Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn drydanwr, mae llawer o gyfleoedd gan fod llawer o wahanol fathau o drydanwr.

Gallech arbenigo mewn gweithio mewn lleoliadau preswyl neu ar osodiadau masnachol. Gallech ddylunio systemau trydanol cyfan neu brofi offer i weld a ydynt yn ddiogel i’w ddefnyddio.

Dysgwch fwy am y gwahanol fathau o drydanwyr sydd ar gael, a’r lefelau y maent yn gweithio arnynt, gyda’n canllaw isod.

 

Types of electricians by level 

Level Description
Cymar y trydanwr

Fel y gris cyntaf ar yr ysgol gyrfa drydanol, mae cymar y trydanwr yn gweithio gyda goruchwyliaeth gan drydanwr cymwys. Nid ydynt yn astudio ar gyfer cymwysterau ffurfiol fel prentis, ond maent wedi cael digon o brofiad gwaith i wneud tasgau gosod ymarferol. Yn gyffredinol, bydd ganddynt Ddiploma Lefel 2 mewn Gosod Trydan.

Prentis

Mae prentisiaeth yn cynnwys dysgu sut i wneud math arbennig o swydd neu grefft trwy weithio ac astudio ar yr un pryd. Bydd disgwyl i drydanwyr dan brentisiaeth weithio o leiaf 30 awr yr wythnos a threulio gweddill eu hamser yn y coleg neu ddarparwr hyfforddiant. Bydd prentisiaid yn gweithio tuag at gymhwyster Lefel 3. Mae prentisiaethau trydanol fel arfer yn cymryd 3-4 blynedd i’w cwblhau.

Trydanwr

Gallwch alw eich hun yn drydanwr ar ôl cwblhau prentisiaeth neu ar ôl pasio Diploma Lefel 3 Gosodiadau trydanol. Bydd trydanwr wedi gweithio yn y diwydiant trydanol ers sawl blwyddyn cyn cyflawni’r cymwysterau galwedigaethol hyn, a bydd ganddynt y profiad i weithio mewn amgylcheddau domestig, masnachol a diwydiannol heb oruchwyliaeth.

Trydanwr cymeradwy

I ddod yn ‘drydanwr cymeradwy’, bydd gennych gymhwyster Lefel 3 mewn arolygu, profi a gwirio cychwynnol. Bydd gennych hefyd y gallu i ddylunio, gosod a gwirio ystod eang o osodiadau trydanol yn effeithlon ac yn ddarbodus. Bydd gan drydanwyr cymeradwy ddealltwriaeth dda iawn o reoliadau gwifrau’r 18fed Argraffiad, a elwir hefyd yn BS 7671.

Rolau Trydanwr Arbenigol

Arbenigedd

Disgrifiad

Trydanwr masnachol

Mae trydanwyr masnachol yn cael eu hyfforddi i weithio mewn adeiladau masnachol yn hytrach nag adeiladau domestig. Mae ganddynt drwydded i osod, atgyweirio a chynnal systemau trydanol mewn adeiladau masnachol mawr, megis canolfannau siopa a lleoliadau adloniant. Maent wedi’u hyfforddi i weithio â chynhyrchwyr a chyfarpar foltedd uchel.

Trydanwr cynnal a chadw

Mae systemau trydanol adeiladau masnachol neu breswyl mawr yn cael eu monitro gan drydanwr cynnal a chadw. Maen nhw’n archwilio’r adeilad yn rheolaidd, yn trwsio unrhyw ddiffygion ac yn gwneud gwaith cynnal a chadw arferol. Gall trydanwr cynnal a chadw weithio ar sawl safle gwahanol.

Peiriannydd trydanol

Mae peirianwyr trydanol yn dylunio, datblygu a chynnal systemau trydanol ar gyfer adeiladau, systemau trafnidiaeth a rhwydweithiau dosbarthu pŵer. Nid ym maes adeiladu yn unig y mae peirianwyr trydanol yn gweithio, ond trafnidiaeth, ynni (gan gynnwys ynni adnewyddadwy), gwasanaethau adeiladu a gweithgynhyrchu.  

Profwr trydanol

Mae profwyr trydanol yn arolygu, yn profi ac yn archwilio gosodiadau trydanol mewn cartrefi a busnesau, gan nodi diffygion a chwblhau adroddiadau prawf. Ymhlith eu rolau, mae profwyr trydanol yn cynnal profion dyfeisiau cludadwy (PAT) a gwiriadau ansawdd ar adeiladau newydd, gan gadarnhau bod offer trydanol yn ddiogel i’r ddefnyddio.   

Gosodwyr trydanol domestig

Mae gosodwyr trydanol domestig yn gweithio mewn eiddo domestig, yn gosod gwifrau neu gylchedau trydanol newydd ac yn atgyweirio systemau trydanol diffygiol. Ar safleoedd adeiladu bydd gosodwyr trydanol yn gweithio ochr yn ochr â chrefftwyr eraill.

Dylunydd trydanol

Mae dylunwyr trydanol yn defnyddio eu sgiliau a’u profiad i ddylunio systemau trydanol, cylchedau a switsfyrddau i gyd-fynd â manyleb adeilad neu brosiect. Mae dylunwyr trydanol yn gweithio’n agos gyda phenseiri, perchnogion tai a chwmnïau adeiladu i ddod o hyd i atebion sy’n cyd-fynd â gofynion a nodweddion penodol adeilad.

Trydanwr gosod

Mae trydanwyr gosod yn gyfrifol am osod systemau trydanol cyflawn mewn adeiladau, megis goleuadau, pŵer, diogelwch, diogelwch tân a cheblau strwythur. Efallai y byddant yn gweithio ar brosiectau mwy neu eiddo masnachol.