Roedd Chelsea Cashman yn arfer gweithio mewn Warws Aldi ond roedd yn anhapus ac eisiau newid gyrfa.

Trwy’r Cynllun ‘Cymunedau i Chi’  (Communities for You), cynigiwyd cyfle i Chelsea gael lleoliad profiad gwaith 6 wythnos ar y safle gyda Willis Construction fel rhan o’u hymgysylltiad Gwerth Cymdeithasol ar safle yn Stryd Bute.

O fewn pythefnos i ddechrau ei lleoliad, gwelodd Willis Construction ei photensial a chynigiwyd swydd iddi.

Mae Chelsea wedi bod gyda Willis Construction ers 2 flynedd bellach ac ar hyn o bryd mae’n astudio fel Prentis Gwaith Coed L2 yn CAVC, Coleg y Barri. Mae hi’n aelod allweddol o dîm y prosiect sy’n gweithio ar Brosiect Tai Cadwyn ar Schooner Way yng Nghaerdydd lle maent yn adeiladu dros 120 o fflatiau mewn 4 bloc ynghyd â 3 thŷ tref a fydd yn cael eu defnyddio yn rhannol fel tai cymdeithasol a thai preifat.

Fel unigolyn newydd ychydig yn hŷn i’r diwydiant (bron yn 30 oed) mae Chelsea yn teimlo bod ganddi lawer mwy o hyder nawr na phan oedd hi’n iau sydd wedi helpu gyda bod ar y safle. ‘Rwyf wrth fy modd yn gweld menywod eraill mewn swyddi uwch fel ein Cleient Jo. Mae Jo yn rhedeg y prosiect ar gyfer ochr y Cleient ac mae hi wrth y llyw yn dweud wrth ein tîm beth sydd angen iddynt ei wneud ar y safle.’

Ei hoff ran o'i swydd yw'r boddhad o wneud eitemau a ddefnyddir ar y safle a chael balchder a bod yn rhan o'r gwaith adeiladu gorffenedig. Mae hi wrth ei bodd yn dangos i’w llysfab y prosiectau y mae hi wedi bod yn rhan ohonynt ac mae eisoes eisiau bod yn brentis iddi pan fydd yn tyfu i fyny!