Mae gan bob un ohonom atgofion gwych am Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012, gydag Usain Bolt, Mo Farah, Jessica Ennis-Hill, Bradley Wiggins, Jonny Peacock a’r seremoni agoriadol ymhlith yr uchafbwyntiau. Fodd bynnag, roedd adeiladu’r lleoliadau a’r parc Olympaidd yn Nwyrain Llundain yn goblyn o dasg. Pam gafodd y rhan honno o Lundain ei dewis? Faint wnaeth y cyfan ei gostio? Beth ddigwyddodd i’r lleoliadau ar ôl i’r Gemau ddod i ben?

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein canllaw Am Adeiladu i leoliadau Gemau Olympaidd 2012.

Ble mae Stadiwm Olympaidd Llundain?

Yn Stratford, Dwyrain Llundain mae Stadiwm Llundain, sydd hefyd yn cael ei alw’n Stadiwm Olympaidd. Y stadiwm yw'r lleoliad mwyaf ym Mharc Olympaidd y Frenhines Elizabeth, y canolbwynt chwaraeon a adeiladwyd yn benodol ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain 2012.

Pryd ddechreuodd y gwaith adeiladu?

Dechreuodd y gwaith o adeiladu’r stadiwm ym mis Mai 2008. Cafodd y rhan fwyaf o’r lleoliadau eraill yn y Parc Olympaidd eu hadeiladu ar yr un adeg.

Cynllunio Parc Olympaidd y Frenhines Elizabeth

Y broses cynllunio

Roedd sicrhau’r holl ganiatâd cynllunio perthnasol i adeiladu’r parc yn broses gymhleth. Mae’r safle 500 hectar yn croesi ffiniau pedair o wahanol fwrdeistrefi Llundain, ac mae ffyrdd, rheilffyrdd, afonydd, camlesi a pheilonau trydan yn croesi’r safle. Roedd angen gorchymyn prynu gorfodol i adleoli’r 300 o fusnesau a oedd yn defnyddio’r safle, a gwnaed miloedd lawer o geisiadau cynllunio unigol ar gyfer popeth o’r prif leoliadau i agweddau llawer llai ar y safle.

Adfywio’r ardal

Dewiswyd y safle yn Nwyrain Llundain yn benodol oherwydd yr angen i adfywio’r ardal leol. Bwrdeistrefi Newham, Tower Hamlets, Hackney a Waltham Forest oedd rhai o’r rhai mwyaf difreintiedig yn y wlad, ac roedd y safle ei hun yn cael ei alw’n un ‘ôl-ddiwydiannol’. Roedd diwydiant wedi ffynnu yno ar un adeg, ond roedd y cyfnod hwnnw wedi dod i ben ac roedd y safle wedi adfeilio i raddau helaeth, yn beryglus i fynd iddo ac wedi’i halogi â gwastraff diwydiannol.

Mae llawer o bobl yn credu mai’r pwyslais ar adfywio oedd y rheswm y llwyddodd cais Llundain i gynnal y Gemau. Byddai datblygiadau newydd fel tai, seilwaith trafnidiaeth, datblygiadau manwerthu a hamdden a mannau gwyrdd i drigolion lleol.

Sut yr adeiladwyd Gemau Olympaidd Llundain

Cyn adeiladu unrhyw un o’r lleoliadau, bu gwaith clirio enfawr ar y safle. Cafodd 220 o adeiladau eu dymchwel, claddwyd llinellau pŵer o dan y ddaear a chafodd yr ardal gyfan ei dadlygru. Cafodd 30,000 tunnell o laid, graean a sbwriel ei garthu o’r dyfrffyrdd a oedd yn llifo drwy’r safle. Cafodd 90% o’r deunyddiau a oedd dros ben ar ôl y gwaith clirio, dymchwel a chloddio eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu ar y safle.

Y stadiwm athletau

Adeiladwyd y stadiwm gan bartneriaeth rhwng y contractwr Sir Robert McAlpine a’r cwmni dylunio’r stadiymau chwaraeon Populous. Adeiladwyd y stadiwm gyda chyfres o haenau, gyda'r to 70 metr uwchben lefel y ddaear. Roedd yn bosibl cydosod yn gyflym ar y safle drwy folltio cyplau cywasgu a chysylltiadau colofnau to, a oedd yn golygu ei bod yn bosibl datgymalu strwythur y to yn hawdd ar ôl y Gemau.

