Dewch i chwalu rhai mythau am y diwydiant adeiladu!

Mae’r diwydiant adeiladu’n esblygu, ac nid yw llawer o’r canfyddiadau cyffredin am weithio yn y sector yn berthnasol heddiw.

Mae gweithio ym maes adeiladu yn beryglus ac yn ddrwg i’ch iechyd.

Buster

Diwydiant adeiladu’r DU yw’r un mwyaf diogel yn Ewrop. Mae gan bawb ran i’w chwarae o ran cymryd cyfrifoldeb dros iechyd a diogelwch.

Iechyd a diogelwch pawb yw’r flaenoriaeth bwysicaf bob amser. Mae sŵn, llwch, baw a deunyddiau peryglus i gyd yn cael eu rheoli’n ofalus gan systemau gweithio diogel, arwyddion diogelwch ac asesiadau risg.

Bydd angen hyfforddiant iechyd a diogelwch ar gyfer y rhan fwyaf o swyddi ym maes adeiladu. Er enghraifft, rhaid i unrhyw un sy'n mynd ar safle adeiladu 'byw' gael sesiwn gynefino iechyd a diogelwch, ac mae hyn yn cynnwys ymwelwyr.

Mae gweithio ym maes adeiladu yn golygu gwneud gwaith ymarferol, gan weithio allan yn yr oerni.

Buster

Gall amrywiaeth eang o yrfaoedd ym maes adeiladu gynnwys gweithio mewn amrywiaeth eang o wahanol leoliadau a mannau gwaith, gan gynnwys safle adeiladu ‘byw’, swyddfa, gweithdy neu weithio gartref.


Mae cannoedd o yrfaoedd ym maes Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig yn ymwneud â dylunio, rheoli a pheirianneg, ac nid ydynt yn golygu baeddu eich dwylo.

Mae adeiladu’n ddiwydiant budr sy’n ddrwg i’r amgylchedd.

Buster

Mae llawer o yrfaoedd adeiladu yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd a thechnolegau gwyrdd, gan sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei ddiogelu yn ystod y broses adeiladu.


Gall adeiladau modern gael effaith gadarnhaol ar y cymunedau sy’n eu defnyddio. Er enghraifft, gallai stad dai newydd gynnwys campfa gymunedol mewn maes chwarae y gall holl breswylwyr yr ystâd dai ei defnyddio.


Mae llawer o ystyriaethau ynghlwm wrth ddylunio adeilad newydd, gan gynnwys defnydd ynni, defnydd o ddeunyddiau niweidiol, ecoleg, llygredd, rheoli gwastraff a rheoli dŵr. Er enghraifft, defnyddio paneli solar i leihau biliau ynni neu bont ar draws traffordd newydd, er mwyn caniatáu i fywyd gwyllt fel draenogod a moch daear groesi’n ddiogel.

“Swyddi i fechgyn” yw adeiladu.

Buster

Mae dros 320,000 o ferched yn gweithio ym maes adeiladu yn y DU.

Mae merched sy’n gweithio ym maes adeiladu yn cael eu cyflogi mewn llawer o rolau diddorol ac amrywiol, gan gynnwys peirianwyr sifil (12% o’r holl beirianwyr sifil) a phenseiri (18% o’r holl benseiri).

Mae 92% o’r holl ferched yn y diwydiant adeiladu yn gweithio mewn gyrfaoedd proffesiynol, er enghraifft penseiri, peirianwyr sifil a syrfewyr meintiau.

Mae gweithwyr adeiladu i gyd yn chwibanu ar ôl merched sy’n cerdded heibio.

Buster

Dydyn ni ddim yn ddiwydiant o ddinosoriaid bellach! Mae safleoedd adeiladu modern yn annog pawb i ymddwyn yn barchus a thrin pawb yn deg. Os bydd unrhyw un yn ymddwyn mewn ffordd amhriodol, er enghraifft, yn chwibanu ar ôl merched, bydd llawer o gwmnïau adeiladu’n delio â hyn o ddifrif. 

Mae adeiladwyr twyllodrus yn dominyddu’r diwydiant.

Buster

Gall contractau adeiladu cyhoeddus a phreifat fod yn werth biliynau o bunnoedd. Does dim yn dwyllodrus am hynny!

