd  

Mae economegwyr yn astudio data ac ystadegau ac yn defnyddio eu canfyddiadau i roi cyngor ariannol i fusnesau. Mae’r cyngor hwn yn effeithio ar brosiectau adeiladu, gan fod economegwyr yn ymwybodol o dueddiadau o ran technolegau a deunyddiau, gan roi’r wybodaeth iawn i fusnesau er mwyn datblygu a thyfu. Dysgwch fwy am economegwyr. 

Pam mae cyllid yn bwysig i adeiladu

Heb ymchwil, amcangyfrifon cost, cyllidebau a chyllid, ni fyddai prosiectau adeiladu yn digwydd. Mae’r swyddi hyn yn elfen hollbwysig o ran rhoi cychwyn ar brosiect adeiladu a’i gadw i redeg ar amser ac o fewn y gyllideb yn unol â’r rheolau a’r ddeddfwriaeth ddiweddaraf. 

Y sector peirianneg

Peirianwyr sy’n adeiladu ac yn cynnal yr offer, y systemau a’r deunyddiau sydd eu hangen ar gyfer prosiect adeiladu. Mae sawl gwahanol fath o beiriannydd, pob un yn arbenigo mewn math o beirianneg. Isod rhestrir rhai o’r rolau y gallech eu cael yn y sector hwn. 

Peiriannydd trydanol  

Mae peirianwyr trydanol yn dylunio, yn datblygu ac yn cynnal systemau trydanol y gellir eu defnyddio ar gyfer amryw o bethau, o adeiladau i drafnidiaeth. Maen nhw’n defnyddio eu gwybodaeth arbenigol i greu ffyrdd diogel o ddefnyddio pŵer trydan, a gallant weithio mewn llawer o wahanol fannau, gan wneud hon yn yrfa ddiddorol ac amrywiol. Dod yn beiriannydd trydanol. 

Peiriannydd amgylcheddol  

Mae peirianwyr amgylcheddol yn gweithio ar amryw o brosiectau i warchod yr amgylchedd drwy leihau gwastraff a llygredd. Gallant hefyd ddefnyddio neu greu adnoddau ynni adnewyddadwy neu ddylunio technolegau a phrosesau sy’n rheoli llygredd a glanhau halogiad ar safle adeiladu. Hoffech chi fod yn beiriannydd amgylcheddol?Cewch ragor o wybodaeth yma 

Peiriannydd geo-dechnegol  

Mae peiriannydd geo-dechnegol yn dadansoddi pridd, creigiau, dŵr daear a deunyddiau daear eraill cyn prosiectau adeiladu mawr i helpu i sicrhau bod y dyluniad a’r deunyddiau a gynlluniwyd yn ddiogel. Mae’n rôl hanfodol, gyda sylfaen gref o ran iechyd a diogelwch. Dysgwch beth sydd ei angen i fod yn beiriannydd geo-dechnegol.

Pam mae peirianneg yn bwysig

Mae peirianneg yn defnyddio gwyddoniaeth a galluoedd mathemategol i fanteisio i’r eithaf ar brosiect adeiladu. Mae peirianwyr yn gwneud i bethau ddigwydd, a nhw yw’r rhai sy’n cael eu galw i gywiro problemau ar y safle, sy’n golygu eu bod yn aelodau hanfodol o unrhyw dîm.  

Gyrfaoedd rheoli yn y diwydiant adeiladu

Mae swyddi rheoli ym maes adeiladu yn cadw pethau ar y trywydd iawn. Dyma’r bobl sy’n sicrhau bod gwaith a chyfarpar o fewn ffiniau cyfreithiol. Maen nhw’n goruchwylio unrhyw beth o ddeunyddiau i beiriannau, gyda digon o amrywiaeth yn y canol. 

