Mae rhan o’r gwaith adeiladu yn cynnwys seilwaith, pethau sy’n cysylltu trefi a dinasoedd, yn dod a budd i gymdeithas ac yn gwella’r byd rydym yn byw ynddo.  

Mae’r prosiect rydym yn edrych yn fanylach arno’n ymwneud â gwelliannau i seilwaith, yn benodol, cyfres o ffyrdd yn yr Alban. Mae Prosiect Gwella Traffyrdd yr M8, M73, M74 yn rhan o fuddsoddiad gwerth £500m gan Lywodraeth yr Alban, gyda nifer o fanteision ynghlwm wrtho.  

Ar y pryd, dyma oedd y prosiect mwyaf i gael ei ddyfarnu fel rhan o fodel Dosbarthu Di-Elw gwerth £2.5 biliwn Llywodraeth yr Alban.  

Amcanion Prosiect Gwella Traffyrdd yr M8, yr M73 a’r M74

Roedd Prosiect Gwella Traffyrdd yr M8, yr M73 a’r M74 yn uwchraddio craidd rhwydwaith traffyrdd yr Alban, gan wella’r cysylltiadau rhwng canolfannau masnachol Glasgow a Chaeredin a thu hwnt. Fel pob prosiect adeiladu, gosodwyd yr amcanion cyn i unrhyw waith gael ei wneud, a oedd wedyn yn cael eu defnyddio yn y camau dylunio a chynllunio. 

Yr economi

Drwy greu gwell mynediad i ardaloedd yn yr Alban, roedd y prosiect yn ceisio cynyddu cyfraddau cyflogaeth yn y lleoliadau hynny. Byddai hyn yn hybu twf economaidd cynaliadwy gan y byddai caniatáu i fwy o bobl weithio a chymudo i’r ardaloedd hynny yn rhoi hwb i’r economi leol.  

Roedd ystyriaethau hefyd o ran lleihau amseroedd teithio a lleddfu tagfeydd yn ystod oriau brig, er mwyn caniatáu siwrneiau o ansawdd gwell.  

Diogelwch

Byddai’n cyflawni gwell diogelwch ar y ffyrdd drwy leihau traffig ar ffyrdd lleol, diwygio cynlluniau cyffyrdd, a lleihau symudiadau rhwng lonydd (i helpu i atal gweu yn ôl ac ymlaen rhwng lonydd). 

Byddai’r prosiect hefyd yn lleihau’r amseroedd teithio cyfartalog ar gyfer teithiau allweddol yn ystod oriau brig drwy wahanu traffig ar draffyrdd a ffyrdd lleol a lleihau nifer y cerbydau sy’n defnyddio prif gyfnewidfeydd yn ystod yr oriau hynny. 

Yr Amgylchedd

Byddai llai o dagfeydd a llai o draffig ar ffyrdd lleol yn lleihau allyriadau ac yn gwella ansawdd yr aer ar gyfer yr ardaloedd cyfagos. Byddai system ddraenio gynaliadwy yn trin dŵr ffo o rannau o’r rhwydwaith traffyrdd presennol, a rhoddwyd ystyriaeth i’r dirwedd gyfagos ar gyfer llygredd sŵn. Rhoddwyd ystyriaeth i fywyd gwyllt lleol a’u symudiadau, ac mae twneli, ffensys a phontydd i famaliaid wedi cael eu cynnwys. 

Integreiddio

Un o nodau’r prosiect oedd darparu cysylltiad traffordd i Eurocentral, un o stadau diwydiannol mwyaf yr Alban. Byddai hefyd yn ategu datblygiadau eraill yn yr ardal, gan wella cysylltiadau trafnidiaeth ar draws Canol yr Alban a thu hwnt. 

Hygyrchedd

Yn ogystal â’i gwneud yn haws i bobl ddefnyddio’r rhwydwaith traffyrdd, mae’r prosiect yn gwahanu llwybrau cerdded a llwybrau beicio wrth ochr y llwybrau cyfagos er mwyn eu gwneud yn hygyrch i ddefnyddwyr di-fodur. Roedd hyn hefyd yn gwella’r cysylltiadau rhwng cymunedau lleol a busnesau, gyda bron i 10 milltir o lwybrau cerdded a beicio newydd.  

