Mae’r byd adeiladu’n cynnig llawer o wahanol rolau, ond os nad oeddech chi wedi dechrau yn y diwydiant, efallai eich bod yn teimlo nad yw’n addas i chi. Fodd bynnag, efallai eich bod wedi datblygu sgiliau mewn gyrfa arall, hyfforddiant mewn diwydiant tebyg, neu hyd yn oed yn yr ysgol neu'r coleg a all eich helpu i gael eich swydd ddelfrydol ym maes adeiladu.  

Beth yw sgiliau trosglwyddadwy?

Mae sgil trosglwyddadwy yn un y gallwch ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o swyddi. Yn wahanol i sgiliau penodol y gallech eu defnyddio ar gyfer un rôl yn unig, e.e. offer a ddefnyddir gan drydanwr, mae sgiliau trosglwyddadwy ychydig yn fwy cyffredinol, ac yn golygu eich bod yn gallu eu defnyddio mewn unrhyw rôl bron, ar draws llawer o ddiwydiannau. 

Y 10 prif sgil trosglwyddadwy

Pam mae sgiliau trosglwyddadwy yn bwysig?

Mae sgiliau trosglwyddadwy yn bwysig am eu bod yn arwain at lawer o bosibiliadau yn eich gyrfa. Mae sgiliau penodol sy’n eich galluogi i arbenigo mewn maes penodol yn wych ac yn angenrheidiol, ond gallant olygu y byddai angen i chi ailhyfforddi ar gyfer rôl wahanol, neu efallai y byddai’n rhaid i chi ymgymryd ag astudiaeth neu hyfforddiant ychwanegol i wella sgiliau mwy trosglwyddadwy, a all gymryd amser ac arian.

Enghreifftiau o sgiliau trosglwyddadwy y gallwch eu defnyddio mewn gyrfa adeiladu

Arweinyddiaeth

Mae sgiliau arweinyddiaeth trosglwyddadwy yn cynnwys y canlynol:  

  • Gallu i gefnogi’r bobl rydych chi’n eu harwain  
  • Cysondeb  
  • Cymeriad digynnwrf, yn enwedig o dan bwysau
  • Diplomyddiaeth
  • Sgiliau trafod. 

Gallwch ddysgu, neu gael hyfforddiant yn y sgiliau hyn mewn unrhyw rôl bron, a mynd â nhw gyda chi er mwyn rheoli timau, arwain ar brosiect adeiladu, neu gefnogi eich tîm yn gyson i gyflawni’r gwaith. 

Rheoli amser

Mae bod yn brydlon a gallu glynu wrth gynllun ar gyfer cyflawni gwaith yn hanfodol yn y diwydiant adeiladu, gan fod yn rhaid i brosiectau gadw at amserlen gaeth yn aml.  

Mae dod i’r gwaith yn brydlon bob dydd yn ddechrau da, ond dylech hefyd ystyried eich gallu i gynllunio a chyflawni gwaith o fewn amserlen, gan y byddai hyn yn hanfodol ar gyfer prosiect adeiladu. Bydd pobl yn gwybod eich bod yn ddibynadwy ac y gellir ymddiried ynoch.  

Sgiliau technolegol

Gall defnyddio technoleg neu feddalwedd ymddangos yn dasg anodd i rai pobl, ond mae’n syniad da bod yn ymwybodol o’r hanfodion. Does dim angen i chi fod yn arbenigwr Excel, ond mae gwybod sut i osod taenlen sylfaenol yn debygol o’ch helpu chi i weithio mewn unrhyw swyddfa, yn ogystal â deall hanfodion Microsoft, Adobe, neu feddalwedd dylunio os ydych chi’n bwriadu mynd i rôl sy’n gofyn am greadigrwydd a gwybodaeth dechnegol. 

