Drwy gydol hanes, mae pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol wedi cael adeiladau sydd wedi golygu pethau arbennig iddynt, boed mannau addoli, noddfa neu gofnod cyhoeddus.

Wrth i ni ddathlu Mis Hanes Pobl Ddu yma, rydyn ni’n edrych ar nifer o’r adeiladau eiconig hyn.

HQ of the Black Cultural Archives, London
HQ of the Black Cultural Archives, London

Yr Archifau Diwylliannol Du

Sefydlwyd yr Archifau Diwylliannol Du, cartref hanes pobl Ddu Prydain, yn 1981. Agorwyd ei safle presennol, yn 1 Windrush Square, Brixton, yn 2014 gan Dywysog Cymru ar y pryd.

Ei nod yw casglu, cadw a dathlu hanes pobl o dras Affricanaidd a Charibïaidd yn y DU. Mae’r Archifau Diwylliannol Du yn cynnal arddangosfeydd oriel, rhaglenni addysgol a digwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd, ac mae’n llais sefydliadol blaenllaw ar gyfer y genhedlaeth Windrush. Dywedodd y cyd-sylfaenydd, yr addysgwr a'r hanesydd Len Garrison, hyn ar y pryd: “Rydyn ni angen ein harchifau ein hunain lle gellir casglu ynghyd gweithredoedd a chyflawniadau pwysig y gorffennol, sydd bellach wedi’u gwasgaru neu wedi’u gwthio i ymylon hanes Ewrop; lle mae ffeithiau sydd bellach yn cael eu cyflwyno fel rhai negyddol, a’u hailgyflwyno o’n safbwynt ni, fel ffactorau cadarnhaol yn ein rhyddhad.” 

 

Amgueddfa a Chanolfan Addysg DuSable ar gyfer Hanes Pobl Ddu

Agorodd y DuSable yn 1961. Yr enw gwreiddiol oedd Amgueddfa Ddu Hanes a Chelf Negro, ac yna Amgueddfa Hanes Affricanaidd-Americanaidd DuSable. Dyma’r amgueddfa gyntaf o’i math yn yr Unol Daleithiau i ddathlu diwylliant Du, ar adeg pan oedd yr ymgyrch Hawliau Sifil yn ei hanterth. Roedd sylfaenwyr yr amgueddfa, Dr. Margaret Taylor Burroughs a’i gŵr Charles, am gynyddu’r ymwybyddiaeth o hanes, diwylliant a chelf pobl Ddu yn America.

Dros gyfnod o fwy na 60 mlynedd, mae’r amgueddfa wedi croesawu miliynau o ymwelwyr i’w safle ym Mharc Washington yn Chicago ac mae’n ymfalchïo mewn arddangosfeydd pwerus ac arloesol am brofiad pobl Affricanaidd-Americanaidd yn yr Unol Daleithiau. Mae’r DuSable yn parhau i fod yn ‘esiampl o gryfder ac yn noddfa rheswm’ mewn gwlad lle mae rhaniad dwys o hyd.

 

Mosg Al-Aqsa

Mae Mosg Al-Aqsa yn Jerwsalem yn un o’r safleoedd mwyaf sanctaidd yn y ffydd Islamaidd. Mae’r mosg wedi’i leoli wrth ymyl Cromen y Graig (Dome of the Rock), y mae ei chromen aur yn adnabyddadwy ar unwaith. Mae wedi sefyll ar sgwâr Bryn y Deml ers y 7fed neu’r 8fed ganrif. Fe’i gelwir yn ‘Al-Haram al-Sharif’ (y Noddfa Aruchel) ac mae’n nodi’r man lle mae Mwslimiaid yn credu bod y proffwyd Muhammad wedi esgyn i’r nefoedd. Mae’r mosg wedi cael ei ailadeiladu sawl gwaith yn ystod ei hanes, gan ddioddef effeithiau rhyfel, tân a daeargrynfeydd.

Yn y cyfnod modern, mae’r mosg unwaith eto wedi dod yn ganolbwynt tensiwn rhwng pobl o wahanol grefyddau. Ar ôl i Israel gyfeddiannu Dwyrain Jerwsalem yn 1967, roedd Adeiladau’r Sgwâr yn destun tensiynau rhwng Palesteina ac Israel, gyda Mwslimiaid ac Iddewon yn gwrthdaro dros yr hawl i addoli yno. Mae Al-Aqsa’n edrych dros Wal y Gorllewin, safle Iddewig sanctaidd, ac er mai dim ond y rhai o’r ffydd Fwslimaidd sy’n cael addoli ar Fryn y Deml ei hun, mae’r rheolau hyn yn cael eu diystyru mwy a mwy.

