An electrician wiring a switch

Gallai Trydanwyr a Pheirianwyr Trydanol ymddangos fel rolau tebyg yn y diwydiant trydanol, ond mae gwahaniaethau sylweddol rhyngddynt. Dysgwch fwy am yr hyn sydd ynghlwm â phob swydd, y sgiliau sydd eu hangen a faint y gallwch chi ei ennill fel trydanwr a pheiriannydd trydanol.

 

Beth yw Trydanwr?

Mae trydanwr yn gymwys i osod, atgyweirio a chynnal systemau trydanol mewn adeiladau preswyl a masnachol. Cânt eu cyflogi yn y rhan fwyaf o brosiectau adeiladu a pheirianneg, gan sicrhau bod systemau trydanol yn ddiogel ac yn gweithio fel y dylent.

 

Beth yw Peiriannydd Trydanol?

Peiriannydd trydanol yw rhywun sy'n dylunio, datblygu a chynnal systemau trydanol ar gyfer adeiladau, systemau trafnidiaeth a rhwydweithiau dosbarthu pŵer. Maent yn gweithio ar draws sawl diwydiant, gan gynnwys adeiladu, gweithgynhyrchu a thrafnidiaeth.

 

Felly, beth yw'r gwahaniaethau rhwng Trydanwr a Pheiriannydd Trydanol?

Er bod rhywfaint o orgyffwrdd rhwng y ddwy rôl, y prif wahaniaeth rhwng Trydanwr a Pheiriannydd Trydanol yw bod trydanwyr yn gosod systemau trydanol, tra bod peirianwyr trydanol yn eu dylunio.

Dyletswyddau Swydd

Trydanwr

Trydanwr sy'n bennaf gyfrifol am sicrhau bod systemau trydanol mewn adeilad yn ddiogel ac yn gweithio'n gywir. Gallai hyn gynnwys trwsio namau, profi ac archwilio gwifrau ac offer, gosod ceblau, cysylltu socedi, switshis, ffitiadau golau a chyfarpar.

Peiriannydd Trydanol

Prif ddyletswyddau peiriannydd trydanol yw datblygu a dylunio systemau trydanol. Gallent hefyd fod yn rheoli cynhyrchu pŵer, trawsyrru a dosbarthu, a sicrhau bod gwasanaethau fel goleuo, gwresogi ac awyru yn rhedeg yn esmwyth.

Sgiliau

Dylai trydanwyr fod yn dda â'u dwylo, meddu ar sgiliau datrys problemau rhagorol a meddu ar lefel resymol o wybodaeth mathemateg. Mae rhoi sylw i fanylion yn hollbwysig i drydanwr. Rhennir llawer o'r sgiliau hyn gan beirianwyr trydanol, a ddylai hefyd feddu ar sgiliau dylunio, gwybodaeth am wyddoniaeth a thechnoleg peirianneg, a deall sut i ddefnyddio systemau gweithredu cyfrifiadurol.

Addysg a chymwysterau

I ddod yn drydanwr dylech gymryd Diploma City & Guilds mewn Gosodiadau Trydanol, fel rhan o gwrs coleg neu brentisiaeth. I ddod yn drydanwr cwbl gymwys mae angen i chi basio’r asesiad AM2 ar ôl y Diploma Lefel 3. Mae hefyd ar drydanwyr i weithio ar safle adeiladu. Gallai peirianwyr trydanol gwblhau gradd mewn peirianneg drydanol neu electronig, dilyn Diploma Cenedlaethol Lefel 4 neu 5 neu ddilyn prentisiaeth.

Cyflog

Gall peirianwyr trydanol gael cyflogau uwch na thrydanwyr. Mae peirianwyr trydanol sydd newydd eu hyfforddi yn ennill rhwng £20,000-£25,000, tra gallai peirianwyr trydanol uwch neu feistr ennill hyd at £60,000. Mae cyflog i drydanwr dan brentisiaeth yn Lloegr yn dechrau o £11,000 ond gall godi i £20,000; gall trydanwyr cymwys ennill tua £44,000.

 

3 pheth i'w hystyried wrth ddewis rhwng bod yn Drydanwr neu'n Beiriannydd Trydanol

1. Pa amgylchedd ydych chi'n hoffi gweithio ynddo?

Mae trydanwyr yn gweithio ar y safle drwy’r amser, neu yn nhai pobl yn gwneud gwaith atgyweirio neu osod. Mae peirianwyr trydanol fel arfer yn gweithio mewn swyddfa wrth gyfrifiadur, er y byddant yn treulio peth amser ar y safle yn archwilio neu mewn rôl oruchwylio. 

2. Ydych chi'n hoffi gweithio gyda phobl?

Mae angen i drydanwyr feddu ar sgiliau pobl da oherwydd byddant yn gweithio ochr yn ochr â thrydanwyr neu grefftwyr eraill ar safleoedd adeiladu, yn ogystal ag ymweld â chwsmeriaid yn eu cartrefi. Mae gan beirianwyr trydanol lai o gysylltiad uniongyrchol â'r cyhoedd, ond maent yn treulio llawer o'u hamser yn cysylltu â chleientiaid, yn goruchwylio technegwyr ac yn cynnal hyfforddiant technegol. 

3. Oes gennych chi angerdd dros Arloesi?

Rhaid i beirianwyr trydanol fod â diddordeb mewn datblygu systemau trydanol neu gynhyrchion trydanol fel eu bod yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Mae’r holl declynnau a dyfeisiau electronig rydyn ni’n eu defnyddio heddiw – o ffonau clyfar i gerbydau trydan – wedi bod yn waith peirianwyr trydanol. Felly os oes gennych chi'r angerdd hwnnw dros arloesi, yna gallai gyrfa fel peiriannydd trydanol fod yn addas i chi.

Dysgwch fwy am ddod yn Drydanwr neu'n Beiriannydd Trydanol