Y llwybrau sefydledig i fod yn beiriannydd yw dilyn prentisiaeth neu astudio ar gyfer gradd HNC, HND neu brifysgol. Bydd angen cymwysterau Safon Uwch arnoch ar gyfer prentisiaethau uwch a phrifysgol, ond ar gyfer prentisiaeth peirianneg ganolradd bydd cyflogwyr yn chwilio am raddau TGAU mewn Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth.  

Dylech fod wedi cyflawni eich TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C).  


Mae’n dibynnu’n fawr ar ba fath o beiriannydd! 

Mae mwy nag un math o beiriannydd, fel y gwyddoch efallai. Bydd rhai cyflogwyr neu brifysgolion yn chwilio am raddau TGAU mewn rhai pynciau perthnasol, ond Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth yw’r rhai hanfodol. Os ydych yn gwneud cais am gwrs prifysgol mewn pwnc peirianneg, bydd Safon Uwch yn bwysicach na TGAU.  

Gwahanol fathau o beirianwyr 

Peirianneg sifil 

Peirianwyr sifilsy’n cynllunio, yn dylunio ac yn rheoli prosiectau adeiladu mawr. Gallai’r prosiectau hyn gynnwys pontydd, adeiladau, cysylltiadau trafnidiaeth a strwythurau mawr eraill. Mae peirianwyr sifil yn defnyddio meddalwedd modelu cyfrifiadurol a data o arolygon, profion a mapiau, ac yn cynghori contractwyr ar risg amgylcheddol. 

Peiriannydd Trydanol 

Mae peirianwyr trydanol yn dylunio, yn datblygu ac yn cynnal systemau trydanol ar gyfer adeiladau, systemau trafnidiaeth a rhwydweithiau dosbarthu pŵer. Mae peirianwyr trydanol yn gweithio mewn ac ar draws llawer o ddiwydiannau, fel adeiladu, trafnidiaeth, ynni (gan gynnwys ynni adnewyddadwy), gwasanaethau adeiladu a gweithgynhyrchu. 

Peiriannydd Deunyddiau  

Mae peirianwyr deunyddiau yn canfod, yn profi ac yn asesu’r deunyddiau a ddefnyddir ym maes adeiladu. Mae peirianwyr deunyddiau’n sicrhau bod y sylfeini a’r deunyddiau adeiladu’n addas ac yn cynnig arweiniad ar y deunyddiau gorau i’w defnyddio ar gyfer prosiect, yn seiliedig ar eu priodweddau unigol, costau’r prosiect a’r amserlenni. 

Peiriannydd Cemegol  

Mae peirianwyr cemegol yn datblygu ac yn trosi deunyddiau crai yn amrywiaeth o gynnyrch defnyddiol. Mae peiriannydd cemegol yn newid cyflwr cemegol, biocemegol a ffisegol sylwedd i’w droi’n rhywbeth arall, fel gwneud plastig o olew. 

Pa bynciau fydd yn eich helpu i fod yn beiriannydd?

Mae’n dibynnu ar ba fath o beiriannydd rydych chi eisiau bod. Bydd y rhan fwyaf o gyflogwyr peirianneg yn chwilio am raddau Safon Uwch mewn Mathemateg a Ffiseg oherwydd y rheini yw’r pynciau sy’n datblygu dealltwriaeth o’r agweddau ymarferol ar beirianneg. Maen nhw’n helpu darpar beirianwyr i ddatblygu eu sgiliau datrys problemau. Felly, os oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa mewn peirianneg, byddai’n syniad da i chi astudio Ffiseg ar lefel TGAU. 

Fel arfer, bydd angen gradd Safon Uwch mewn Cemeg ar gyfer prentisiaethau neu gyrsiau peirianneg cemegol, felly bydd TGAU mewn Cemeg yn ffordd dda o ddechrau eich astudiaethau cemeg. 

TGAU Peirianneg

Os ydych chi’n ddigon ffodus i fynd i ysgol sy’n cynnig peirianneg fel TGAU (ac nid oes llawer yn gwneud hynny), gwnewch yn siŵr eich bod yn ei ddewis fel un o’ch pynciau! Bydd hyn yn creu argraff wirioneddol ar gyflogwr ac yn dangos bod gennych eisoes wybodaeth a diddordeb sylfaenol mewn peirianneg. Yn aml, mae gan ysgolion sy’n cynnig TGAU Peirianneg yr hyblygrwydd i greu eu cwricwlwm eu hunain. Mae’n debyg y bydd myfyrwyr yn dysgu elfennau o wyddoniaeth, mathemateg, electroneg a dylunio cynnyrch fel rhan o’u hastudiaethau.  

Mae graddau TGAU Gwyddoniaeth yn ddymunol

Nid oes amheuaeth ynglŷn â hynny, mae TGAU mewn Gwyddoniaeth fwy neu lai yn hanfodol os ydych chi eisiau mynd i faes peirianneg. Felly, boed hynny'n Ffiseg, Cemeg, Bioleg neu Wyddoniaeth Gyfun, mae TGAU Gwyddoniaeth yn helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth allweddol y gellir eu defnyddio mewn gwahanol yrfaoedd ym maes peirianneg. 

Cael gwybod mwy am yrfa peirianneg ym maes adeiladu

Mae peirianneg yn rhan bwysig iawn o’r diwydiant adeiladu. Mae peirianwyr sifil, peirianwyr deunyddiau a pheirianwyr trydanol i gyd yn chwarae rhan bwysig mewn prosiectau adeiladu, ac mae’n yrfa sy’n rhoi llawer o foddhad. Mae’n cael ei wasanaethu’n dda gan brentisiaethau hefyd.  


Chwilio am gyfleoedd peirianneg ar Talentview

Mae Talentview yn wefan wych i chwilio am swyddi peirianneg a phrentisiaethau. Gallwch hidlo eich chwiliadau yn ôl rôl swydd, lleoliad a phrentisiaethau lefelau penodol