A busy marina 

Mae mwy i’w wneud yn Nyfnaint na chadeiriau glan môr, Dartmoor a the hufen. Er ei bod yn gyrchfan gwyliau ddymunol, mae Dyfnaint hefyd yn lle gwych i ddilyn prentisiaeth. Os ydych chi’n byw yn ne-orllewin Lloegr, chwiliwch ar Talentview am y cyfleoedd prentisiaethau diweddaraf yn Nyfnaint.

Ble i chwilio am gyfleoedd prentisiaeth

Torquay

A hithau’n dref lan môr hynod, mae Torquay wrth galon Riviera Lloegr, ardal drawiadol o arfordir a chefn gwlad. Nid yw Torquay yn sownd yn y gorffennol, chwaith. Wedi ei disgrifio gan y Guardian fel un o ‘drefi glan môr mwyaf ffyniannus Prydain’, mae’n gartref i fwytai Michelin a marina bywiog sy’n llawn cychod hwylio moethus.

Mae Torquay yn lle gwych i ddilyn prentisiaeth. Gallwch ennill cyflog wrth ddysgu drwy hyfforddi yng Ngholeg De Dyfnaint yn y dref. Mae Coleg De Dyfnaint yn cynnig amrywiaeth o brentisiaethau yn Torquay mewn gwahanol sectorau, ac mae’n gweithio gyda thros 1000 o gyflogwyr ar draws Dyfnaint a thu hwnt.

Newton Abbot

Mae tref farchnad ffyniannus Newton Abbot wedi ei lleoli’n gyfleus yn agos at Torquay a Chaerwysg yn ne’r sir. Mae gan y dref gysylltiadau trafnidiaeth da ac mae’n gartref i nifer o gwmnïau mawr, fel MB Aerospace, Centricacax Industries a’r Pro-Direct Group. Gall prentisiaid sy’n byw yn Newton Abbot ddod o hyd i gyfleoedd drwy wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwyr neu golegau lleol fel Coleg De Dyfnaint.

Barnstaple

Os ydych chi’n chwilio am brentisiaethau yn Barnstaple, y prif ddarparwr yw Petroc, coleg a grëwyd yn 2008 pan unodd Coleg Gogledd Dyfnaint a Choleg Dwyrain Dyfnaint.

Mae Petroc yn cynnig amrywiaeth eang o raglenni prentisiaeth o ansawdd uchel ledled gogledd a dwyrain Dyfnaint, gan ddatblygu sgiliau sy’n benodol i’r diwydiant drwy gyfuniad o hyfforddiant yn y gwaith ac astudio yn yr ystafell ddosbarth, wedi ei gyflwyno gan diwtoriaid cymwysedig ac ymarferwyr profiadol. 

Mae’r coleg yn gweithio gyda 400 o gyflogwyr lleol i ddarparu rhaglenni prentisiaeth llwyddiannus, gan gynnwys uwch-brentisiaethau a phrentisiaethau uwch, mewn amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys Marchnata, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, TG, Adeiladu a Pheirianneg.

Mathau o brentisiaethau yn Nyfnaint

Diwydiannau sy’n cynnig prentisiaethau

Ceir amrywiaeth fawr o gyflogwyr yn Nyfnaint sy’n cynnig cyfle i brentisiaid ddechrau gyrfa newydd. Mae’r diwydiannau’n cynnwys adeiladu, iechyd a gofal cymdeithasol, addysg, peirianneg, gwaith coed, offer morol a marchnata digidol.

Cynlluniau prentisiaeth poblogaidd yn Nyfnaint

Nid dim ond ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael yr ysgol mae prentisiaethau. Os ydych chi o oedran gweithio, gallwch ddilyn prentisiaeth. Un o’r darparwyr prentisiaethau gorau yw Coleg De Dyfnaint, sy’n cynnig rhaglenni mewn meysydd gwaith cyffredinol a mwy arbenigol. Er enghraifft, mae cyfleoedd i hyfforddi fel prentis pysgota môr a pheiriannwr morol, dwy yrfa sydd â chysylltiad annatod â de-orllewin Lloegr.

Gradd-brentisiaethau yn Nyfnaint

Cyflogwyr mewn partneriaeth â phrifysgolion a cholegau sy’n datblygu cymwysterau gradd-brentisiaethau.

Gall gradd-brentisiaethau gymryd hyd at chwe blynedd i’w cwblhau, a bydd angen i chi gael y cymwysterau iawn i ddechrau un. Ond bydd gennych chi’r gorau o’r ddau fyd – swydd â thâl wrth astudio am radd mewn prifysgol. Cynigir gradd-brentisiaethau yn Nyfnaint gan sefydliadau addysgol fel Prifysgol Caerwysg, Prifysgol Plymouth a Choleg De Dyfnaint.

A young female apprentice doing some scaffolding work

Beth yw manteision gwneud prentisiaeth?

Cael profiad ymarferol

Nid oes unrhyw beth i guro’r profiad seiliedig ar waith mae prentisiaid yn ei gael. Fel rhan o brentisiaeth, rydych chi’n treulio 80% o’ch amser yn gweithio i gyflogwr, yn dysgu gan gydweithwyr ac yn ymateb i heriau a sefyllfaoedd bywyd go iawn o ddydd i ddydd.

Cael cymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant

Fel prentis, byddwch yn cael tâl wrth ddysgu, er mwyn i chi allu ennill cymhwyster sy’n benodol i’r diwydiant heb fod angen benthyciad myfyriwr arnoch. Byddwch yn cael eich cyflogi’n amser llawn (rhwng 30 a 40 awr yr wythnos fel arfer), sy’n cynnwys amser a dreulir gyda’ch darparwr hyfforddiant.

Gwella eich cyflogadwyedd

I unrhyw un sydd ar fin gadael yr ysgol, mae prentisiaeth yn ddewis arall delfrydol yn lle Safon Uwch neu fynd i’r brifysgol. Os nad ydych chi’n hoffi’r syniad o astudio’n amser llawn, mae prentisiaeth yn mynd â chi i fyd gwaith ac yn eich galluogi i ennill sgiliau ymarferol mewn swydd. Bydd prentis o unrhyw oedran yn gweld bod cyflogwyr yn gwerthfawrogi’r sgiliau ymarferol y gallwch eu cael o’ch hyfforddiant yn y gwaith. Mae prentisiaethau ar unrhyw lefel yn cael eu parchu’n eang gan fusnesau.

Sut i ddod o hyd i swyddi prentisiaeth yn Nyfnaint

Mae nifer o ffyrdd i ddod o hyd i gyflogwyr yn Nyfnaint sy’n cynnig prentisiaethau. Gallwch ddefnyddio gwefannau fel Talentview, gwneud cais yn uniongyrchol i gyflogwyr, cysylltu â cholegau lleol neu ofyn i ffrindiau neu aelodau o’r teulu a ydynt yn gwybod am brentisiaethau sydd ar gael mewn cwmnïau.

Archwilio cyfleoedd prentisiaethau yn Nyfnaint

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio yn y sector adeiladu, mae swyddi a rhaglenni prentisiaeth ledled Dyfnaint sy’n ddelfrydol i chi eu harchwilio. Chwiliwch ar Talentview ac fe ddewch chi o hyd i amrywiaeth o gyfleoedd, fel Mesur Meintiau, Peirianneg Sifil, Gosod Dur, Toi a Gwaith Plymwr.