Fel hyfforddai rheoli, mae fy rôl yn golygu fy mod yn treulio amser mewn gwahanol adrannau ar hyn o bryd fel rhan o gynllun cylchdroi swyddi. Mae hyn yn fy mharatoi i fod yn rheolwr adeiladu mwy craff a phrofiadol.

Yn fy ngwaith o ddydd i ddydd rwy’n cynorthwyo fy rheolwr llinell gyda thasgau y mae angen eu cwblhau o fewn terfynau amser penodol. Rwy’n manteisio ar unrhyw gyfle posibl i ddysgu ac ymchwilio i feysydd adeiladu. Gan fy mod yn gweithio’n agos gydag uwch reolwyr, mae’n amgylchedd dysgu strwythuredig dan arweiniad, sy’n helpu gyda sgiliau rheoli.

Byddwch yn barod i weithio’n galed ac ymdrechu am fwy a byddwch yn mwynhau gyrfa werth chweil yn y diwydiant adeiladu.

Case study
Category Information
Lleoliad Y D.U.
Cyflogwr Willmott Dixon

I ba gwmni ydych chi’n gweithio a beth maen nhw’n ei wneud?

Rwy’n gweithio i Willmott Dixon Ltd, sef cwmni adeiladu, tai a gwasanaethau eiddo sy’n cyflawni prosiectau o’r cam dylunio hyd nes eu bod yn cael eu cwblhau. 

Rydw i wedi sylweddoli bod dal ati â’r hyn roeddwn eisiau wedi arwain at yrfa, rhywbeth rydw i wedi gweithio’n galed amdani a rhywbeth rydw i’n falch ohoni.

Darryn Skinner

Hyfforddai Rheoli Adeiladu

Sut wnaethoch chi fynd i’r maes adeiladu?

Ar ôl gorffen yn yr ysgol uwchradd, es ymlaen i goleg cymunedol 6ed dosbarth i gwblhau fy arholiadau Safon Uwch. Yna es i’r brifysgol ac ennill Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) mewn Gwneud Arolwg o Adeiladau. Ar ôl cwblhau’r cwrs, penderfynais gael swydd amser llawn a gohirio fy astudiaethau.

Pan ymunais â Willmott Dixon, cefais gyfle i barhau â'm hastudiaethau'n rhan-amser ochr yn ochr â gweithio drwy'r Cynllun i Hyfforddeion Rheoli. Byddaf yn graddio eleni gyda’m Gradd Anrhydedd mewn Rheoli Adeiladu.


Dywedwch ychydig yn fwy wrthym ni am yr hyn rydych chi’n ei wneud. 

Fel hyfforddai rheoli, mae fy rôl yn golygu fy mod yn treulio amser mewn gwahanol adrannau ar hyn o bryd fel rhan o gynllun cylchdroi swyddi. Mae hyn yn fy mharatoi i fod yn rheolwr adeiladu mwy craff a phrofiadol. Yn fy ngwaith o ddydd i ddydd rwy’n cynorthwyo fy rheolwr llinell gyda thasgau y mae angen eu cwblhau o fewn terfynau amser penodol. Rwy’n manteisio ar unrhyw gyfle posibl i ddysgu ac ymchwilio i feysydd adeiladu. Gan fy mod yn gweithio’n agos gydag uwch reolwyr, mae’n amgylchedd dysgu strwythuredig dan arweiniad, sy’n helpu gyda sgiliau rheoli. 


Beth yw eich hoff beth am eich swydd? 

Fy hoff ran o’r swydd yw eich bod yn gallu dysgu rhywbeth newydd bob dydd oherwydd yr amrywiaeth o waith rwy’n ei wneud a’r heriau sy’n gysylltiedig â gweithio ym maes adeiladu. 


Beth yw uchafbwynt eich diwrnod?

Pan fydda i’n gallu ystyried yr hyn rydw i wedi’i ddysgu yn y gwaith, rwy’n gallu gwerthfawrogi’r wybodaeth a’r profiadau rydw i wedi’u cael, ac mae hynny’n rhywbeth rydw i’n falch iawn ohono. 


Ble hoffech chi i’ch gyrfa fynd â chi?

Rydw i eisiau bod yn siartredig ar ôl cwblhau fy ngradd a chael statws MCIOB (Aelod o’r Sefydliad Siartredig Adeiladu). Rydw i eisiau symud ymlaen i Reoli Dylunio ar ôl cwblhau fy nghynllun i hyfforddeion rheoli.


Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried gyrfa ym maes adeiladu?

Byddwn i’n dweud byddwch yn barod amdani. Byddwch yn barod i weithio’n galed ac ymdrechu am fwy a byddwch yn mwynhau gyrfa werth chweil yn y diwydiant adeiladu.

Pe bai rhywun yn gallu cymryd unrhyw beth o’m stori, byddwn yn dweud ei fod yn dangos fy mhenderfyniad, fy nghred a'm parodrwydd i weithio yn y diwydiant adeiladu. Rwy’n mwynhau fy rôl yn arw ac yn teimlo’i bod yn ddifyr. Roedd angen chwilio llawer a gwneud cryn ymdrech i ddod o hyd i’r cyfle iawn i mi, felly rydw i wedi sylweddoli bod dal ati â’r hyn roeddwn eisiau wedi arwain at yrfa yn Willmott Dixon, rhywbeth rydw i wedi gweithio’n galed amdani a rhywbeth rydw i’n falch ohoni.