Rheolwr derbyn nwyddau  

Mae rheolwyr derbyn nwyddau yn gwneud yn siŵr bod unrhyw nwyddau a deunyddiau sy’n cyrraedd y safle yn cael eu rheoli, eu storio a’u symud yn gywir, yn unol ag unrhyw brosesau sydd ar waith ar gyfer busnes penodol neu brosiect unigryw. Eisiau bod yn rheolwr derbyn nwyddau

Rheolwr peiriannau  

Mae rheolwyr peiriannau yn gyfrifol am unrhyw beiriannau trwm a ddefnyddir ar safle adeiladu. Maen nhw’n cofnodi manylion am eu defnydd, gwaith cynnal a chadw, diogelwch a storio. Maen nhw’n gweithio’n agos gyda pheirianwyr a gweithwyr adeiladu â llaw. Dod yn rheolwr peiriannau

Rheolwr Caffael  

Mae rheolwyr caffael yn ceisio sicrhau’r gwerth gorau wrth gaffael nwyddau a gwasanaethau sydd eu hangen i gyflawni prosiect adeiladu ar amser ac yn unol â’r gyllideb. Efallai y byddant yn cydweithio’n agos gyda chyfrifwyr i wneud hyn. Dod yn rheolwr caffael

Pwysigrwydd swyddi rheoli

Yn y pen draw, rheolwyr sy’n dal popeth at ei gilydd a sicrhau fod prosiectau’n cyrraedd y llinell derfyn. Drwy ddefnyddio eu sgiliau arwain a’u sgiliau pobl, mae’r bobl mewn swyddi rheoli yn dirprwyo tasgau i dimau, gan greu prosiect adeiladu sy’n mynd yn llyfn o’r dechrau i’r diwedd.  

Cyfleoedd gyrfa yn yr awyr agored a gwaith llaw ym maes adeiladu

Mae rhai swyddi adeiladu yn ymwneud â gwaith llaw ac mae rhai’n golygu llawer o weithio yn yr awyr agored. Os ydych chi’n mwynhau bod yn gorfforol egnïol, efallai mai dyma’r swyddi i chi. Hefyd, mae rhai’n cynnwys gweithio gyda pheiriannau ac offer sy’n helpu cwblhau gwaith adeiladu’n ddiogel ac o fewn yr amserlen orau. 

Gyrrwr wagen fforch godi  

Mae gyrrwr wagen fforch godi yn symud nwyddau o amgylch safleoedd adeiladu gan ddefnyddio offer a pheiriannau. Gallan nhw hefyd wneud gwaith tebyg mewn warysau. Dysgwch beth sydd ei angen i ddod yn yrrwr wagen fforch godi

Gweithiwr adeiladu cyffredinol  

Mae gweithwyr adeiladu yn gwneud amrywiaeth o dasgau ymarferol ar safle adeiladu. Maen nhw’n gwneud tasgau fel symud offer a deunyddiau â llaw neu dywallt concrit, a nifer fawr o dasgau eraill. Mae eu gwaith yn amrywiol iawn, gyda chyfle i ddatblygu neu arbenigo. Hoffech chi fod yn weithiwr adeiladu cyffredinol?  

Gweithiwr dymchwel  

Mae gweithwyr dymchwel yn tynnu i lawr adeiladau a strwythurau anniogel neu segur, gan weithio’n aml gyda deunyddiau peryglus. Maen nhw’n defnyddio offer a pheiriannau arbenigol, gan gynnwys ffrwydron, i ddymchwel pethau. Mae’r swydd hon, sy’n cael ei rheoli’n gaeth gan ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch, yn golygu eich bod yn gweithio ar amrywiaeth eang o brosiectau. Dysgwch fwy am weithwyr dymchwel

Pwysigrwydd gweithwyr llaw mewn gwaith adeiladu

Mae’r rolau hyn yn bwysig gan eu bod yn cynnwys rhan gorfforol swydd adeiladu. Mae deunyddiau adeiladu’n cael eu symud a’u defnyddio drwy gael y bobl iawn yn eu lle ac mae angen gwybodaeth am beiriannau trwm ac offer arbenigol i wneud swyddi gwaith llaw.   

Dechrau arni yn eich gyrfa adeiladu

Gallwn eich helpu i symud i yrfa ym maes adeiladu, felly os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni ar ein cyfryngau cymdeithasol: 

Instagram - @goconstructuk 

Facebook - @GoConstructUK 

Twitter - @GoConstructUK

Ddim yn siŵr ble i ddechrau? Cymrwch sbec ar brentisiaethau neu gyrsiau a chymwysterau CITB, neu darllenwch flogiau eraill i gael ysbrydoliaeth.