Sgiliau cyfathrebu

Mae cyfathrebu’n allweddol i bob rôl. Rydych yn debygol o weithio fel rhan o dîm yn y maes adeiladu, a byddwch hefyd yn gweithio gyda llawer o dimau eraill i gyflawni nod cyffredin. Felly, os ydych chi’n gwybod sut i fynegi’r hyn sydd ei angen arnoch a bod gennych empathi i allu cyd-dynnu â phobl o bob cefndir, bydd yn gwneud eich swydd yn llawer iawn haws. Mae cyfathrebu hefyd yn ymestyn i e-bost a ffôn, felly defnyddiwch gwrteisi ar gyfer y ddau. Os nad ydych yn siŵr, mae ymddygiad o'r fath yn mynd yn bell.  

Sgiliau ymchwil a dadansoddi

Mae’r diwydiant adeiladu bob amser yn datblygu ac yn newid, felly mae’r gallu i ymchwilio i ddulliau, technegau a thechnoleg newydd yn ddefnyddiol. Mae dadansoddi yn golygu edrych ar bethau o gymaint o wahanol ffyrdd â phosibl, yn ogystal â gallu dangos i bobl y pethau rydych chi wedi’u darganfod er budd gwaith pawb.  

Datrys problemau

Mae heriau ym mhob swydd, felly mae datrys problemau yn sgil allweddol. Nid yn unig mae’n golygu dod o hyd i’r ateb cywir, ond hefyd peidio â chynhyrfu wrth geisio datrys pethau a bod yn barod i ddysgu gan eraill hefyd. Os gallwch chi feddwl yn greadigol, bydd prosiectau adeiladu yn eich cyffroi am eu bod yn aml yn cynnig atebion i broblemau tai neu seilwaith i’r bobl a fydd yn eu defnyddio. 

Sgiliau trefnu

Mae cadw trefn ar bethau yn eich helpu i reoli eich llwyth gwaith a mwynhau eich swydd. Ym maes adeiladu, efallai y byddwch yn delio â nifer o dasgau ar unwaith, felly bydd angen i chi gael cynllun a chadw at derfynau amser er mwyn osgoi straen. 

Gweithio mewn tîm

Pa un a ydych chi’n brentis neu’n rheolwr, rydych chi’n rhan o dîm. Efallai eich bod yn mwynhau gweithio ar eich pen eich hun, ond bydd adegau mewn unrhyw swydd lle bydd angen i chi weithio gyda phobl eraill. Bydd rhannu tasgau a helpu eraill i gyflawni nod cyffredin yn eich helpu i sicrhau bod eich sgiliau gwaith tîm yn cyrraedd y safon.  

Ymwybyddiaeth fasnachol

Mewn unrhyw ddiwydiant, bydd deall sut mae hwnnw a’ch busnes yn gweithredu ac yn gwneud elw yn eich helpu i ddatblygu prosiectau sy’n addas i’r diben ac sy’n llwyddiannus. Mae cadw golwg ar dueddiadau a gwaith cystadleuwyr yn rhan o ymwybyddiaeth fasnachol, felly cadwch olwg ar newyddion a digwyddiadau’r diwydiant adeiladu drwy eu dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol.   

Sgiliau clercyddol

Mae cofnodi data, cyfathrebu, cyflogi a threfnu apwyntiadau i gyd yn enghreifftiau o sgiliau clercyddol. Maen nhw’n gymysgedd o sgiliau cyfathrebu, rheoli amser a thechnoleg, ac maen nhw’n ddefnyddiol i’w cael mewn unrhyw rôl. Yn y maes adeiladu, byddant yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer rolau mewn swyddfa. 

Rhagor o wybodaeth am drosglwyddo eich sgiliau i'r maes adeiladu

O’r newyddion diweddaraf yn y diwydiant adeiladu, i sut mae adeiladu’n gweithio, mae gennym ddigon o wybodaeth i chi am yrfaoedd ym maes adeiladu.   

Neu, os ydych chi’n barod i ddechrau chwilio am swyddi ar unwaith, ewch i ganlyniadau chwilio indeed.com am swyddi adeiladu neu Gyngor Arwain y Diwydiant Adeiladu (CLC) i ddod o hyd i gyfleoedd newydd cyffrous ar draws y diwydiant. 

Ddim yn siŵr pa rôl sy'n addas i chi? Cymrwch olwg arnyn nhw i gyd yma i gael gwybod mwy. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ein dilyn ar FacebookTwitterInstagram, a YouTube