Ar ôl graddio yn y brifysgol a gweithio ym maes manwerthu a lletygarwch, penderfynodd Sophie roi cynnig ar rywbeth gwahanol a gwnaeth gais am brentisiaeth adeiladu. Ers hynny, mae hi wedi ennill gwobr Prentis y Flwyddyn CITB ac mae bellach yn Rheolwr Safle dan Hyfforddiant ar ysbyty newydd yn Orkney.

Mae cymaint o wahanol rolau ym maes adeiladu, felly mae’n braf peidio â theimlo eich bod yn cael eich cyfyngu i un llwybr penodol.

Case study
Category Information
Lleoliad Orkney
Cyflogwr Robertson

Sut wnaethoch chi fynd i’r maes adeiladu?

Es i’r brifysgol yn syth ar ôl fy mlwyddyn olaf yn yr ysgol. Astudiais Ffotograffiaeth a Ffilm gan fy mod i wir yn mwynhau’r pwnc, ond doeddwn i byth yn teimlo y byddai’n addas imi fel gyrfa. Ar ôl i mi adael y brifysgol, es i weithio ym maes manwerthu a lletygarwch tra’r oeddwn yn penderfynu i ba gyfeiriad i fynd â’m gyrfa. Gwelais y cyfle am brentisiaeth ym maes adeiladu, ac roedd yn apelio’n fawr ataf. Penderfynais achub ar y cyfle a dydw i erioed wedi difaru!

Doedd gen i ddim profiad adeiladu iawn cyn hynny ond y peth da am brentisiaethau yw eich bod chi yno i ddysgu. Yr unig beth rwy'n difaru yw na wnes i ystyried dilyn prentisiaeth yn syth o’r ysgol, oherwydd nid yn unig rydych chi’n dysgu cymaint o sgiliau, ond rydych chi’n ennill cyflog hefyd, rhywbeth na allwch chi ei wneud yn yr un ffordd yn y brifysgol.

Gwnewch eich gorau i gael cymaint o gyfleoedd i weithio ar wahanol safleoedd ag y gallwch oherwydd mae profiad yn amhrisiadwy yn y diwydiant hwn ac rydych chi’n bendant yn dysgu orau pan fyddwch chi’n gallu gweld rhywbeth yn digwydd.

Sophie Turner

Rheolwr safle dan hyfforddiant

Dywedwch fwy wrthym am eich profiad fel prentis.

Yn ystod fy mhrentisiaeth, fe wnes i ddarganfod faint roeddwn i wrth fy modd â’r diwydiant Adeiladu ac ar ôl i mi gwblhau fy mhrentisiaeth roeddwn i’n awyddus i symud ymlaen gyda’m gyrfa. Fe wnaeth CITB fy nghefnogi drwy gydol fy mhrentisiaethau, gydag ymweliadau rheolaidd gan fy swyddog prentisiaethau pan oeddwn yn y coleg, ac yn fy man gwaith arferol. Roedden nhw’n gwneud yn siŵr fy mod i’n cael gwaith a oedd yn berthnasol i’m prentisiaeth a’m bod yn cael fy nhalu’r swm cywir.

Ar lefel bersonol, roedden nhw’n gwneud yn siŵr fy mod i’n hapus ac yn cael cefnogaeth, ac os oedd gen i unrhyw gwestiynau neu faterion roedden nhw bob amser yno i helpu. 

Ar ôl defnyddio Am Adeiladu i archwilio gwahanol lwybrau gyrfa a gweld pa rolau a fyddai’n addas, fe wnaeth fy nghyfeirio at rôl reoli, felly penderfynais astudio ar gyfer HNC mewn Rheoli Adeiladu gyda’r nosau. Roeddwn i’n teimlo y byddai hyn yn rhoi’r cyfle gorau i mi symud ymlaen ac yn ffodus llwyddais i gael swydd fel Rheolwr Safle dan Hyfforddiant gyda Robertson sy’n adeiladu ysbyty newydd yn Orkney. Dydy prosiectau mawr ddim yn digwydd yn aml mewn lle bach fel hwn, felly mae’n gyfle gwych.


Beth ydych chi’n ei hoffi am y maes adeiladu?

Rwy’n hoffi’r ffaith fy mod yn cael cyfle i gyfrannu at brosiect mor fawr. Mae’n bwysig i’r gymuned rwy’n byw ynddi, felly mae’n wych gweld yr effaith y bydd yn ei chael. Mae’n dda cael gweld yr holl waith sy’n cael ei wneud a dysgu am yr holl rolau gwahanol ar safle adeiladu, yn ogystal â gweld y prosiect yn datblygu o’r dechrau i’r diwedd.

