Rwy’n cynllunio, rheoli ac yn rhoi'r broses BIM ar waith er mwyn cyflawni amcanion y cleientiaid.

Mae cymaint o gyfleoedd ym maes adeiladu a byddwch bob amser yn cael eich gwobrwyo am waith caled, beth bynnag fo’ch oed.

Case study
Category Information
Lleoliad Essex
Cyflogwr BAM Construction

I ba gwmni ydych chi’n gweithio a beth maen nhw’n ei wneud?

Rwy’n gweithio i BAM Construction, sef contractwr sy’n arbenigo mewn dylunio ac adeiladu, ailwampio a rheoli cyfleusterau. Ni ydy cangen y DU o grŵp y Royal BAM. 

Rydw i wir yn mwynhau amrywiaeth y swydd. Bydd y broses BIM yn debyg ym mhob prosiect yn y pen draw, ond ar hyn o bryd mae pob un yn dod â’i heriau ei hun gyda phroblemau rydw i’n cael eu datrys bob dydd.

Ryan Donoghue

Cydlynydd BIM

Sut wnaethoch chi fynd i’r maes adeiladu?

Cymerais ran mewn rhaglen ddatblygu i ddisgyblion sy’n gadael yr ysgol a oedd yn cynnwys astudiaethau prifysgol gyda diwrnod astudio er mwyn i mi allu cwblhau fy HNC mewn Peirianneg Sifil. Ar ôl i mi gwblhau fy HNC, penderfynais beidio â pharhau ym myd addysg, ond oherwydd y profiad ymarferol roeddwn wedi’i gael llwyddais i gael swydd.


Dywedwch ychydig yn fwy wrthym ni am yr hyn rydych chi’n ei wneud.

Mae BIM yn broses ar gyfer rheoli gwybodaeth drwy gydol oes ased adeiledig, a gyflwynwyd gan y llywodraeth i wneud y diwydiant yn fwy effeithlon. Rwy’n cynllunio, rheoli ac yn rhoi’r broses hon ar waith er mwyn cyflawni amcanion ein cleientiaid.

Mae fy rôl yn amrywio o waith papur i rith-wirionedd, rwy’n cael rhoi cyflwyniadau a hyfforddiant yn ogystal â chwrdd ag amrywiaeth o bobl o wahanol ddisgyblaethau a sectorau. 


Beth ydych chi wrth eich bodd yn ei wneud yn eich swydd?

Rydw i wir yn mwynhau amrywiaeth y swydd. Bydd y broses BIM yn debyg ym mhob prosiect yn y pen draw, ond ar hyn o bryd mae pob un yn dod â’i heriau ei hun gyda phroblemau rydw i’n cael eu datrys bob dydd.

Mae bob dydd yn wahanol, ond mae dod o hyd i ateb i broblem, neu ddatrys problem, sydd wedi bod yn fy mhoeni ers tipyn bob amser yn deimlad braf. Rydw i hefyd yn mwynhau’r teimlad pan fyddwch chi’n rhoi cyflwyniad da, a chan fy mod yn gweithio yn Llundain, mae’n golygu fy mod i’n cael bod yn ymwelydd bob dydd.


Ble hoffech chi i’ch gyrfa fynd â chi?

Wrth i BIM ddod yn fwy integredig yn y broses adeiladu, gallaf weld y bydd fy rôl yn dod yn llai technegol ac yn fwy rheolaethol ei natur. Yn y tymor byr, hoffwn symud i faes rheoli llinell, ac yn y tymor hwy hoffwn symud i rôl uwch reoli. 


Unrhyw gyngor i rywun sy'n meddwl am yrfa yn y diwydiant adeiladu?

Mae adeiladu yn ddiwydiant gwerth chweil i weithio ynddo ac mae cyfleoedd gwych, potensial gwych i ennill cyflog a galw ar draws y byd. Mae’r amrywiaeth o rolau yn enfawr felly treuliwch amser yn ystyried beth rydych chi’n ei fwynhau. Mae’r amrywiaeth o gyfleoedd lefel mynediad wedi cynyddu ers i mi adael yr ysgol yn 2012.

Pan oeddwn yn yr ysgol, doedd gen i ddim syniad beth roeddwn i eisiau ei wneud, ond roedd y pynciau roeddwn i’n eu mwynhau wedi fy arwain at beirianneg, felly dyna beth y penderfynais ei wneud. Treuliais 18 mis yn gweithio fel peiriannydd safle cyn i mi gael cynnig cyfle ym maes BIM. Erbyn hyn, rydw i mewn swydd nad oeddwn i hyd yn oed yn gwybod ei bod yn bodoli, gyda mwy o gyfrifoldebau a chyfleoedd nag y gallwn fod wedi’u dychmygu. Mae cymaint o gyfleoedd ym maes adeiladu a byddwch bob amser yn cael eich gwobrwyo am waith caled, beth bynnag fo’ch oed.