Camau’r prosiect

Roedd y prosiect yn un mawr, felly fe’i rhannwyd yn dair prif adran:

  • Y cyswllt traffordd newydd i’r M8 – Mae cyswllt traffordd newydd yr M8 yn cwblhau’r draffordd rhwng Glasgow a Chaeredin, gan gysylltu’r draffordd yn Baillieston â’r draffordd yn Newhouse.
  • Gwella Cyffordd Reith ar yr M74 – Mae Cyffordd Raith yn gylchfan sy’n cysylltu traffordd yr M74 â’r A725 Ffordd Osgoi Bellshill a Gwibffordd Dwyrain Kilbride. 
  • Uwchraddio’r rhwydwaith – Roedd y rhain yn cynnwys adeiladu llwybrau beicio a cherdded newydd a draws y gyffordd a wellwyd, er mwyn gwella hygyrchedd. 
Gwella ffyrdd yr M8, yr M73 a’r M74

Roedd y rhain yn cynnwys adeiladu llwybrau beicio a cherdded newydd ar draws y gyffordd a wellwyd, er mwyn gwella hygyrchedd. 

Mae pob prosiect adeiladu yn dilyn proses debyg o ‘gaffael’ (dod o hyd i’r bobl iawn i wneud y gwaith, am y pris gorau, ac o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt), hyd at ddechrau’r gwaith adeiladu ymarferol. Cyhoeddwyd bod y prosiect wedi cael ei gaffael ym mis Rhagfyr 2011 a bu’r cynigwyr yn cystadlu am y contract drwy gydol 2013. Y cynigydd llwyddiannus oedd Partneriaeth Ffyrdd yr Alban (SRP), gyda chymorth gan Ferrovial Agroman a Lagan, ym mis Chwefror 2014. 

Bydd SRP hefyd yn gyfrifol am reoli, gweithredu a chynnal yr adran graidd hon o’r rhwydwaith traffyrdd am 30 mlynedd ar ôl ei chwblhau. 

Roedd y pris o £500 miliwn am Brosiect Gwella Traffyrdd yr M8, yr M73 a’r M74 yn cynnwys adeiladu, gweithredu, cynnal, a chyllido ffyrdd y prosiect am dros 30 mlynedd. Daeth y cyllid gan Fanc Buddsoddi Ewrop (EIB), a grŵp o fuddsoddwyr a reolir gan Allianz Global Investors, un o brif ddarparwyr gwasanaethau ariannol integredig y byd. 

Defnyddio Modelu Gwybodaeth am Adeiladau yn ystod y gwaith adeiladu

Elfen gyffrous o’r prosiect adeiladu hwn oedd ei ddefnydd o BIM, sy’n fyr am fodelu gwybodaeth am adeiladu. Defnyddir y dechnoleg 3D hon yn aml yn ystod y broses ddylunio, i helpu i gynllunio, cynnal a rheoli prosiectau’n fwy effeithiol, hyd yn oed ar ôl eu cwblhau. Mae’n ffordd o gasglu’r holl wybodaeth am brosiect, mewn sawl dimensiwn a defnyddio dylunio â chymorth cyfrifiadur fel bod pawb yn gallu gweld beth sydd ei angen arnynt, fel dyluniadau pensaernïol, deunyddiau a gweithdrefnau adeiladu. 

Gan fod hwn yn fath cymharol newydd o dechnoleg adeiladu, treialodd y prosiect hyn ar y rhan fwyaf cymhleth o’r prosiect uwchraddio, Cyfnewidfa Raith, Cyffordd 5 yr M74. Yng Nghyffordd Raith, roedd yn rhaid i beirianwyr adeiladu tanffordd o dan Afon Clyde gerllaw, yn ogystal ag adleoli llawer o gyfleustodau tanddaearol. Roedd hon yn ardal ddelfrydol gan y gellid ei thrin fel adran ar ei phen ei hun. 

Roedd y defnydd o BIM ar Gyffordd Raith yn llwyddiant ysgubol. Roedd yn caniatáu mwy o amlygrwydd a chydweithio rhwng y tîm dylunio ac adeiladu, ac hefyd llwyddodd y model rhithwir i olygu bod llai o wallau wrth adeiladu ar y safle oherwydd y dechnoleg i ganfod gwrthdaro dylunio. 

Gallai gweithwyr hefyd efelychu technegau a dulliau adeiladu ar y model rhithiol i brofi eu diogelwch, a oedd yn golygu amgylcheddau gweithio mwy diogel i bawb yn gysylltiedig. 

Yn ogystal â gwella prosiectau adeiladu, mae BIM wedi creu swyddi newydd a chyffrous hefyd, gan gynnwys technegydd BIM a rheolwr BIM. 

