Four happy students having a conversation 

Pan ddaw i brentisiaethau, “yr unig ffordd yw Essex”!

Yn wir, mae Essex yn sir sydd ag amrywiaeth enfawr o gyfleoedd prentisiaeth. Mae bod yn agos at Lundain a chael cymysgedd o ddiwydiannau ar draws trefi, dinasoedd ac ardaloedd gwledig yn golygu bod gan Essex ystod amrywiol o brentisiaethau, pa bynnag fath o yrfa y mae gennych ddiddordeb ynddi.


Beth yw prentisiaeth?

Mae prentisiaeth yn swydd â hyfforddiant ac mae ar gyfer unrhyw un 16 oed a throsodd. Yn ystod prentisiaeth, byddwch yn gweithio â staff profiadol ac yn ennill cymwysterau trwy wneud dysgu ymarferol ac academaidd. Bydd eich cyflogwr yn rhoi tasgau wrth weithio (on the job) i chi, a bydd darparwyr hyfforddiant yn rhoi’r sgiliau damcaniaethol i chi allu cyflawni’r tasgau hynny.

Fel prentis, byddwch yn ennill wrth i chi ddysgu, felly gallwch ennill cymhwyster diwydiant-benodol heb fod angen benthyciad myfyriwr. Byddwch yn cael eich cyflogi’n llawn amser (fel arfer rhwng 30-40 awr yr wythnos), sy’n cynnwys amser a dreulir â’ch darparwr hyfforddiant.

Pwysigrwydd prentisiaethau i'r rhai sy'n gadael yr ysgol

I unrhyw un sydd ar fin gadael yr ysgol, mae prentisiaeth yn ddewis arall delfrydol i Lefel A neu’r brifysgol. Os nad ydych chi’n addas ar gyfer astudio llawn amser, mae prentisiaeth yn mynd â chi i fyd gwaith ac yn caniatáu ichi ennill sgiliau ymarferol mewn swydd. Ar ben hynny, byddwch yn ennill cyflog ar yr un pryd. Ar ddiwedd y brentisiaeth byddwch yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol, ac a fydd yn rhoi dechrau da i chi yn eich gyrfa ddewisol.

Mathau o brentisiaethau yn Essex

Diwydiannau sy'n cynnig prentisiaethau yn Essex

O adeiladwaith i TG, peirianneg i addysg, mae gan Essex ystod eang o ddiwydiannau sy’n cynnig prentisiaethau â hyfforddiant yn y gwaith.

Cynlluniau prentisiaeth poblogaidd yn Essex

Mae adeiladwaith yn arbennig yn cael ei wasanaethau’n dda gan gynlluniau prentisiaeth yn Essex. Mae colegau fel Coleg De Essex, Coleg Harlow, Sefydliad Caercolyn a Choleg Chelmsford yn cynnig dewis gwych o gynlluniau prentisiaeth ar y cyd â chyflogwyr lleol.

Mae Sefydliad Technoleg De-ddwyrain Coleg Chelmsford yn arbenigo mewn prentisiaethau Lefel 3 a 4 mewn Adeiladu a Pheirianneg, gan gynnwyd diplomâu Lefel 3 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig, a HNCs Lefel 4, â chyrsiau mewn meysydd megis gosod brics, plymio, gwaith coed a saernïaeth.

Prentisiaethau yn nhrefi poblogaidd Essex

Lle bynnag yr ydych yn byw yn Essex, bydd prentisiaeth ar gael gerllaw. Os ydych chi yng ngogledd y sir, yng Nghaercolyn a’r cyffiniau, mae digon o gyfleoedd yn un o’r dinasoedd sy’n tyfu’r cyflymaf yn y De-ddwyrain. Ymhellach i’r de, mae gan Chelmsford, man geni’r radio, hanes diwydiannol balch. Heddiw, adeiladwaith sy’n gadael ei ôl, ac mae angen prentisiaid ar draws Chelmsford ac yn ardal ganolig Essex.

Apprentice bricklayers undertaking a task

Pam gwneud prentisiaeth yn Essex?

Cyfleoedd i ddatblygu gyrfa

Mae prentisiaethau’n cynnig cyfleoedd gwych i bobl ifanc ddatblygu eu gyrfaoedd. Mae ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol ar ddiwedd pob lefel prentisiaeth yn agor llwybrau i symud ymlaen yn eich gyrfa yn y dyfodol, neu ddilyn prentisiaethau pellach fel prentisiaethau uwch neu radd.

Ennill wrth ddysgu

Un o’r pethau gorau am brentisiaethau yw’r cyfle i ennill cyflog ar yr un pryd ag astudio a hyfforddi. Gallwch ennill yr isafswm cyflog os ydych ym mlwyddyn gyntaf eich prentisiaeth neu o dan 18 oed, yna bydd eich cyflog yn codi yn ôl oedrannau penodol hyd at 23 oed. Dysgwch fwy am gyflog prentis.

Mynediad at hyfforddiant a mentoriaeth wrth weithio

Dylai prentisiaid allu ymgynghori â mentor yn ystod eu prentisiaeth. Mae mentoriaid yn cyflawni rolau gwahanol i reolwyr llinell ac maent yno i gefnogi prentisiaid os oes ganddynt unrhyw bryderon neu gwestiynau am eu prentisiaeth. Dylai prentisiaid gael mynediad i gyfarfodydd un-i-un rheolaidd gyda’u mentor, adolygiadau perfformiad, cymorth iechyd meddwl a llesiant.

Mae prentisiaid yn cael rhaglen strwythuredig o hyfforddiant wrth weithio, sy’n gysylltiedig â rôl swydd benodol.

Sut i ddod o hyd i brentisiaeth yn Essex

Camau i ddod o hyd i brentisiaethau addas

Mae sawl ffordd y gallwch ddod o hyd i gyflogwyr sy’n cynnig prentisiaethau. Gallwch ddefnyddio gwefannau megis Talentview, gwneud cais yn uniongyrchol i gyflogwyr, cysylltu â cholegau lleol neu ofyn i ffrindiau neu aelodau o’r teulu a ydynt yn gwybod am brentisiaethau sydd ar gael mewn cwmnïau.

Syniadau da ar gyfer gwneud cais am brentisiaethau yn Essex

Os ydych yn gwneud cais am brentisiaethau, mae’n syniad da i:


Explore apprenticeship opportunities in Essex

Mae amrywiaeth eang o brentisiaethau, swyddi a chynlluniau i raddedigion yn Essex yn cael eu hysbysebu’n rheolaidd ar Talentview. Gallwch hidlo’ch chwiliadau yn ôl lleoliad a rôl swydd, a hefyd chwilio am brofiad gwaith, lleoliadau ac interniaethau a all fod yn ffordd wych o gael cyflwyniad i’r diwydiant cyn ymgymryd â phrentisiaeth.