Bydd cwmnïau bach cyfrifol yn cofrestru gyda ffederasiynau a chymdeithasau fel checkatrade.com, Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr, Ffederasiwn Cenedlaethol yr Adeiladwyr sydd â meini prawf aelodaeth llym ac yn asesu ansawdd gwaith eu haelodau.

Fe wnes i’n dda yn yr ysgol, felly nid yw adeiladu’n addas i mi.

Buster

Mae’r diwydiant adeiladu yn cynnig llawer o gyfleoedd gyrfa sy’n talu’n dda i bobl lwyddiannus sydd wedi cael addysg hyd at lefel gradd. Ar ôl i chi gael eich gradd, mae gan lawer o gyflogwyr raglen gydnabyddedig ar gyfer datblygu graddedigion.

Mae llawer o gyflogwyr adeiladu yn noddi israddedigion tra maent yn ennill gradd, felly gallwch chi ennill cyflog wrth ddysgu!

Mae angen lefelau uchel o sgiliau a gallu i reoli prosiect adeiladu gwerth miliynau o bunnoedd neu fusnes adeiladu.

Mae safleoedd adeiladu yn amharu ar gymunedau lleol.

Buster

Mae prosiectau adeiladu yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i’n cymunedau a’r ffordd rydyn ni’n byw, boed yn ysbyty, ysgol, ffordd neu bont newydd.

Mae’r ‘Cynllun Adeiladwyr Ystyriol’ yn sicrhau bod gan gwmnïau adeiladu sy’n gweithio mewn cymunedau ymrwymiad i’r trigolion lleol. Er enghraifft, caniatáu i drigolion lleol ymweld â'r safle adeiladu neu adnewyddu gardd gymunedol leol.

Mae llawer o gwmnïau adeiladu yn cyflogi staff ‘Cyswllt Cymunedol’ sydd â’r dasg o fynd i’r afael â phryderon y gymuned cyn ac yn ystod y broses o adeiladu mewn prosiect adeiladu.

Mae swyddogion cynllunio’r Cyngor lleol yn ystyried unrhyw darfu ar y gymuned leol cyn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer prosiect.

Mae adeiladu yn ddiwydiant hen ffasiwn a thraddodiadol iawn.

Buster

Mae adeiladu modern yn datblygu ac yn defnyddio ychydig o’r dechnoleg ddiweddaraf gan gynnwys Modelu Gwybodaeth am Adeiladau (BIM), Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur (CAD) a hyd yn oed nanotechnoleg. 

Mae dulliau a deunyddiau adeiladu newydd yn datblygu’n barhaus; er bod dulliau adeiladu traddodiadol (sgiliau treftadaeth) yn hanfodol er mwyn cynnal adeiladau hŷn a allai fod yn rhestredig. Mae’r sgiliau treftadaeth hyn yn arbenigol iawn ac mae angen llawer o hyfforddiant i’w datblygu. 

Mae disgwyl i hyd yn oed hen adeiladau hanesyddol gyrraedd targedau newydd ar gyfer carbon isel a lleihau gwastraff. Felly mae cynnal estheteg adeilad a sicrhau eu bod yn cyrraedd safonau modern yn dipyn o dasg!

Dim ond y bobl sy’n gweithio neu’n buddsoddi ym maes adeiladu sy’n elwa ohono.

Buster

Mae cymdeithas yn elwa o adeiladu gan ei fod yn adeiladu seilwaith i: gyflenwi dŵr glân, rheoli gwastraff, systemau atal llifogydd a gwell systemau trafnidiaeth.

Mae’r diwydiant adeiladu’n rhoi lle i bob un ohonom fyw, gweithio a mwynhau gweithgareddau hamdden.

Mae prentisiaethau adeiladu ond yn cynnig potensial cyfyngedig ar gyfer gyrfa.

Buster

Dechreuodd llawer o reolwyr adeiladu a gweithwyr adeiladu proffesiynol eraill eu gyrfaoedd fel prentisiaid.

Gall prentisiaethau fod yn llwybr i Addysg Uwch neu Brifysgolion.

Gallwch astudio Prentisiaethau Uwch neu Radd-brentisiaethau. Efallai y bydd rhai cwmnïau hyd yn oed yn talu'r ffioedd dysgu! 

Mae prentisiaethau’n ffordd wych o ddechrau arni yn y diwydiant os ydych chi eisiau ennill cyflog wrth ddysgu.