Cyffordd Shawhead – lleoliad heriol

Un o’r heriau mwyaf yn y prosiect oedd uwchraddio Cyffordd Shawhead sydd wedi’i leoli rhwng Whifflett a Coatbridge yn y gogledd a Bellshill a’r Bothwell i’r de; yn cynnwys tair cyffordd, yn cysylltu cefnffyrdd a ffyrdd lleol yn yr ardal. Arferai fod tagfeydd rheolaidd yno, a dyma oedd yn un o gyffyrdd prysuraf y prosiect. 

Roedd cadw’r ffyrdd ar agor yn ystod y gwaith adeiladu yn allweddol i symud traffig wrth i’r gwaith fynd rhagddo. Yn Shawhead roedd hyn yn arbennig o bwysig gan fod yr A725 a’i rhwydwaith ffyrdd yn cysylltu yma. I wneud yn siŵr bod pethau’n mynd yn esmwyth, mi wnaeth y contractwyr: 

  • Dargyfeirio’r prif gyfleustodau yn yr ardal (gan gynnwys ceblau nwy, pŵer a chyfathrebu ar gyfer gwahanol gwmnïau) 
  • Sicrhau bod cyn lleied â phosibl o darfu ar dai preswyl lleol yn ystod y gwaith adeiladu  
  • Sicrhau bod cyn lleied â phosibl o effaith ar dir diwydiannol a busnes ger y safle adeiladu 
  • Ystyried rhai nad ydynt yn defnyddio moduron, yn ogystal â thraffig ffordd i gadw cymunedau mewn cysylltiad 
  • Lleihau effaith y gwaith adeiladu ar yr amgylchedd lleol, gan gynnwys coetiroedd a chyrsiau dŵr

Cyflwynwyd cyffyrdd â goleuadau traffig yn lle cylchfannau mewn tri lleoliad yng nghyffordd Shawhead, gan helpu i reoli traffig, lleddfu tagfeydd, a chysylltu ffyrdd lleol yn well. Cafodd cymunedau lleol eu hannog i fod yn rhan o’r gwaith o ddylunio’r elfen anodd hon o’r prosiect, a chynhaliwyd ymgynghoriadau helaeth gan gynnwys arddangosfeydd cyhoeddus a digwyddiadau galw heibio. 

Gweithrediad a chynnal a chadw

SRP, drwy ei is-gontractwr Amey, sy’n gyfrifol am reoli, gweithredu a chynnal a chadw’r adran graidd hon o rwydwaith cefnffyrdd yr Alban ar ran Gweinidogion yr Alban tan 2047. Y bwriad yw cwblhau gwaith cynnal a chadw ar ôl cynnal archwiliadau ac arolygon rheolaidd. 

Byddant yn ymdrin â diffygion a digwyddiadau, ond y flaenoriaeth yw cynnal llif traffig da lle bo hynny’n bosibl. 

Y manteision a ddaw yn sgil y prosiect

Agorodd Prosiect Gwella Traffyrdd yr M8, yr M73 a’r M74 i draffig ar 1 Mehefin 2017. Yn ogystal â chyflawni’r amcanion a amlinellwyd gennym uchod, creodd y prosiect hwn: 

  • 50 o gyfleoedd cyflogaeth tymor hir hyd yma yn ystod y cyfnod gweithredu a chynnal a chadw 
  • 40 o leoliadau ar y safle ar gyfer prentisiaid hyfforddiant galwedigaethol 
  • 27 o leoliadau ar y safle ar gyfer hyfforddi graddedigion proffesiynol 
  • 104 o gyfleoedd is-gontractio  
  • 8 cyfle hyfforddi yn ystod y gwaith adeiladu, fel lleoliadau, profiad gwaith, a chyfleoedd ‘blasu’ yn y gweithle wedi’u hanelu at unigolion ifanc a lleol

At ei gilydd, llwyddodd y prosiect i greu llwybrau newydd a gwell ar gyfer cerbydau, beicwyr a cherddwyr, gan gysylltu cymunedau a chreu twf economaidd drwy ei gwneud yn bosibl i gymudo, a lleddfu tagfeydd.  

Dysgwch fwy am Brosiect yr M8, yr  M73 a’r M74

I ddysgu mwy am y prosiect hwn, yn fwy manwl, ewch i Transport Scotland.   

Hoffech chi ddechrau arni ym maes adeiladu a gweithio ar brosiectau fel hwn? Chwiliwch drwy’r gwahanol rolau ar ein safle, neu edrychwch ar brentisiaethau, ffordd wych o ymuno â’r diwydiant. 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn ein dilyn ni ar Facebook, Twitter, Instagram, ac YouTube