Facebook Pixel

Beth yw manteision cymryd rhan yn gystadleuaeth SkillBuild?

Manteision i ddysgwyr a phrentisiaid:

  • Gwella sgiliau technegol a chyflogadwyedd ac ychwanegu at eich CV
  • Dysgu sgiliau newydd yn eich crefft
  • Profi eich hun yn erbyn dysgwyr eraill
  • Cystadlu mewn amgylchedd cyfeillgar, amrywiol ac ysbrydoledig
  • Dewisiadau gyrfa gwell

Manteision i golegau a darparwyr hyfforddiant:

Drwy ddangos eich ymrwymiad a’ch cefnogaeth i’r myfyrwyr sy’n cystadlu, rydych chi’n gwneud y canlynol:

  • Grymuso eich myfyrwyr a’ch prentisiaid i weithio’n effeithlon dan bwysau
  • Dangos i ESTYN sut rydych chi’n bodloni safonau’r fframwaith arolygu drwy ddefnyddio gweithgareddau cystadlu i ddarparu hyfforddiant o ansawdd uchel
  • Asesu sgiliau gweithredol eich myfyrwyr a’ch prentisiaid yn erbyn sefyllfaoedd gwaith go iawn
  • Dangos ansawdd eich rhaglenni hyfforddi drwy lwyddiant mewn cystadlaethau
  • Darparu ffordd unigryw o gyfuno addysgu, dysgu ac asesu er mwyn sicrhau canlyniadau go iawn ar gyfer dysgwyr a phrentisiaid o bob oed a gallu

Manteision i gyflogwyr:

  • Rhoi hwb i berfformiad eich busnes yn y tymor hir
  • Dysgu eich prentisiaid i weithio’n effeithlon dan bwysau
  • Tynnu sylw at ymrwymiad eich sefydliad i godi safonau mewn dysgu seiliedig ar waith.
  • Codi safonau eich prentis i lefel ryngwladol
  • Trawsnewid set sgiliau eich prentis
Dyluniwyd y wefan gan S8080