Rydw i’n gweithio fel Prentis Briciwr i Seddon Construction, ac rydw i ar drydedd flwyddyn fy mhrentisiaeth erbyn hyn. 

Mae Seddon yn gwmni adeiladu sydd wedi rhychwantu pum cenhedlaeth o’r teulu Seddon, gyda phedair swyddfa ranbarthol ledled y DU. 

Rydw i’n gallu tynnu sylw ffrindiau a theulu at adeiladau rydw i wedi gweithio arnynt yn yr ardal a brolio ychydig!

Case study
Category Information
Lleoliad Tameside
Cyflogwr Seddon Construction

Beth mae eich rôl yn ei olygu?

Rydw i’n brentis briciwr – asgwrn cefn y diwydiant a’r grefft mae pawb yn meddwl amdani pan fyddwch chi’n dweud ‘adeiladu’. Ond mae’n llawer mwy amrywiol nag mae’n swnio. Mae pob prosiect yn unigryw ac rwyf wedi bod yn ffodus i brofi llwyth o wahanol gynlluniau, o adeiladu ysgolion i ddatblygiadau tai. Nawr, yn fy mlwyddyn olaf fel prentis gyda Seddon, rwy’n ddiolchgar am yr holl brofiad hwnnw a’r mentora o’r radd flaenaf rwyf wedi’i gael yn ystod fy nghyfnod.

Rydw i wedi mynd o wybod dim bron i feistroli fy nghrefft – ac mi wnes i hyd yn oed ddod yn gyntaf yng nghystadleuaeth Adeiladu Sgiliau Gogledd Orllewin Lloegr, gan sicrhau lle yn y rowndiau terfynol cenedlaethol. 

Os oes eisoes gennych chi ddiddordeb mewn adeiladu neu os ydych chi eisiau dysgu mwy, yna gwnewch hynny, rwy’n siŵr y byddwch chi’n mwynhau cymaint ag rydw i’n ei wneud.

Jake Horoszczak

Prentis Briciwr

Beth ydych chi’n ei hoffi am eich swydd? 

Y peth gorau am fod yn brentis briciwr yw fy mod yn ei fwynhau! Dydi gorfod codi yn y bore i fynd i’r gwaith ddim yn fy mhoeni o gwbl. A dweud y gwir, rydw i’n edrych ymlaen yn arw i wisgo’r gêr a mynd i’r safle i wneud yr hyn rydw i’n ei garu fwyaf. Rhywbeth arall rwy’n ei hoffi am fy swydd yw gweld canlyniad y gwaith caled. Mae’n werth chweil gweld rhywbeth rydych chi wedi cyfrannu ato, fel talcen tŷ, ar ôl iddo gael ei gwblhau. Rydw i’n gallu tynnu sylw ffrindiau a theulu at adeiladau rydw i wedi gweithio arnynt yn yr ardal a brolio ychydig! 


Sut beth yw eich diwrnod gwaith?

Rydw i’n mynd ar y safle rwy’n gweithio arno’n gynnar, yn rhoi’r tegell ymlaen ac yna’n cael sgwrs â’r hogiau. Mae’n braf gweithio gyda phobl sydd â diddordebau tebyg ac y gallwch chi gyd-dynnu â nhw. Er ein bod yn brysur bob amser, mae gweithio gyda ffrindiau’n gwneud y gwaith hyd yn oed yn fwy pleserus. Yna, fe fydda i’n cael tasg ar gyfer y diwrnod ac wedyn rwy’n hoffi bwrw ymlaen â’r dasg. Mae’r mentoriaid o Seddon wrth law bob amser, os oes angen cyngor a’u harbenigedd arnoch chi. Mae cydbwysedd gwych o ran annibyniaeth a gwaith tîm ar safleoedd Seddon. Mae’r cynllun prentisiaeth yn cynnig cymysgedd braf o ddysgu yn y coleg ac ar y safle, felly mae’n eithaf amrywiol. 