Y ganolfan chwaraeon dŵr

Cymeradwywyd dyluniad y Ganolfan Chwaraeon Dŵr cyn i gais Llundain i gynnal y Gemau Olympaidd lwyddo. To ar ffurf ton y Ganolfan Chwaraeon Dŵr yw ei nodwedd fwyaf nodedig, ac mae wedi’i leoli gyferbyn â’r Stadiwm Olympaidd. Cafodd ei adeiladu gan y contractwr Balfour Beatty am gost o £269 miliwn.

Y felodrom

Mae’r lleoliad lle cynhaliwyd y digwyddiadau beicio wedi’i leoli ar ochr ogleddol y Parc, yn agos at Ganolfan Hoci a Thenis Dyffryn Lee. Hwn oedd y cyntaf o leoliadau’r Parc i gael ei gwblhau, a chostiodd £105 miliwn i’w adeiladu. Mae’n cael ei alw’n ‘the Pringle’ oherwydd ei do crwm a chafodd ei rhoi ar y rhestr fer ac ennill nifer o wobrau dylunio adeiladau. Erbyn hyn, dyma ganolbwynt Parc Beiciau Dyffryn Lee, sy’n darparu ar gyfer beicio trac a ffordd, BMX a beicio mynydd.

Y trac BMX

Cafodd y digwyddiadau beicio BMX eu cynnal ar drac siwpercros a adeiladwyd ar gyfer y Gemau gan y Contractwyr Clark & Kent, dylunwyr traciau BMX arbenigol. Ar ôl y Gemau, cafodd ei addasu i’w ddefnyddio gan y cyhoedd ac mae bellach yn rhan o’r Parc Beicio.

Beth oedd cost adeiladu’r Parc Olympaidd?

Roedd cost lawn Parc Olympaidd y Frenhines Elizabeth yn fwy nag £1 biliwn.

Pryd agorodd Parc Olympaidd Llundain?

Agorwyd y stadiwm yn swyddogol ar 6 Mai 2012, er na chynhaliwyd y digwyddiadau cyntaf yn y Parc tan i'r Gemau ddechrau, ar 27 Gorffennaf 2012.

Gwaddol Stadiwm Olympaidd Llundain

Roedd gadael gwaddol ar ôl 2012 bob amser yn un o brif amcanion Awdurdod Gweithredu’r Gemau Olympaidd, y corff llywodraethol a oruchwyliodd y gwaith o weithredu’r Gemau. Mae cynllun gwaddol Llundain wedi bod yn fwy llwyddiannus na llawer o ddinasoedd eraill. Llwyddwyd i ailagor holl leoliadau parhaol Parc Olympaidd y Frenhines Elizabeth fel cyfleusterau cyhoeddus, fel y Ganolfan Chwaraeon Dŵr, y Parc Beiciau a’r Copper Box, sydd wedi datblygu i fod yn lleoliad aml-gamp.

Erbyn hyn, y stadiwm ei hun yw cartref parhaol clwb pêl-droed West Ham United sy’n chwarae yn yr Uwchgynghrair. Symudodd y clwb i’r stadiwm yn 2016 o Upton Park ar brydles 99 mlynedd. Costiodd £323 miliwn arall i droi’r stadiwm yn lleoliad amlbwrpas. Mae Stadiwm Llundain hefyd yn cynnal digwyddiadau athletau, cyngherddau a chwaraeon eraill fel rygbi’r undeb, rygbi’r gynghrair a phêl-fas.

Wedi’ch ysbrydoli gan yr hyn rydych chi wedi’i ddarllen? Beth am ddarganfod dros 170 o yrfaoedd adeiladu

Wedi’ch ysbrydoli gan yr hyn rydych chi wedi’i ddarllen? Beth am ddarganfod dros 170 o yrfaoedd adeiladu

Os yw prosiectau neu adeiladau eiconig fel hyn, Stadiwm Wembley neu’r Shard yn eich cyffroi, a’ch bod yn awyddus i ddechrau arni yn y diwydiant adeiladu, mae gan Am Adeiladu wybodaeth am dros 170 o broffiliau swyddi sydd ar gael yn y diwydiant adeiladu.