Gliniadur gyda fformiwlâu mathemategol arno

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dilyn gyrfa gan ddefnyddio gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg neu fathemateg, a elwir yn bynciau ‘STEM’, mae gan y diwydiant adeiladu ddigonedd o gyfleoedd i chi.

Gallech weithio fel peiriannydd sifil, peiriannydd mecanyddol, peiriannydd geo-dechnegol, amcangyfrifwr costau neu ddadansoddwr TG, i enwi ychydig yn unig.

Canfyddwch fwy isod.

 

Beth yw STEM?

Mae STEM yn acronym sy’n ymwneud â phynciau ymarferol, technegol a’r gyrfaoedd y gall astudio’r pynciau hyn arwain atynt.

 

Beth yw pynciau STEM?

Y pynciau craidd STEM yw gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. O fewn y categorïau eang hyn, gallech astudio pynciau fel bioleg, ffiseg a chemeg, cyfrifiadureg a pheirianneg drydanol.

 

Pam mae pynciau STEM yn bwysig?

Mae pynciau STEM yn bwysig oherwydd mewn sawl ffordd maent yn gosod y sylfaen ar gyfer swyddi mewn meysydd a all gael yr effaith fwyaf buddiol ar gymdeithas. Mae pobl sydd â sgiliau STEM hynod ddatblygedig yn dechnegol eu meddwl ac yn dda am ddatrys problemau. Gallech fod yn adeiladu neu’n datblygu brechlynnau. Mae prinder gweithwyr medrus mewn swyddi ymchwil technegol, gwyddonol a pheirianneg yn y DU, ac mae llenwi’r bwlch hwnnw wedi dod yn flaenoriaeth economaidd fawr. Mae llywodraeth y DU yn gweld gyrfaoedd STEM yn allweddol i hyrwyddo arloesedd a thwf economaidd.

 

Gyrfaoedd STEM mewn adeiladu

Peiriannydd amgylcheddol

Mae peirianwyr amgylcheddol yn canolbwyntio ar warchod yr amgylchedd trwy leihau gwastraff a llygredd. Yn y diwydiant adeiladu mae peirianwyr amgylcheddol yn adrodd ac yn cynghori ar effaith amgylcheddol gwaith adeiladu. Maent yn cynnal asesiadau safle, yn cymryd darlleniadau, yn cynnal archwiliadau technegol ac yn gwneud argymhellion i gwmnïau adeiladu. Mae peirianwyr amgylcheddol yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau naturiol a deunyddiau presennol. Maent yn dylunio technolegau a phrosesau sy’n rheoli llygredd ac yn glanhau halogiad.

Peiriannydd sifil

Mae peirianwyr sifil yn gyfrifol am gynllunio, dylunio a rheoli prosiectau adeiladu sylweddol, gan gynnwys cysylltiadau trafnidiaeth, adeiladau a strwythurau eraill. Defnyddiant feddalwedd modelu cyfrifiadurol a data o ragolygon, profion a mapiau i ddatblygu glasbrintiau prosiect. Mae’r glasbrintiau hyn yn rhoi arweiniad i gontractwyr a’u nod yw lleihau risg ac effaith amgylcheddol. Mae rhai peirianwyr sifil yn canolbwyntio ar feysydd penodol, megis trafnidiaeth, amgylcheddol, geo-dechnegol, prosiectau morwrol neu adeileddol. 

Peiriannydd geo-dechnegol

Mae gan beirianwyr geo-dechnegol rôl bwysig wrth ddadansoddi pridd, craig, dŵr daear, a deunyddiau daear eraill cyn i’r gwaith adeiladu ddechrau ar brosiect. Gall y dadansoddiad hwn helpu i benderfynu pa ddeunyddiau y mae’n rhaid eu defnyddio yn sylfaen neu ddyluniad cyffredinol y strwythur, neu a oes angen mesurau ychwanegol ar y prosiect i sicrhau ei fod yn ddiogel. Mae peirianwyr geo-dechnegol yn angerddol am yr amgylchedd, yn ogystal â dealltwriaeth uwch o fathemateg, gwyddoniaeth a daeareg.

Peiriannydd deunyddiau

Mae peirianwyr deunyddiau yn canfod, profi ac asesu’r deunyddiau a ddefnyddir mewn adeiladu. Maent yn sicrhau bod sylfeini a deunyddiau adeiladu yn addas ac yn cynnig arweiniad ar y deunyddiau gorau i’w defnyddio ar gyfer prosiect, yn seiliedig ar eu priodweddau unigol, costau prosiect ac amserlenni. Mae peirianwyr deunyddiau hefyd yn ymchwilio i faterion strwythurol, yn cynghori ar gynnal a chadw a thrwsio deunyddiau, yn datblygu prototeipiau adeiladu ac yn dadansoddi data profion deunyddiau.

Amcangyfrifwr costau

Mae amcangyfrifwyr costau adeiladu yn defnyddio eu sgiliau mathemategol i gyfrifo costau prosiect. Maent yn casglu data, yn ymgynghori â chleientiaid, gwerthwyr a rheolwyr safle, ac yn amcangyfrif cost llafur, deunyddiau a pheiriannau. Bydd amcanfrifwyr costau yn ystyried amseroedd arwain a’r posibilrwydd o oedi mewn trafnidiaeth a thywydd gwael. Trwy gydol cyfnod prosiect, byddant yn cadw golwg ar gostau ac yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda chleientiaid, peirianwyr, penseiri a chontractwyr.

 

Pwysigrwydd amrywiaeth mewn STEM

Mae gyrfaoedd STEM yn agored i bawb, beth bynnag fo’ch cefndir, hunaniaeth hiliol neu rywiol. Mae amrywiaeth yn bwysig mewn STEM oherwydd po fwyaf o leisiau a chefndiroedd a gynrychiolir, y cyfoethocaf fydd y profiad i gymdeithas a’r posibilrwydd o gyflawniadau a chanfyddiadau gwell.

 

Llysgenhadon STEM Am Adeiladu

Os ydych chi’n dilyn gyrfa mewn adeiladu mae gennych chi’r cyfle i ddod yn Llysgennad STEM Am Adeiladu. Fel Llysgennad STEM, byddwch yn gweithredu fel wyneb y diwydiant adeiladu ar gyfer pobl ifanc, gan ymgysylltu ag ysgolion a gweithleoedd i hyrwyddo gyrfaoedd STEM o fewn adeiladu. Nid oes angen i chi fod wedi astudio pynciau STEM yn yr ysgol neu’r brifysgol, dim ond bod yn angerddol dros weithio ym maes adeiladu ac eisiau rhannu eich profiad ag eraill.

Wedi'ch ysbrydoli gan yr hyn rydych chi wedi'i ddarllen? Canfyddwch dros 170 o yrfaoedd adeiladu

Gall gyrfa STEM fod yn un o’r ffyrdd mwyaf gwerth chweil o weithio ym maes adeiladu. Nid oes angen i chi fod wedi cymryd gradd STEM – mae sigon o yrfaoedd STEM ar gael trwy brentisiaethau a dechrau ar lefel mynediad.

Os ydych am ddechrau ym maes adeiladu, mae gan Am Adeiladu wybodaeth am dros 170 o broffiliau swyddi  sydd ar gael yn y diwydiant adeiladu.