Rwy’n cael cwrdd â llawer o wahanol bobl â phrofiad sylweddol yn y diwydiant, a gall hyn fy nghefnogi a’m hannog i ddysgu. Mae Robertson yn gwmni cyffrous i weithio iddo ac rydw i wrth fy modd yn cael bod yn rhan o'r tîm. 


Pa sgiliau sydd eu hangen arnoch yn eich swydd?

O ran rheoli safleoedd, rwy’n credu bod gwaith tîm yn sgil allweddol gan fod cynifer o bobl yn gysylltiedig â'r gwaith ar y safle a'r tu ôl i’r llenni, felly mae angen i chi allu gweithio gyda llawer o bobl o gefndiroedd a chrefftau gwahanol – o grefftwyr i beirianwyr. Mae hefyd angen i chi fod yn drefnus ac yn drylwyr, gan eich bod yn ymwneud ag ansawdd y gwaith a’r iechyd a diogelwch ar y safle. 


Soniwch am rywbeth rydych chi’n falch iawn ohono yn eich gyrfa.

Uchafbwynt fy mhrentisiaeth yn bendant yw ennill gwobr Prentis y Flwyddyn CITB – allwn i ddim credu! Nid yn unig yr oedd yn teimlo fel cyflawniad gwych, ond cefais ddiwrnod gwych yn clywed am yr hyn yr oedd y prentisiaid eraill wedi’i gyflawni. Cefais gyfle i gwrdd â llawer o bobl ysbrydoledig ar y diwrnod, ac mae’n hwb mawr i fy CV!


Ydych chi’n teimlo bod eich potensial o ran ennill cyflog ym maes adeiladu yr hyn roeddech chi’n ei ddisgwyl?

Mae wedi bod yn wych cael fy nhalu wrth ddysgu yn y rôl, ac wrth i’m sgiliau ddatblygu bydd fy nghyflog yn cynyddu ac yn adlewyrchu hynny.

Rydw i’n falch iawn o sut mae fy nghyflog wedi codi dros amser ac mae cael y cynnydd hwn mewn cyflog yn golygu bod fy mhartner a minnau nawr mewn sefyllfa i adeiladu ein cartref ein hunain gyda morgais hunanadeiladu. Mae’n blymwr (roedd o wedi dilyn prentisiaeth hefyd) felly gyda’n profiad adeiladu mae’n gyfnod cyffrous iawn i ni.


Ble rydych chi'n gweld chi eich hun ymhen pum mlynedd?

Fe fyddwn i’n hoffi parhau i ddysgu a datblygu. Rwy’n awyddus i astudio am radd mewn Adeiladu Cynaliadwy ar ôl cwblhau fy HNC gan fy mod yn teimlo mai dyna lle mae dyfodol adeiladu.

Un diwrnod, hoffwn edrych ar ôl fy mhrosiect fy hun, felly mae rheoli prosiect yn ddewis gyrfa arall y gallwn edrych arno. Mae cymaint o wahanol rolau ym maes adeiladu, felly mae’n braf peidio â theimlo eich bod yn cael eich cyfyngu i un llwybr penodol. 


Oes gennych chi unrhyw gyngor i rywun sy'n meddwl am yrfa yn y diwydiant adeiladu?

Gweithiwch yn galed yn yr ysgol! Peidiwch byth â meddwl na fyddwch yn defnyddio rhai pynciau gan fy mod yn defnyddio’r fformiwlâu mathemategol ‘na y dysgais yn yr ysgol erbyn hyn i wneud fy ngwaith yn y coleg.
Gwnewch eich gorau i gael cymaint o gyfleoedd i weithio ar wahanol safleoedd ag y gallwch oherwydd mae profiad yn amhrisiadwy yn y diwydiant hwn ac rydych chi’n bendant yn dysgu orau pan fyddwch chi’n gallu gweld rhywbeth yn digwydd.

Defnyddiwch wefannau fel Am Adeiladu hefyd oherwydd mae cymaint o wybodaeth arnyn nhw am y gwahanol rolau y gallwch chi ddod o hyd iddynt ym maes adeiladu, felly gallai eich helpu i ddod o hyd i’r llwybr gorau ar gyfer eich gyrfa.