 

Harmandir Sahib

Harmandir Sahib, India
Harmandir Sahib, India

Harmandir Sahib, neu’r Deml Aur, yw'r safle mwyaf arwyddocaol y ffydd Sikhaidd. Mae wedi’i lleoli yn ninas Amritsar yng ngogledd-orllewin India ac mae’n un o’r adeiladau enwocaf ar isgyfandir India. Efallai mai dim ond y Taj Mahal sy’n fwy adnabyddus.

Cafodd ei hadeiladu gan Arjan, y pumed Guru Sikhaidd, ar ddechrau’r 17eg ganrif. Mae’r deml wedi cael ei dinistrio a’i hailadeiladu sawl gwaith, ac adeiladwyd yr adeilad y mae pobl yn ymweld ag ef heddiw yn y 1830au gan Maharaja Ranjit Singh. Dyma pryd cafodd y tu allan ei orchuddio â dalen aur. Ei nodweddion nodedig eraill yw’r llyn a wnaed gan ddyn lle mae’n eistedd, o’r enw ‘Y Pwll Neithdar’, a’r pedair  mynedfa agored, sy’n dangos ei fod yn fan addoli i bobl o bob ffydd. Mae Harmandir Sahib, sy’n golygu ‘Tŷ Duw’, yn un o sawl adeilad sy’n ganolog i fywyd Sikhaidd.

 

Gurdwara Sri Guru Singh Sabha

Y Gurdwara Sri Guru Singh Sabha yn Southall yw'r deml Sikhaidd fwyaf yn Llundain. Agorodd yn 2003. Mae ‘Gurdwara’ yn golygu man addoli a chynull. Pan gyrhaeddodd Sikhiaid o India Southall yn y 1950au, roeddent yn addoli yng nghartrefi pobl ac mewn canolfan gymunedol i ddechrau, cyn symud i safle pwrpasol yn y 1960au. Prynwyd safle Havelock Road yn 1997 a dechreuodd y gwaith adeiladu ar y Gurdwara presennol yn 2000.

Agorwyd yr adeilad, sydd wedi’i addurno’n helaeth, gan Dywysog Cymru ac mae prif weinidogion, Archesgob Caergaint ac arweinwyr pleidiau gwleidyddol wedi bod yno’n ymweld. Gurdwara Sri Guru Singh Sabha yw'r sefydliad Sikhaidd mwyaf y tu allan i India ac mae bod yn rhan allweddol o wella hawliau Sikhiaid yn y DU. Yr adeilad Gurdwara yn Southall yw canolbwynt y gymuned leol, a hynny i Sikhiaid a phobl eraill, ac mae’r gegin yn darparu bwyd am ddim i bobl leol a gall weini hyd at 20,000 o brydau bwyd yr wythnos.

 

Pentrefi Nubian

The Nubian villages, Egypt
The Nubian villages, Egypt

Mae pobl Nubian yn tarddu o'r hyn sydd bellach yn Sudan ac maen nhw wedi ymgartrefu yn ne'r Aifft yn bennaf. Mae eu pensaernïaeth yn anhygoel o nodedig. Mae tai sydd â ffasadau stwco lliwgar yn cael eu haddurno â symbolau a lluniau, sy’n aml yn gysylltiedig â’u perchnogion neu eu ffordd o fyw. Mae coed palmwydd a chrocodeiliaid yn fotiffau cyffredin. Mae’r pentrefi Nubian enwocaf ar lannau’r Nîl ger Aswan yn yr Aifft. Mae’r tai yma’n ddiymhongar ond yn amrywiol iawn o ran lliw ac addurn. Dydych chi ddim wedi gweld unrhyw beth tebyg!

Mae rhai yn lliwiau’r enfys i gyd; mae gan eraill liwiau mwy meddal a chyffyrddiadau o liw. Mae'r bobl Nubian wedi cadw eu traddodiadau a’u diwylliant yn fyw drwy eu hadeiladau lliwgar, ac er eu bod yn amddiffynnol iawn o’u harferion a’u hiaith, maen nhw’n croesawu ymwelwyr a thwristiaid. Dylai unrhyw un sy’n ymweld â’r Aifft geisio mynd ar daith gwch i lawr y Nîl i weld pentrefi Nubian.

Dysgwch fwy am amrywiaeth ethnig ym maes adeiladu heddiw