Facebook Pixel

Rownd Derfynol Genedlaethol y DU

Rownd Derfynol Genedlaethol SkillBuild 2024

Byddwn yn dychwelyd i Arena Marshall yn Milton Keynes ar gyfer Rownd Derfynol Genedlaethol SkillBuild 2024, a gynhelir ddydd Mawrth 19eg - dydd Iau 21ain o Dachwedd.


Enillwyr Rownd Derfynol Genedlaethol SkillBuild 2023

Cyhoeddwyd yr enillwyr ar ôl i 78 o hyfforddeion adeiladu fynd benben âi gilydd dros dridiau.

Cynhaliwyd y Rownd Derfynol Genedlaethol yn Arena Marshall ym Milton Keynes ar 21 – 23 o Dachwedd. Denodd y digwyddiad tua 1,000 o ymwelwyr, gan arddangos yr amrywiaeth o sgiliau a chyfleoedd gyrfa a oedd ar gael yn y diwydiant.

Ar draws y tridiau cafodd cystadleuwyr y dasg o adeiladu prosiect a ddyluniwyd gan banel arbenigol o feirniaid, o fewn amserlen 18 awr. Mae'r prosiect yn profi gwybodaeth a sgiliau'r unigolyn, yn ogystal â'u gallu i weithio dan bwysau, gan sicrhau eu bod yn cadw at brotocolau iechyd a diogelwch.


Dyluniwyd y wefan gan S8080