Pa sgiliau sydd eu hangen arnoch yn eich swydd?

Rwy’n credu ei bod yn bwysig bod yn drefnus, yn ogystal â bod yn llygad craff i sylwi ar fanylion. Rydw i’n hoffi creu darlun yn fy nychymyg o’r strwythur y gofynnir i mi ei adeiladu wrth edrych ar y cynlluniau, felly mae cael ychydig o ddychymyg yn helpu hefyd. Ond mae sgiliau’r grefft yn dod yn nes ymlaen ac mae’n wych cael staff sy’n gwybod popeth sydd i’w wybod am eu crefft yn eich hyfforddi chi. Pan ddechreuais fy mhrentisiaeth, allwn i ddim gosod bricsen. Gyda chymorth Stuart a Kevin Ripley, sydd wedi dyfalbarhau gyda fy hyfforddiant, rydw i wedi cyrraedd rownd derfynol gosod brics Adeiladu Sgiliau. 


Beth oedd eich cefndir cyn dechrau’r rôl hon?

O oedran cynnar, roedd gen i obsesiwn â pheiriannau cloddio ac offer. Roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau gweithio yn y diwydiant adeiladu a dim arall. Ar ôl dilyn y cyrsiau iawn yn y coleg, fe wnes i gais am brentisiaeth gyda Seddon a, diolch byth, fe wnes i lwyddo! 


Beth ydych chi'n ymfalchïo ynddo fwyaf yn eich gyrfa?

Yn yr hydref eleni, byddaf yn cynrychioli fy ngholeg a Seddon yn rownd derfynol genedlaethol gosod brics Adeiladu Sgiliau, sy’n anghredadwy! Yn ddiweddar, mi ddes i’n gyntaf yn rowndiau rhanbarthol Adeiladu Sgiliau i hawlio lle ar y llwyfan cenedlaethol. Rwy’n siŵr y byddai llawer o bobl ar y cwrs wrth eu bodd yn gwneud yr un peth, ac rwy’n falch iawn o hynny. Pan ddechreuais ar y brentisiaeth, doeddwn i ddim yn meddwl am eiliad y byddai gosod brics yn arwain at hyn. Cyn y wobr Adeiladu Sgiliau, fe wnes i hefyd ennill gwobr ‘Prentis y Flwyddyn’ gan Goleg Tameside, a gwobr ‘Un i’w Wylio’ Seddon. Mae’n anhygoel cael eich cydnabod ac mae’n gwneud y gwaith caled yn werth chweil!


Ble rydych chi'n gweld chi eich hun ymhen deng mlynedd?

Mae’n anodd gwybod lle’n union y bydda i mewn deng mlynedd, ond rwy’n siŵr y bydd gen i ddyfodol ym maes adeiladu. Rydw i wedi cyflawni llawer mwy na feddylies i, felly pwy ŵyr ble fydda i’n ei gyrraedd gyda’r un athrawon gwych. Yn y dyfodol agos, hoffwn fynd ar gwrs HNC nesaf gan fy mod yn dal yn awchu i ddysgu llawer mwy am y grefft a’r diwydiant. 


Unrhyw gyngor i rywun sy'n ystyried dilyn gyrfa yn y diwydiant adeiladu? 

Yn fwy na dim, ewch amdani! Ers dechrau’r brentisiaeth gyda Seddon, rydw i wedi mwynhau pob munud a dydw i heb edrych yn ôl o gwbl. Mae’n wych gallu dysgu wrth ennill cyflog, sy’n beth prin. Os oes eisoes gennych chi ddiddordeb mewn adeiladu neu os ydych chi eisiau dysgu mwy, yna gwnewch hynny, rwy’n siŵr y byddwch chi’n mwynhau cymaint ag rydw i’n ei wneud. Wela’ i chi yn Adeiladu Sgiliau!