Facebook Pixel

Trosolwg o’r gystadleuaeth plastro

Mae plastrwr yn defnyddio plastr dan gôt isaf a gorffeniad y tu mewn i eiddo. Gallan nhw hefyd wneud mowldiau ar gyfer mannau addurniadol fel nenfydau a waliau.

Mae’r plastrwr yn anhepgor ar gyfer y rhan fwyaf o safleoedd gwaith domestig a masnachol, gan wneud waliau a nenfydau’n llyfn ac yn barod i’w haddurno, yn ogystal ag amryw o ofynion eraill fel ynysu rhag sŵn a diogelu rhag y tywydd. Maen nhw’n cymysgu ac yn defnyddio gwahanol fathau o blastr ar waliau a nenfydau mewnol ac yn gorchuddio waliau allanol â deunyddiau araenu fel rendr tywod a sment, cerrig chwipio, deunyddiau ag effaith cerrig, a hyd yn oed gorffeniadau a osodir â pheiriant.

Mae dau fath o blastrwr, Plastrwr Soled a Phlastrwr Ffibrog, ond mae llawer yn gwneud y ddau. Plastro soled yw rhoi gorffeniadau gwlyb ar arwynebau a gosod gorchuddion gwarchodol fel cerrig chwipio ar waliau allanol. Mae plastro ffibrog yn golygu creu gwaith plastr addurnol (fel rhosynnau nenfwd a chornisiau) gan ddefnyddio cymysgedd o blastr a ffibrau byr wedi’u siapio gyda mowldiau a chastiau.

Mae’r gystadleuaeth hon wedi’i chynllunio i adlewyrchu rôl plastrwr a’r safonau a ddisgwylir yn y diwydiant adeiladu.

 


Trosolwg o'r gystadleuaeth

Bydd cystadleuwyr yn cael eu marcio trwy gydol y gystadleuaeth:

  • Rhaid i gystadleuwyr weithio ar sail goddefiannau o fewn +/- 3mm
  • Mae'n rhaid i gystadleuwyr weithio mewn modd diogel a byddant yn colli marciau os na chydymffurfir â hyn

Gwybodaeth gyffredinol:

  • Yn y Rowndiau Cymhwyso Rhanbarthol, yr amser hiraf y gellir gweithio ar y dasg yw 6 awr
  • Yn Rownd Derfynol Genedlaethol y DU, 18 awr yw’r amser hiraf y gellir gweithio ar y dasg

Cymwyseddau craidd

I gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, dylech allu gwneud y canlynol:

  • Dehongli darluniau
  • Deall geometreg sylfaenol
  • Gallu treulio amser yn gweithio’n iawn ac yn gweithio ar gyflymder a fydd yn caniatáu cwblhau o fewn 6 awr
  • Cynllunio ar gyfer y dasg a darparu’r offer gofynnol ar ei chyfer
  • Defnyddio Cyfarpar Diogelu Personol yn briodol
  • Gosod a chotio i gôt denau ac isbientio rhesi metel
  • Cymysgu a defnyddio plastr gyda chyn lleied â phosibl o wastraff. Bydd y rhain yn cynnwys tanbeintio a gorffeniadau ysgafn
  • Gallu cymysgu a defnyddio plastrau castio mân gyda chyn lleied â phosibl o wastraff
  • Gosod ar gyfer, rhedeg a lleoli mowldiau panel ffibrog yn gywir. Bydd y mowldiau hyn yn syth ac yn grwm, a bydd angen eu stopio i mewn a’u meitro
  • Gweithio yn unol â goddefiannau o +/- 2mm i 3mm yn dibynnu ar hyd,
  • Cadw'r ardal gwaith yn lân a thaclus
  • Gweithio mewn modd diogel

 

Dyluniwyd y wefan gan S8080