Rwy’n gweithio i Read Construction Holdings Ltd, fel Rheolwr Safle Cynorthwyol.

Rydw i wedi bod yn gyfrifol am sefydlu cyfleuster lles y safle, sy’n cynnwys rheoli archifau’r safle, monitro danfoniadau, cwblhau sesiynau cynefino diogelwch ar y safle a rhoi gweithdrefnau iechyd a diogelwch ar waith.

Rydw i wrth fy modd yn gallu gweld sut mae prosiect yn dod yn ei flaen â’m llygaid fy hun. Rwy’n cael boddhad mawr o weld prosiect y bues i’n ei reoli, ei drefnu, ei raglennu a chynllunio ar ei gyfer yn datblygu’n raddol.

Case study
Category Information
Lleoliad Wrecsam
Cyflogwr Read Construction Holdings Ltd

Pa lwybr addysg wnaethoch chi ei ddilyn o’r ysgol uwchradd i’r lle rydych chi heddiw? 

Dechreuais yn ifanc pan roddodd y cyngor gyfle imi gwblhau fy mhrofiad gwaith ysgol uwchradd yn yr adran adnewyddu tai. Rhoddodd hyn flas i mi ar y diwydiant, a gwneud i mi sylweddoli bod hon yn yrfa yr hoffwn ei dilyn. Ar ôl i mi adael yr ysgol uwchradd, fe wnes i astudio ar gyfer BTEC mewn Adeiladu yn y coleg. Er mwyn ehangu fy ngwybodaeth i fwy o agweddau ar yr amgylchedd adeiledig, mi wnes i hefyd fynychu cwrs AutoCAD 2D unwaith yr wythnos.

Ar ôl mynd i’r coleg, es i Brifysgol John Moores Lerpwl, gan astudio gradd mewn Arolwg Adeiladau. Yn ystod y gwyliau, roeddwn yn gweithio i gwmni arolygu yn Lerpwl i gael cymaint o brofiad â phosib. Ers hynny, rydw i wedi cwblhau fy Nghynllun Hyfforddiant Diogelwch i Reolwyr Safle (CITB SMSTS), cwrs Cenhadon Adeiladu, ac wedi bod i nifer o ddigwyddiadau hyfforddiant Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn Read Construction.

Allwn i ddim argymell mynd i’r maes adeiladu ddigon. Mae’r diwydiant mor amrywiol, ac mae rhywbeth i bawb. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw rhoi cynnig arno ac, yn fuan iawn, fe ddewch chi o hyd i’r rôl rydych chi’n teimlo’n angerddol amdani.

Jess Rooney

Rheolwr safle cynorthwyol

Dywedwch ychydig mwy wrthym am ble rydych chi’n gweithio, a’ch rôl. 

Yn fy rôl, rwy’n gorfod mynd i gyfarfodydd cynnydd, a chysylltu â’r cleient rydyn ni’n gweithio iddo a phob parti sy’n gysylltiedig â’r prosiect, a rheoli pwyntiau BREEAM (Methodoleg Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu). Agwedd bwysig arall ar fy swydd yw gweithio gyda’r tîm Budd Cymunedol ar lefel safle, a chyfrannu at dudalen Facebook Cymunedol y Prosiect. 


Beth yw eich hoff beth am eich swydd? 

Yr hyn rwy’n ei hoffi fwyaf yw’r gwaith tîm sy’n digwydd ar brosiect; o’r Rheolwr Safle, Syrfëwr Meintiau i weithwyr y safle – mae pawb yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau prosiect llwyddiannus. 


Beth yw uchafbwynt eich diwrnod? 

Mae’n wych gweld nodau’n cael eu cyflawni drwy gydol y prosiect, a’r canlyniad terfynol yw’r uchafbwynt i mi, heb os.


Ble hoffech chi i’ch gyrfa fynd â chi? 

Rydw i’n mynd i barhau i fynychu cyrsiau a chael profiad o brosiectau fel Rheolwr Safle Cynorthwyol, ac i reoli fy mhrosiect gwerth miliynau o bunnoedd fy hun, gobeithio. 


Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth rywun sy’n ystyried gyrfa ym maes adeiladu? 

Mae adeiladu’n ddiwydiant mawr ac amrywiol iawn, gyda miloedd o swyddi a llwybrau gyrfa i’r diwydiant. Os nad ydych chi’n siŵr pa agwedd yr hoffech chi ganolbwyntio arni, byddwn yn argymell dechrau gyda BTEC mewn Adeiladu cyffredinol fel y gwnes i ar ôl i mi adael yr ysgol. Bydd hyn yn rhoi blas i chi ar wahanol elfennau'r diwydiant, a bydd hyn wedyn yn eich helpu i fynd ymlaen i'r brifysgol ac astudio am radd fwy arbenigol.

Yn y pen draw, y cyngor gorau y gallwn ei roi yw manteisio ar unrhyw gyfle y cewch chi, a mynd ar gyrsiau drwy gydol eich addysg a’ch cyflogaeth. Mynychwch gyrsiau ychwanegol i ehangu eich sgiliau a manteisio ar unrhyw gyfle y cewch chi i fynd ar brofiad gwaith. Dydych chi byth yn peidio dysgu pethau newydd yn y diwydiant adeiladu gyda mwy a mwy o dechnolegau newydd yn cael eu defnyddio. Felly bydd ennill y profiad nawr yn helpu i roi hwb i chi ar yr ysgol yrfa ym maes adeiladu yn y dyfodol.