Pan adawes i’r ysgol, roedd gen i wyth CSE, ac fe wnes i ymgymryd â sawl swydd, gan gynnwys fel prentis saer weldio a weldiwr, gyrrwr HGV, gweithredwr peiriannau trwm a’r labrwr â llaw.

Treuliais bum mlynedd hefyd yn y Lluoedd Arfog yn eu Corfflu Logisteg. Pan oeddwn yn 32 oed, penderfynais gofrestru ar gwrs adeiladu ONC i ddatblygu fy ngyrfa, gyda’r bwriad o ddod yn Beiriannydd Sifil.

At ei gilydd, treuliais naw mlynedd yn y brifysgol yn rhan amser yn ennill y cymwysterau academaidd oedd eu hangen arnaf a chael fy hyfforddi yn y gwaith, a chefnogodd fy nghyflogwr y cyfan.

Felly mae gen i Ddyfarniad BTEC Cenedlaethol mewn Adeiladu o Goleg Ystrad Mynach, BSc (Anrh) mewn Peirianneg Sifil ac Adeiladu o Brifysgol Cymru, Casnewydd ac MSc (Anrh) mewn Peirianneg Sifil o Brifysgol De Cymru. 

Pan fyddwch chi’n gweld rhywbeth rydych chi wedi’i ddylunio yn cael ei osod yn ei le – mae hynny’n deimlad gwych!

Case study
Category Information
Lleoliad Caerffili
Cyflogwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Disgrifiwch ychydig mwy am yr hyn rydych chi’n ei wneud yn eich swydd.

Rydw i’n gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn nhîm strwythurau eu Grŵp Prosiectau Peirianneg. Mae fy llwyth gwaith yn amrywiol iawn ac yn cynnwys: dylunio, asesu, cynnal ac archwilio pontydd a cwlfertau (twnelau sy’n cario nentydd neu ddraeniau agored o dan ffyrdd neu reilffyrdd), llunio dogfennau tendro a biliau o feintiau ar gyfer prosiectau, a gwirio a phrosesu anfonebau.

Rydw i hefyd yn arolygu ac yn goruchwylio gwaith adeiladu ar y safle, yn gwirio’r gwaith gosod allan, ac rwy’n sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn unol â manyleb y prosiect. Agwedd arall ar fy swydd yw cynorthwyo aelodau iau’r tîm, sydd newydd ddechrau mewn swyddi adeiladu, a datblygu eu sgiliau ymhellach. 

Gosodwch eich golygon ar yr yrfa rydych chi ei heisiau a mynd amdani...mi wnes i ddyfalbarhau a chael fy ngwobrwyo... os galla i wneud hyn, yna gallwch chi hefyd!

Carl Bugler

Uwch Beiriannydd Cynorthwyol, Strwythurau

Beth yw eich hoff beth am eich swydd?

Rydw i wir yn mwynhau pa mor amrywiol a gwerth chweil yw fy swydd. Rwy’n cymryd rhan ym mhob cynllun o’r dechrau i’r diwedd. Rydw i’n rheoli fy amser fy hun, felly rydw i’n gallu mynd allan i’r safleoedd i oruchwylio pob un o’m cynlluniau yn ystod y cyfnod adeiladu.

Pan fyddwch chi’n gweld rhywbeth rydych chi wedi’i ddylunio yn cael ei osod yn ei le – mae hynny’n deimlad gwych!


Beth yw uchafbwynt eich diwrnod?

Rhan o’m gwaith yw delio â cheisiadau am wasanaeth sy’n dod i law gan aelodau o’r cyhoedd. Pan fydd rhywun wedi cwyno am ddiffyg, er enghraifft wal gynnal sy’n beryglus yn eu barn nhw, fy nghyfrifoldeb i yw mynd i’w harchwilio ac yna ysgrifennu adroddiad ffeithiol am fy nghanfyddiadau a’m hargymhellion.

Byddaf yn cysylltu â’r aelod o’r cyhoedd ac yn eu tywys drwy fy adroddiad ac unrhyw gamau i’w cymryd. Mae’r ganmoliaeth a’r diolch rwy’n ei gael gan y person hwnnw wir yn fy ngwneud yn hapus am weddill y diwrnod.


Ble hoffech chi i’ch gyrfa fynd â chi?

A dweud y gwir, rydw i eisoes wedi cael swydd well nac oeddwn i’n meddwl y gallwn ei chael mewn peirianneg strwythurol, gan fy mod i ychydig yn hŷn pan ddechreuais weithio yn y diwydiant adeiladu, felly’r cyfan rwyf eisiau ei wneud yw datblygu cymaint ag y gallaf.


Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth rywun sy’n ystyried gyrfa ym maes adeiladu?

Fy nghyngor i fyddai ymchwilio’n ofalus i’r gwahanol yrfaoedd adeiladu, a cheisio cyngor gan bobl sy’n gweithio yn y proffesiwn o’ch dewis.

Byddwn hefyd yn dweud wrthych chi osod eich golygon ar yr yrfa rydych chi eisiau ei chael, ac yn mynd amdani. Pan es i yn ôl i fyd addysg yn 32 oed, roedd yn dipyn o sioc i’r system, ond fe wnes i ddyfalbarhau a chael fy ngwobrwyo pan gefais gynnig swydd fel Technegydd yn Adran Strwythurau’r Grŵp Prosiectau Peirianneg ar ôl cyfweliad llwyddiannus, pan oeddwn yn 35 oed. Os galla i wneud hyn, yna gallwch chi hefyd!

Ewch i’r Chwilotwr Gyrfa A-Y i gael gwybodaeth am yr amrywiaeth eang o swyddi sydd ar gael yn y diwydiant adeiladu